Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Yr MMus mewn Perfformio yw'r cwrs i chi os ydych eisoes yn berfformiwr offerynnol neu leisiol medrus, ac yn dymuno mireinio eich sgiliau ac ymestyn eich gwybodaeth. Ar y rhaglen hon byddwch yn gwneud Projectau Perfformio Unigol yn y ddau semester, gan arwain at ddatganiad byr ar ddiwedd pob un. Yn Semester 1, byddwch hefyd yn dilyn Ymchwilio i Gerddoriaeth, lle byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o gerddoriaeth a'i hystyron i gynulleidfaoedd hanesyddol a rhai heddiw. Yn Semester 2, cewch ddewis o blith nifer o opsiynau a fydd yn gwella'ch gwybodaeth am repertoires a'u cyd-destunau hanesyddol. Ymhlith yr opsiynau mae Cerddoriaeth yn y Gymdeithas, Ymarfer Cerddoriaeth Gyfoes neu Broject Ymchwil Annibynnol o dan oruchwyliaeth ar bwnc o'ch dewis.
Mae Rhan II y Project yn ddatganiad cyhoeddus sy'n para 50-60 munud, a roddir fel rheol ddechrau mis Medi y flwyddyn academaidd ddilynol.
Addysgir drwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a seminarau i grwpiau bach. Mae myfyrwyr MMus Perfformio yn cael 36 awr o hyfforddiant offerynnol neu leisiol arbenigol dros gyfnod y cwrs, yn ychwanegol at weithdai a dosbarthiadau meistr.
Cysylltiadau â Diwydiant
Byddwch yn gweithio'n agos â pherfformwyr proffesiynol ac ymchwilwyr profiadol, llawer ohonynt yn adnabyddus yn rhyngwladol. Mae gennym gysylltiadau clos â phartneriaid yn y diwydiant ac yn y trydydd sector fel Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl ac Ensemble Cymru.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Perfformiad .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd gyntaf o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Rhaid i ymgeiswyr y rhaglen hon fedru dangos sgiliau perfformio rhagorol. Bydd gan y rhan fwyaf naill ai radd ragorol mewn datganiad israddedig yn y flwyddyn olaf (gradd dda 2.i neu uwch), marc uchel mewn DipABRSM (neu gyfwerth), neu o leiaf farc pasio LRSM (neu gyfwerth). Gellir gofyn i ymgeiswyr ddod i glyweliad neu, os nad yw hynny'n ymarferol, i anfon perfformiad fideo heb ei olygu a recordiwyd yn ddiweddar ac sy'n cynnwys repertoire cyfebyniol (25-30 munud). Gellir gofyn hefyd am enghraifft o waith academaidd.
Rhaid i ymgeiswyr nad yw'r siarad Cymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.0 (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd yr MMUs mewn Perfformio yn ehangu eich profiad o berfformio a bydd yn datblygu eich sgiliau academaidd sy'n gysylltiedig â'ch ymarfer. Bydd y rhaglen yn eich paratoi at astudio perfformio ac/neu gerddoleg ymhellach ar lefel PhD a thu hwnt. Bydd hefyd yn rhoi sgiliau i chi mewn creadigrwydd, hunanddisgyblaeth, dadansoddi a chyfathrebu, a werthfawrogir gan gyflogwyr ym maes cerddoriaeth a thu hwnt iddo. Mae graddedigion diweddar wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus fel perfformwyr proffesiynol, hyrwyddwyr cyngherddau, gweinyddwyr y celfyddydau, athrawon, ymgynghorwyr addysgol a phobl fusnes.