Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn wedi cael ei ddilysu gan yr NMC ac rydym yn agored i dderbyn ceisiadau ar gyfer mynediad yn Ionawr 2023. Mae MSc Nyrsio Oedolion ar gael hefyd.
Mae'r MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn arwain at gofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac mae'n cynnig llwybr wedi ei gyllido dros ddwy flynedd i nyrsio iechyd meddwl ar gyfer graddedigion tra byddant yn ennill cymhwyster ôl-radd. Mae'r cymhwyster ôl-radd hwn wedi'i anelu at raddedigion sy'n dymuno datblygu a chymhwyso'r wybodaeth a gafwyd trwy eu gradd israddedig a phrofiadau bywyd perthnasol er mwyn dilyn gyrfa ym maes nyrsio iechyd meddwl. Nod y cwrs hwn yw paratoi nyrsys cofrestredig sy'n gallu cynnig gofal tosturiol o ansawdd rhagorol, gwell arweinyddiaeth, rheolaeth a sgiliau rhyngbroffesiynol ac ymchwil a fydd yn dylanwadu ar ymarfer ac yn ysgogi newid.
Mae ein darpariaeth addysgu eithriadol yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf (sy'n ffocws allweddol i weithgarwch ymchwil yr ysgol ac yn sgorio’n uchel mewn amrywiol fetrigau) ac mae wedi'i wreiddio mewn ymarfer iechyd meddwl modern. Bydd yr MSc mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn arfogi’r graddedigion i ddatblygu a ffynnu mewn amgylcheddau sy'n newid yn gyflym, gan ystyried sut y gall trawma cynnar ac adfyd, diwylliant, dylanwadau economaidd-gymdeithasol, stigma a ffactorau eraill effeithio ar wytnwch, gweithrediad, statws iechyd a chanlyniadau iechyd meddwl. Bydd y rhaglen yn arfogi myfyrwyr â'r sgiliau ymgysylltu ac asesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cynllunio a darparu gofal tosturiol o ansawdd uchel a rheoli ymarfer cymhleth ar draws y rhychwant oes.
Bydd myfyrwyr yn graddio o'r rhaglen hon fel nyrsys iechyd meddwl creadigol a medrus a fydd mewn sefyllfa i wneud cais ar gyfer rhan un cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Bydd gan y graddedigion llwyddiannus y gwerthoedd, yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i ymarfer i'r safonau uchaf o ran gofal diogel, tosturiol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Dim angen talu ffioedd dysgu
Os ystyrir chi yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu.Os byddai’n well gennych beidio â gweithio yng Nghymru ar ôl i chi raddio gallwch wneud cais am gyllid benthyciad myfyriwr meistr ar gyfer eich ffioedd a grant cynhaliaeth gostyngol https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-ol-raddedig/meistr/Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor.
Mae manylion llawn ar gael ar dudalen cyllid y GIG.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?
Ewch i'n tudalen Pam Astudio gyda ni? i ddarganfod ffeithiau allweddol ynghylch pam y dylech ddewis Bangor ar gyfer y cwrs hwn.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Drwy gydol y rhaglen, cynllunnir lleoliadau ymarfer mewn gwasanaethau iechyd meddwl acíwt, cymunedol ac arbenigol yng Ngogledd Cymru i ddarparu amrywiaeth o brofiadau. Bydd astudiaethau theori gorfodol yn ogystal â lleoliadau clinigol sydd wedi eu cynllunio i'ch paratoi i ymarfer. Yn ystod y lleoliadau byddwch yn ychwanegol i’r gweithlu ac mae hyn yn eich galluogi i weithio ochr yn ochr â'ch goruchwylwyr ymarfer a’ch aseswyr a chymryd rhan mewn darparu gofal nyrsio. Cewch eich cefnogi gan diwtor personol sy’n nyrs gofrestredig ac yn aelod o’r staff academaidd a chewch eich goruchwylio gan nyrsys cofrestredig a gweithwyr proffesiynol eraill yn y lleoliad. Caiff gwaith theori a gwaith ymarferol ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau a’r Ddogfen Asesu Ymarfer Unwaith i Gymru a Chofnod Cyrhaeddiad Parhaus.
Strwythur y Cwrs
Blwyddyn 1
- Ymgysylltu ac asesu ym maes iechyd meddwl
- Cysyniadau Cyfreithiol a Moesegol
- Cynllunio a darparu gofal dyngarol ym maes iechyd meddwl
- Ffisioleg a Phathoffisioleg
- Diploma Ôl-radd Ymarfer Nyrsio 1
Blwyddyn 2
- Rheoli risg a chymhlethdod mewn iechyd meddwl
- Arwain, Arloesi a Gweithredu
- Gwneud Penderfyniadau Clinigol ac Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth
- Diploma Ôl-radd Ymarfer Nyrsio 2
Addysgu, Dysgu ac Asesu
Bydd y strategaeth addysgu a dysgu ar gyfer y cwrs yn canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn adeiladu ar y sgiliau graddedigion a ddatblygwyd yn ystod eich gradd gyntaf. Er y bydd rhai darlithoedd a addysgir ym mhob modiwl, bydd y prif bwyslais ar weithio fel grŵp i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau gwneud penderfyniadau clinigol a chanfod atebion i broblemau bywyd ‘go iawn’.
