Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cwrs cyfrwng Saesneg yw hwn. Gweler y cwrs cyfrwng Cymraeg yma.
Mae'r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr. Mae'r byd addysg yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd y rhaglen, sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran-ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol. Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu ag Kaydee Owen.
Mae hon yn raglen dysgu cyfunol sy'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb lleol a dysgu arlein ar gyfer pob modiwl. Bydd deunyddiau ac adnoddau ar gael ar blatfform dysgu proffesiynol HWB Llywodraeth Cymru a bydd myfyrwyr yn cael mynediad i'r deunyddiau a'r adnoddau trwy ddolen trwy Amgylchedd Ddysgu Rhithiol eu sefydliad cofrestru.
Bydd y rhaglen yn rhoi i'r cyfranogwyr y profiadau dysgu allweddol er mwyn cefnogi eu hymchwil a'u hymholiad i ym arfer proffesiynol. Bydd yn ychwanegu at eu sgiliau arwain, annog awtonomi proffesiynol a chyrfhau barn broffesiynol ym mhob cyd-destun a sefyllfa. Bydd y pwyslais seiliedig ar arfer hwn yn arwain at ymarferwyr addysgol a fydd yn gweithredu'n foesegol, yn datblygu sgiliau critigol mewn ymchwil ac ymarfer, yn cydweithio ac yn ymateb mewn modd arloesol i heriau yn eu bywyd gwaith.
Mae tri llwybr rhaglen gwahanol ar gael:
MA Addysg (Cymru) – mae hwn yn gwrs cyffredinol ac mae'n cynnwys astudio dau fodiwl dewisol sydd wedi'u cyfuno ag astudio dau fodiwl gorfodol - Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch a Thraethawd Hir.
MA Addysg (Cymru) Arweinyddiaeth – mae'r cwrs astudio hwn yn cynnwys astudio dau fodiwl arbenigol mewn arweinyddiaeth ynghyd ag astudio dau fodiwl gorfodol, sef y modiwl Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch eraill a Thraethawd Hir sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth mewn addysg.
MA Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu â Chymorth - mae'r cwrs astudio hwn yn cynnwys astudio dau fodiwl arbenigol mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol ynghyd ag astudio dau fodiwl gorfodol, sef y modiwl Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch Eraill a Thraethawd Hir sy'n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn addysg.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhai llefydd ar y rhaglen ar gyfer athrawon sydd yn byw yng Nghymru ac sy'n cael eu cyflogi o leiaf 0.4 (o amser llawn) o fewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Gofyniad arall ydy bod yr athrawon ym mlynyddoedd 3-6 eu gyrfa. Gweler y tab costau am fanylion pellach.
Gan fod hon yn raglen rhan amser dros 3 blynedd, nid yw'n cael ei chynnig i fyfyrwyr rhyngwladol ac er ei fod ar gael i ymgeiswyr o gefndiroedd sydd ddim yn ymwneud gydag addysgu yng Nghymru, ni fyddai'r ymgeiswyr hynny yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Efallai ei fod yn bosibl defnyddio cymwysterau Lefel 7 (e.e. TAR) fel dysgu blaenorol hyd at 60 credyd y rhaglen meistr hon er mwyn gallu cwblhau'r cwrs yn gyflymach.
Fideo - MA Addysg (Cymru) Cenedlaethol
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs yn parhau am 3 blynedd ac yn un rhan amser. Nid oes opsiwn amser llawn. Bydd y dysgu yn gyfuniad o wyneb yn wyneb ac arlein. Bydd y gweithgareddau yn gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol.
Bydd yr asesu yn aseiniadau gwaith cwrs ac fe'u cyflwynir ar ddiwedd pob modiwl. Pan fydd hynny'n bosibl, bydd yr aseiniadau wedi cael eu cynllunio i gyd-fynd â chyd-destun gwaith ac amserlenni athrawon amser llawn.
Bydd 'Egwyddorion Dysgu Proffesiynol yng Nghymru ar Lefel Meistr' yn llywio cynnwys addysgeg yr elfennau wyneb yn wyneb ac arlein y modiwlau. Y chwech egwyddor yw:
- Mae dysgu proffesiynol yn cael ardrawiad cadarnhaol ar yr holl ddysgwyr sydd yng nghanol yr NAPL.
- Mae dysgu proffesiynol yn galluogi pob ymarferwr i feithrin agwedd barhaus, critigol, cyd-destunol a chydweithiol i ymarfer proffesiynol.
- Mae'r dysgu proffesiynol yn cael ei arwain gan anghenion a diddordebau'r ymarferwyr unigol yn unol â Chenhadaeth ein Cenedl.
- Mae dysgu proffesiynol yn datblygu sgiliau ymchwil ac ymholi yn ogystal â gwybodaeth y cyfranogwyr trwy ddadansoddi critigol ac adfyfyrio ar ymarfer.
- Mae dysgu proffesiynol yn meithrin llythrennedd ymchwil ac arfer seiliedig ar dystiolaeth.
- Mae dysgu proffesiynol yn dyfnhau gwybodaeth am gynnwys addysgegol ac yn arwain at wella ymarfer a barn broffesiynol.
Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys:
- Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Rhagoriaeth Mewn Ymarfer
- Cynllunio A Gwireddu'r Cwricwlwm
- Arfer sy'n seiliedig ar Dystiolaeth
Diwrnodau Cyflenwi Cynadleddau Cenedlaethol (yn dechrau Medi 2023)
Tymor 1
- 22 Hydref 2022
- 19 Tachwedd 2022
Tymor 2
- 11 Chwefor 2023
- 11 Mawrth 2023
Tymhorau 2 a 3 (ADY a Llwybrau Arweinyddiaeth yn Unig)
- 24 Mehefin 2023
- 15 Gorffennaf 2023
Sesiynau Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch (yn dechrau Medi 2023)
Sesiwn Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch: 16:00 – 18:00 |
XME 4312 Pwnc Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch (yn dechrau Medi 2023) |
13.10.22 | Maes 1: Cynllunio astudiaeth ymchwil/ymholi |
10.11.22 | LC 1 a 2 |
26.01.23 | Maes 2: Archwilio trafodaethau mewn Ymchwil Addysgol |
16.03.23 | Maes 3: Dyluniad Ymchwil 1: Methodolegau; Paradeimau a Safbwyntiau |
18.05.23 | LC 3 a 4 |
16.06.23 | Maes 4: Dyluniad Ymchwil 2: Dulliau, Dadansoddiad a Chynrychiolaeth |
Ariannu
Cytunwyd bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi unigolion ar ddechrau eu gyrfa (blynyddoedd 3-6 o weithio fel athro) i allu cael mynediad i'r Rhaglen Meistr o 2021 (gan dalu am gost y cwrs).
Mae'r wybodaeth isod yn nodi'r hyn sydd yn rhaid ei gael i fod yn gymwys i dderbyn cyllid ar gyfer y Rhaglen. Bydd y Prifysgolion yn penderfynu addasrwydd academaidd gan gynnwys unrhyw gyfwerthoedd credyd.
Cymwys i dderbyn cyllid?
Bwriedir symud i gyllido myfyrwyr Meistr y dyfodol (ymgeiswyr newydd o 2022 ymlaen) trwy wneud newidiadau i'r cynllun cyllido ôl-radd cyfredol a weinyddir gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Mae'r meini prawf isod yn benodol i fyfyrwyr sy'n cychwyn ar y rhaglen Meistr yn 2021 (gan y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu myfyrwyr trwy gyfrwng y llwybr grant hwn trwy gydol eu hastudiaethau). Efallai y bydd newid neu ychwanegiadau at y meini prawf ar gyfer myfyrwyr y dyfodol.
Mae hon yn rhaglen rhan amser yn unig ac nid yw ar gael i ddysgwyr rhyngwladol. Sylwer bod myfyrwyr nad ydynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn gallu cael mynediad i'r Rhaglen Meistr ond ni fyddant yn gallu cael y cyllid arbennig a nodir yma.
Gofynion cyllidio
Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddiwallu gofynion mynediad academaidd y Brifysgol ac i fod yn gymwys rhaid:
- Byw yng Nghymru
- Bod â gradd neu gymhwyster cyffelyb; meddu ar statws athro cymwysedig (SAC) ac wedi cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.
- Cael eu cyflogi fel athro yn y sector addysg orfodol yng Nghymru ar hyn o bryd.
- Cael eu cyflogi ar gytundeb o 0.4 (amser llawn) o leiaf. Gall hyn gynnwys athrawon cyflenwi sydd ar gytundebau tymor hir un ai gydag Awdurdod Lleol, ysgol neu asiantaeth.
- Rhwng blwyddyn 3 a blwyddyn 6 yn eu gyrfa ar ddechrau'r cwrs.
- Wedi eu derbyn/wedi cofrestru ar MA Addysg penodol a gynigir ym Mhrifysgol Bangor
- Dylai ymgeiswyr sicrhau cefnogaeth eu Pennaeth lle bo hynny'n bosibl yn ogystal â mynediad at hyfforddwr a mentor.
I egluro, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ar gyfer y cynllun hwn:
- Pan fo rhywun eisoes wedi cwblhau gradd Meistr mewn pwnc penodol, mae'n parhau i fod yn gymwys i ymgeisio am gyllid tuag at y rhaglen hon.
- Nid yw unrhyw gymhwyster Meistr mewn Addysg arall a gynigir gan y Sefydliadau Addysg Uwch yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Dylai pob ymgeisydd am gefnogaeth gyllidol gydnabod a chytuno i amod canlynol y cyllido:
- Wrth dderbyn y grant hwn, disgwylir i athrawon barhau i weithio yng Nghymru, o fewn y system addysg a gynhelir am gyfnod o leiaf o 2 flynedd ar ôl cwblhau'r rhaglen.
- Ni ddylai myfyrwyr sydd eisoes wedi derbyn y cyllid hwn wneud cais am gefnogaeth cyllidol ôl-radd pellach trwy'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Mae lleoedd wedi'u hariannu ar gael ar gyfer y llwybr Anghenion Dysgu â Chymorth mae'r meini prawf cymhwysedd yn cynnwys:
- Deiliaid statws athro cymwys (SAC) a bod wedi cofrestru gyda'r CGA.
- Yn cael eich cyflogi fel athro mewn ysgol, athro ymgynghorol mewn awdurdod lleol neu athro mewn lleoliad fel uned atgyfeirio disgyblion NEU fod yn ddarlithydd coleg a bod wedi'ch cofrestru gyda'r CGA.
- Meddu ar 60 credyd o ddysgu blaenorol ar Lefel Meistr. Rhaid i'r Sefydliad Addysg Uwch gydnabod y dysgu hwn yn ffurfiol.
- Cytuno wrth gofrestru y byddant yn symud o'r Llwybr Cyffredinol i'r Llwybr Anghenion Dysgu â Chymorth, unwaith y bydd ar gael.
- I drafod y rhestr lawn o feini prawf cymhwysedd neu i gael mwy o wybodaeth am y llwybr Anghenion Dysgu â Chymorth, cysylltwch â Kaydee Owen.
Y broses ar gyfer cael cyllid
Cytunir ar y grant rhwng Llywodraeth Cymru a'r Prifysgolion sy'n rhan o'r cynllun. Ni fydd unigolion yn gwneud cais am gefnogaeth i Lywodraeth Cymru na'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Cwestiynau Cyffredin am Gyllid.
Gweler y ddogfen Cymhwysedd Ariannu, Proses Dyrannu a Thelerau ac Amodau.
Gofynion Mynediad
Mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar Statws Athro Cymwysedig a chael eu cyflogi ar hyn o bryd yn y sector addysg gorfodol yn y DG. Gall ymgeiswyr sydd eisoes â chymwysterau lefel 7 cyfredol (e.e. TAR) gael caniatad i ddefnyddio hyd at 60 credyd o'u dysgu blaenorol tuag at radd Meistr a chwblhau'r radd Meistr dros gyfnod byrrach. Os ydych am gael rhagor o wybodaeth, yna os gwelwch yn dda cysylltwch gyda Kaydee Owen
Os ydych yn dymuno gwneud cais ond nad oes gennych TAR gyda 60 o gredydau lefel meistr neu gredydau lefel Meistr eraill y gellir eu trosglwyddo i'r cwrs hwn, efallai y gallwch wneud cais am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol gan ddefnyddio'r ffurflen RPL.
Ffurflen Gais Atodol: Sicrhewch eich bod yn llenwi pob rhan berthnasol o'r Ffurflen Gais Atodol a bod eich ffurflen wedi'i chwblhau yn cael ei chyflwyno gyda'ch cais (bydd y Brifysgol o'ch dewis yn darparu arweiniad ar sut i wneud hyn). Ni allwn ystyried ceisiadau heb y Ffurflen Gais Atodol.
Cwestiynau Cyffredin am Dderbyniadau.
Gweler ein Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol.