Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Datblygwch eich arbenigedd mewn Cyfraith Ryngwladol a Hawliau Dynol drwy astudio'r rhaglen hon ym Mhrifysgol Bangor fydd yn arwain at Radd Feistr LLM yn y Gyfraith. Mae’r cwrs yn eich grymuso i archwilio meysydd allweddol Cyfraith Ryngwladol, a byddwch yn edrych yn agosach ar sut mae'n effeithio'n uniongyrchol arnom ni fel pobl.
Yn ystod y cwrs LLM hwn byddwch yn craffu’n fanylach ar Gyfraith Ryngwladol Trosedd a Chyfraith Ryngwladol Hawliau dynol, gan feithrin dealltwriaeth fanwl o'r gyfraith a sut mae'n dylanwadu ar gyfiawnder ac yn amddiffyn dynoliaeth. Byddwch yn datblygu sylfaen gref mewn gwybodaeth gyfreithiol, a chyda dosbarthiadau bach, mentora unigol, ac amgylchedd dysgu cefnogol, cewch eich grymuso i droi gwybodaeth yn weithredu.
Mae'r rhaglen hon yn eich paratoi i wynebu'r heriau deallusol a phroffesiynol cymhleth y mae'r rhai sy'n gweithio ar faterion cyfreithiol sy'n effeithio ar unigolion mewn cyd-destun byd-eang yn eu hwynebu. Drwy waith cwrs meddylgar a dulliau addysgu deinamig, byddwch yn datblygu'r sgiliau meddwl beirniadol, yr arbenigedd technegol, a'r eangfrydedd sydd eu hangen i weithredu'n effeithiol ac yn gadarnhaol yn ein byd rhyngwladol
Dysgir y cwrs gan academyddion blaenllaw y mae eu hymchwil yn sbarduno newid byd-eang. Yn hynny o beth, mae’r rhaglen ôl-raddedig hon yn y Gyfraith yn cynnig y ddirnadaeth, yr hyblygrwydd a'r gefnogaeth i'ch helpu i greu effaith ystyrlon yn y byd o'ch cwmpas. P'un a ydych chi'n dewis dilyn gyrfa mewn eiriolaeth, polisi, ymchwil neu ymarfer, byddwch chi wedi'ch arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth i lwyddo.
Pam astudio ym Mhrifysgol Bangor?
- Archwiliwch amrywiaeth o bynciau sy'n mynd i'r afael â heriau cyfreithiol byd-eang fel Cyfraith Hawliau Dynol a Chyfraith Ryngwladol Trosedd, wedi'u cynllunio i'ch paratoi ar gyfer gyrfa effeithiol mewn cyfraith, polisi, eiriolaeth, a mwy.
- Byddwch yn dysgu gan academyddion blaenllaw y mae eu hymchwil yn dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth ac yn cael effaith fyd-eang. Ym Mangor, rydym yn dod â'n hymchwil arloesol yn uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth gan gadw'ch dysgu'n berthnasol ac yn gysylltiedig â'r byd go iawn.
- Camwch i mewn i amgylchedd dysgu bywiog a chefnogol lle byddwch yn elwa o arweiniad personol a chymuned sydd wedi ymrwymo i'ch helpu i ffynnu.
- Datblygwch yr wybodaeth a'r sgiliau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, boed hyn fel cyfreithiwr, eiriolwr, newyddiadurwr, ymgyrchydd neu swyddog polisi sy'n gweithio i sefydliadau anllywodraethol, llywodraethau neu gyrff rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y radd LLM hon mewn Cyfraith Ryngwladol a Hawliau Dynol yn caniatáu ichi archwilio esblygiad Cyfraith Ryngwladol Trosedd fodern a chael dealltwriaeth gynhwysfawr o Gyfraith Ryngwladol Hawliau Dynol. Byddwch yn archwilio amrywiol hawliau a warentir o dan gyfraith ryngwladol ac yn dysgu am strategaethau a gweithdrefnau i amddiffyn yr hawliau hyn.
Byddwn yn canolbwyntio ar fireinio’ch sgiliau ymchwil cyfreithiol sy'n hanfodol i lwyddo gyda’r LLM, gyda chryn bwyslais ar lunio traethodau hir a phapurau ymchwil o safon. Byddwch yn dysgu sut i saernïo dadleuon clir, rhesymegol, wedi'u cefnogi gan dystiolaeth gadarn, gan roi'r hyder i chi gyfleu eich syniadau yn eglur ac effeithiol. Byddwn yn eich annog i feddwl yn feirniadol, myfyrio'n ddwfn, a meddwl am bethau o safbwynt byd-eang.
Mae eich traethawd hir yn gyfle i chi gyfrannu at ddatrys heriau'r byd go iawn drwy feddwl yn wreiddiol. Y tu hwnt i'r modiwlau craidd, gallwch deilwra'ch dysgu trwy ddewis o ystod o fodiwlau arbenigol sy'n adlewyrchu'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa.
Modiwlau gorfodol:
- Dulliau Ymchwil y Gyfraith (20 credyd)
- Cyfraith Ryngwladol Trosedd (20 credyd)
- Cyfraith Ryngwladol Trosedd (20 credyd)
Elfen graidd o’r LLM hwn yw’r Traethawd Hir (60 credyd) lle bydd disgwyl ichi wneud ymchwil annibynnol.
Byddwch hefyd yn astudio gwerth 60 credyd o fodiwlau dewisol a all gynnwys;
- Trosedd a Chyfiawnder Byd-eang (20 credyd)
- Cyfraith Busnes a Hawliau Dynol (20 credyd)
- Cyfraith Masnach Byd-eang (20 credyd)
- Cyfraith a Pholisi Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd (20 credyd)
- Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus (20 credyd)
Syniad bras yn unig yw'r rhestr o'r modiwlau, ac fe allent newid
Strwythur y Cwrs
Ymgymerir â’r modiwlau hyfforddedig yn y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mehefin a rhwng mis Medi a mis Ionawr lle astudir 120 o gredydau. Mae'r traethawd hir yn werth 60 o gredydau ac ymgymerir â hwnnw yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Ymgymerir â’r modiwlau hyfforddedig yn y cyfnod rhwng mis Medi a mis Ionawr lle astudir 120 o gredydau. Mae'r traethawd hir yn werth 60 o gredydau ac ymgymerir â hwnnw yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Amgylchedd Dysgu
Caiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfuniad o’r canlynol:
- Seminarau
- Trafodaethau grŵp
- Rhestrau darllen
- Hunan-astudio
- Goruchwyliaeth unigol
Mae'r dulliau addysgu a dysgu a ddefnyddir yn amrywio yn ôl pwnc a lefel y modiwl.
Bydd yr asesu’n cynnwys cyfuniad o’r canlynol:
- Arholiadau
- Traethodau
- Profion
- Cynigion ymchwil
- Erthygl newyddion ar-lein
- Traethawd hir
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig yw’r wybodaeth yma a gall newid.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfraith Hawliau Dynol a Chyfraith Ryngwladol.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Fel rheol mae angen gradd gyntaf yn y Gyfraith neu mewn maes cyfreithiol o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Rhoddir ystyriaeth unigol i raddedigion o ddisgyblaethau perthnasol eraill (gan gynnwys Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Astudiaethau Rheoli, Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwyddorau Cymdeithas).
Rhoddir ystyriaeth unigol hefyd i ymgeiswyr sydd â chymwysterau proffesiynol cyfwerth a/neu brofiad ymarferol perthnasol ac i geisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd.
Fel rheol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr rhyngwladol nad yw’r Gymraeg neu’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt gyflwyno tystiolaeth o hyfedredd yn y Saesneg. Gofyniad sylfaenol iaith Saesneg - IELTS o 6.5 (heb yr un elfen o dan 6.0), neu gyfwerth.
Gyrfaoedd
Mae'r rhaglen hon mewn Cyfraith Ryngwladol a Hawliau Dynol yn agor drysau i ystod eang o yrfaoedd effeithiol yn y proffesiwn cyfreithiol ac mewn sectorau lle mae i’r gyfraith ran hanfodol wrth wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a'r blaned.
P'un a ydych chi'n anelu at yrfa gyfreithiol yn y sector cyhoeddus fel cyfreithiwr llywodraeth, neu mewn cwmni preifat sy'n arbenigo mewn cyfraith hawliau dynol, mae'r radd hon yn eich arfogi â'r arbenigedd a'r hyder i wneud gwahaniaeth ystyrlon.
Gyda chysylltiadau cryf â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i roi hwb i’ch cyflogadwyedd, er enghraifft mae ein ffair yrfaoedd flynyddol yn cysylltu myfyrwyr ag amrywiaeth o ddarpar gyflogwyr.
Os nad ydych chi eisiau ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, efallai yr hoffech chi weithio mewn maes lle byddai eich hyfforddiant a'ch gwybodaeth gyfreithiol yn werthfawr a lle gallwch weithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae llawer o sefydliadau anllywodraethol ac elusennau yn gwerthfawrogi arbenigedd cyfreithiol mewn swyddogaethau fel swyddogion polisi, ymgyrchwyr a gweithwyr cynghori. Mae sefydliadau rhyngwladol, fel y Cenhedloedd Unedig a chyrff hawliau dynol rhanbarthol, yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd os ydych chi'n chwilio am yrfa ryngwladol.
Os yw ymchwil academaidd yn mynd â’ch bryd, mae'r rhaglen hon hefyd yn darparu sylfaen gref ar gyfer astudiaeth bellach. Gallech ystyried PhD mewn maes arbenigol o’r Gyfraith a helpu i gyfrannu at lunio’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr cyfreithiol.
Dyma rai o’r swyddi nodweddiadol:
- Twrnai
- Cyfreithiwr
- Bargyfreithiwr
- Cynghorwr Cyfreithiol
- Swyddog Polisi
- Ymgyrchydd
- Gweithiwr Cynghori
- Swyddog Llywodraeth Ganolog a Lleol
- Y byd academaidd
Sylwch: Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol, os hoffech fod yn gyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl eich astudiaethau prifysgol, bydd angen ichi gyflawni gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau'r Bar i gymhwyso. Bydd hyn yn cynnwys cyflawni gofynion yn ymwneud â throseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir darpar fyfyrwyr sydd ag euogfarnau troseddol i gysylltu â'r corff proffesiynol perthnasol i gael cyngor.