Gofynion Mynediad
I wneud cais am yr MSc Nyrsio Iechyd Meddwl, byddai ymgeisydd fel rheol wedi ennill gradd anrhydedd 2.2 mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag iechyd/gwyddor bywyd neu gymdeithas o fewn y 5 mlynedd ddiwethaf, ac yn gallu dangos eu bod wedi cyflawni 700 awr o brofiad cysylltiedig â gofal iechyd y gellir ei fapio i bwynt dilyniant un cymwyseddau craidd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Yn ogystal â chael gradd addas, mae'n ofyniad gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fod pob ymgeisydd yn dangos tystiolaeth o’u gallu wrth gyfathrebu ac mewn rhifedd, a rhaid dangos y rhain fel rheol drwy feddu ar radd C neu uwch TGAU mewn Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a Mathemateg.
Gan fod hon yn rhaglen sy’n cael ei chyllido gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ni fydd myfyrwyr rhyngwladol yn gallu gwneud cais am y rhaglen astudio hon.
Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth hefyd yn gofyn am dystiolaeth o 'Iechyd Da a Chymeriad Da', ac yn ychwanegol at gael geirda cefnogol i'r cais, mae'r Ysgol wedi mabwysiadu'r geirda Cymeriad Da Cymru Gyfan. Asesir Cymeriad Da ymhellach trwy gyfrwng adroddiad llawn/cliriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), gyda'r bartneriaeth yn asesu risg yn unol â pholisi'r Ysgol. Asesir Iechyd Da gan Uned Iechyd yn y Gwaith y Bwrdd Iechyd lleol, ac mae myfyrwyr yn cael eu monitro drwy gydol y rhaglen a'u cefnogi lle bo angen.
Prosesau dewis:
- Cwblhau'r cais - cais uniongyrchol gyda datganiad personol a geirdaon.
- Llunio rhestr fer ar sail y datganiad personol a geirdaon yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt (i gynnwys rhifedd a llythrennedd TGAU).
- Cael geirdaon cymeriad a'u hadolygu.
- Cyfweliad ffurfiol gyda gweithgareddau gwaith grŵp rhyngweithiol a mini gyfweliad lluosog.
- Rhifedd / cyfrifo meddyginiaeth
- Traethawd ysgrifenedig ar gwestiwn a welir ymlaen llaw - cyfrinachedd a diogelu data.
- Cliriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Adolygiad iechyd galwedigaethol.
Bydd digwyddiadau a phrosesau dewis yn cynnwys darlithwyr nyrsio Iechyd Meddwl, staff clinigol y Bwrdd Iechyd a defnyddwyr gwasanaeth. Bydd y rhai a ddewisir i gymryd rhan yn y prosesau dewis yn cael hyfforddiant a chefnogaeth o ran amrywiaeth a chydraddoldeb fel rhan o'u datblygiad proffesiynol.
Os byddant yn llwyddiannus yn y cyfweliad, gwahoddir ymgeiswyr i symud ymlaen i ran dau a chwblhau a chyflwyno eu portffolio Cydnabod Dysgu Blaenorol/Cydnabod Dysgu Blaenorol trwy Brofiad. Gwneir derbyniadau i'r rhaglen yn ôl amserlen i ganiatáu cwblhau'r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol (trwy Brofiad), felly caiff ymgeiswyr eu hannog i anfon eu ceisiadau’n gynnar.
Gellir cael rhagor o fanylion am y broses hon ar ôl cael cyfweliad.
Dyslecsia / Anabledd:
Anogir ymgeiswyr ag anghenion penodol mewn perthynas â dyslecsia neu anabledd i ddatgan hyn ar glawr blaen eu portffolio Cydnabod Dysgu Blaenorol/Cydnabod Dysgu Blaenorol trwy Brofiad fel y gellir ystyried hyn wrth adolygu'r dystiolaeth. Bydd hwn yn cael ei adolygu gan banel Cydnabod Dysgu Blaenorol/Cydnabod Dysgu Blaenorol trwy Brofiad i weld a yw'r meini prawf gofynnol wedi'u cwblhau (gweler isod).
Gofynion ychwanegol:
Mae nifer penodol o leoedd ar y rhaglen yn cael eu hariannu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (mae meini prawf cyllido a gwybodaeth ar gael ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru).
