Pam dewis astudio yma?
- 1af yn y DU am Radiograffeg a rhagolygon graddedigion Nyrsio (Complete University Guide 2020 a Complete University Guide 2020).
- Ymysg y 5 uchaf yn y DU am Radiograffeg ac yn y 20 uchaf am nyrsio (Complete University Guide 2020).
- Nyrsio a Radiograffeg yn y 10 uchaf am Ansawdd Ychwil (Complete University Guide 2019).
- 4ydd am Safon Ymchwil (Times Good University Guide 2020 a Complete University Guide 2020)
- Mae ein cyrsiau gradd Cyn-gofrestru Bydwreigiaeth a Nyrsio yn arwain at gymhwyster academaidd a chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
- Mae ein cwrs gradd Radiograffeg yn arwain at ddyfarniad academaidd a chofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HPC)
- Mae ein cwrs Bydwreigiaeth wedi ei achredu gan UNICEF UK Baby Friendly Initiative.
- Yn dibynnu ar eich diddordebau, gall hyn olygu eich bod yn gweithio gydag ysgol neu grŵp cymunedol neu hyd yn oed fel rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Mae Radiograffeg, Bydwreigiaeth a Nyrsio yn parhau i gael eu cyllido gan fwrsariaethau'r GIG, yn talu am yr holl ffioedd dysgu a chymorth grant tuag at gostau byw sydd ar gael i fyfyrwyr o bob rhan o'r DU a'r UE.
- Mae ein staff gyda profiad clinigol eang yn eu meysydd proffesiynol. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr iechyd lleol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr gofal eraill yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, i sicrhau bod dysgu ein myfyrwyr o'r ansawdd uchaf.
- Rydym yn arwain rhaglenni ymchwil Iechyd a Meddygol sy'n trawsnewid ansawdd a darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
- Bydd tua hanner eich dysgu ar Nyrsio, Bydwreigiaeth a Radiograffeg mewn amgylchedd clinigol - mae pob lleoliad mewn lleoliadau modern sydd â chyfarpar da. Nid oes unrhyw brifysgol arall yn cynnig mwy o wythnosau clinigol trwy gydol y cwrs.
- Bydd cyfleoedd i gael profiad o ymarfer dwyieithog mewn rhai rhannau o'ch lleoliad.
- Rydym yn cynnal rhaglenni ymchwil blaenllaw ym maes gofal iechyd ac yn gysylltiedig â meddygaeth sy'n trawsnewid ansawdd a darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
- Mae gennym un o'r cynlluniau Arweinwyr Cyfoed mwyaf.
- Rydym wedi comisiynu lleoedd i rai modiwlau a chyrsiau'n benodol i aelodau staff BIPBC a WAST.