Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae technolegau genetig a genomig newydd yn ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth lawer mwy manwl o'r cysylltiad rhwng ein genynnau ac iechyd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd cydnabyddiaeth ryngwladol bod gan y technolegau hyn y potensial i chwyldroi meddygaeth ac iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, rydym angen pobl gyda'r sylfaen wybodaeth arbenigol, y ddealltwriaeth a'r setiau sgiliau ar gyfer defnyddio a chyflwyno meddygaeth genomig a manwl mewn sefydliadau meddygol a chlinigol, sefydliadau academaidd a diwydiant.
Mae'r rhaglen hon yn gysylltiedig â strategaeth Cymru gyfan Llywodraeth Cymru i gynnig hyfforddiant ac addysg mewn pynciau sy'n gysylltiedig â Meddygaeth Genomig a Manwl i gefnogi datblygiad gweithwyr clinigol, a gweithwyr cysylltiedig â'r maes clinigol yng Nghymru. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o'r technolegau platfform a ddefnyddir mewn dadansoddi genomeg, defnyddio sgiliau dadansoddi data genomig i ddehongli canlyniadau a data sy'n berthnasol yn glinigol ac i gleifion ac, yn bwysig, adrodd a chyfleu canfyddiadau yn gywir ac yn foesegol i gydweithwyr a chleifion.
Mae cynllun modiwlaidd y rhaglen a'r fformat cyflwyno yn addas i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr, sydd yn y maes clinigol neu'n gysylltiedig â'r maes, neu'n mynd mewn i'r maes, ledled Cymru.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Genomeg a Meddygaeth Fanwl .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mynediad trwy lwybr sefydliadau iechyd: bydd rhaid i ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar radd gael cymwysterau perthnasol a/neu brofiad gwaith perthnasol a sylweddol a ystyrir o safon foddhaol at ddibenion addysg ar lefel ôl-radd.
Mynediad trwy lwybr academaidd: bydd rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd BSc (2.ii neu uwch), mewn maes pwnc gwyddor bywyd sy'n gysylltiedig â meddygaeth.
Gofynion iaith Saesneg (o leiaf): IELTS 6.0 (dim elfen o dan 5.5)
Gyrfaoedd
Bydd graddedigion Genomeg a Meddygaeth Fanwl o Brifysgol Bangor yn cael eu paratoi ar gyfer gyrfa yn y maes cyffrous hwn o feddygaeth sy'n tyfu. Byddwch mewn sefyllfa dda i werthuso'n feiriniadol llenyddiaeth gyhoeddedig mewn perthynas â phersbectif y claf a'r gofalwr o feddyginiaeth genomig a gwneud penderfyniadau gwybodus mewn perthynas â defnyddio genomeg a meddygaeth fanwl mewn cyd-destun clinigol. Byddwch hefyd yn gallu cyflawni swyddi cefnogi, gweithredu a datblygu, ac ymchwil ym maes Meddygaeth Fanwl Genomig sy'n tyfu'n gyflym; mewn sefydliadau meddygol a chlinigol, sefydliadau academaidd a diwydiant.