Bydd raid i fyfyrwyr sy'n derbyn lle wedi'i ariannu ar gyfer y cwrs weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio.
Caiff myfyrwyr ag anableddau, o wneud cais, gefnogaeth gan Swyddog Anableddau'r Brifysgol ac Ymgynghorydd Anableddau'r Ysgol, a gwneir asesiadau risg perthnasol ac addasiadau lle bo angen.
Os bydd materion yn ymwneud â chymeriad da, iechyd da, neu anabledd y mae angen archwilio neu ymchwilio ymhellach iddynt, ymgynghorir â'r Ysgol a Phwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y Bwrdd Iechyd lleol.
Tystiolaeth o gyrhaeddiad:
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau portffolio adfyfyriol Cydnabod Dysgu Blaenorol (trwy Brofiad) sy'n dangos cyflawniad y pwyntiau dilyniant Blwyddyn 1 a nodir yn Safonau ar gyfer Addysg Nyrsio Cyn-gofrestru'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC, 2018). Fel rhan o'r portffolio hwn o dystiolaeth bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno eu tystysgrif BSc/BA a thrawsgrifiad o'r modiwlau a wnaed fel rhan o'r radd.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau portffolio adfyfyriol sy'n dangos yr wybodaeth a'r sgiliau a gafwyd o'r profiad cysylltiedig ag iechyd blaenorol ac mae'n rhaid mapio hyn yn erbyn y pwyntiau dilyniant Blwyddyn 1 a nodir yn Safonau ar gyfer Addysg Nyrsio Cyn-gofrestru'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC, 2018).
Portffolio o dystiolaeth:
Bydd y portffolio adfyfyriol hwn yn cynnwys enghreifftiau penodol a thystiolaeth o sut mae'r profiad gofal iechyd honedig yn caniatáu i'r ymgeisydd ddangos ei fod wedi cyflawni'r pwyntiau dilyniant. Gellir dangos tystiolaeth gydag enghreifftiau o brofiadau ymarfer, diwrnodau astudio a fynychwyd, hyfforddiant gorfodol a'r geirdaon a ddarperir gan gyflogwyr.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Datganiad o’u Gwaith eu Hunain i ddangos mai nhw a neb arall sydd wedi cwblhau'r portffolio Cydnabod Dysgu Blaenorol / Cydnabod Dysgu Blaenorol Trwy Brofiad.
Bydd meini prawf asesu'r portffolio fel a ganlyn:
Dilysrwydd: a oes tystiolaeth ddigamsyniol i gefnogi cyrhaeddiad llawn meini prawf dilyniant Blwyddyn 1 y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth?
Cyfreithlondeb: a yw'r cyrhaeddiad yn ddigonol i fodloni lefel ofynnol Rhan Un fel y nodir yn Safonau’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2018.
Amserlen: a yw'r hawliadau a wneir yn erbyn profiadau yn gyfredol â'r lleoliad gofal iechyd presennol, hynny yw, yn y 3 blynedd ddiwethaf?
Digonolrwydd: a yw'r dystiolaeth yn ddigonol i ddangos cyrhaeddiad y dysgu/profiadau a honnir yn llawn?
Sgiliau graddedig: a yw'r ymgeisydd yn gallu dangos lefel ddisgwyliedig y sgiliau astudio ar gyfer mynediad ar Lefel 7.
Caiff y portffolio ei adolygu gan aelod academaidd o staff a chaiff ei asesu fel llwyddo neu fethu. Bydd staff yr Ysgol yn darparu canllawiau a chefnogaeth i'ch helpu i gwblhau'r gofyniad hwn.
Ar ôl cwblhau'r portffolio yn llwyddiannus bydd yr ymgeisydd yn derbyn cynnig ffurfiol o le wedi ei gyllido gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Gyrfaoedd
Gall myfyrwyr sy'n cwblhau’r MSc Nyrsio Iechyd Meddwl gofrestru eu statws proffesiynol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chwilio am swydd fel nyrs gofrestredig.
Mae cyfraddau cyflogadwyedd yn uchel o gymharu â graddedigion eraill, o ystyried y cymhwysedd proffesiynol a'r cymhwyster yn gysylltiedig â gradd. Mae cyfleoedd gyrfa ar ôl eu cyflogi fel nyrs gofrestredig yn rhagorol a gallant arwain at gyfleoedd dyrchafiad mewn ymarfer clinigol/arbenigedd, ymchwil neu addysg.
Cyngor am yrfaoedd
Ceir cyngor am yrfaoedd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth ymarfer ac mewn sesiynau gyrfaoedd penodol ac mae gan wasanaeth Gyrfaoedd y GIG ragor o fanylion am y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Byddwch hefyd yn gymwys i gofrestru am Wobr Cyflogadwyedd Bangor i wella eich rhagolygon gyrfa ac mae cyngor ar gael hefyd gan Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor.