Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r MA mewn Treftadaeth Fyd-eang trwy Ddysgu o Bell yn archwilio ac yn cloriannu mesurau a mecanweithiau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ceisio rheoli a gwarchod y dreftadaeth ddiriaethol ac anniriaethol.
Mae astudio gradd meistr mewn Treftadaeth Fyd-eang yn rhoi'r sgiliau ymarferol ac academaidd angenrheidiol i fyfyrwyr gyflawni gofynion diwydiant treftadaeth heriol ac esblygol. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am amrywiol faterion sy'n ganolog i’r trafodaethau cyfredol ynghylch diffiniad, amrywiaeth a natur ddadleuol treftadaeth. Mae’r MA yn archwilio rôl treftadaeth yng nghymdeithasau’r gorffennol a chyfoes a natur luosog y dreftadaeth ddiwylliannol mewn cyd-destun byd-eang.
Yn yr MA mewn Treftadaeth Fyd-eang trwy ddysgu o bell, bydd y myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth feirniadol o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO - y broses enwebu a’r arysgrifiad, rheoli, a rhag-gynllunio. Mae pwyslais neilltuol ar dwristiaeth gynaliadwy - archwilio dulliau damcaniaethol ac ymarferol a'r angen i gynnwys cymunedau lleol yn eu treftadaeth hwythau.
Mae elfen gref o hyfforddiant yn y rhaglen er mwyn hybu’r rhagolygon am yrfa.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau Craidd a Gorfodol:
Treftadaeth Ddiwylliannol: Safbwyntiau Beirniadol - Mae'r modiwl yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i’r myfyrwyr o ddulliau damcaniaethol o ymdrin â threftadaeth ddiwylliannol a'u defnydd ymarferol. Mae'n cyflwyno’r dadleuon cyfredol ynghylch amrywiaeth a natur ddadleuol treftadaeth, yn ddiriaethol ac yn anniriaethol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae pwyslais ar sut mae treftadaeth yn siapio hunaniaeth ac ar ymdrechion i ddemocrateiddio treftadaeth drwy gynnwys cymunedau lleol a grwpiau ymylol.
Treftadaeth y Byd: Amddiffyn, Rheoli a Chynaliadwyedd - Mae'r modiwl hwn yn edrych ar gysyniad treftadaeth y byd, hanes datblygiad trefniadol ac ymdrechion parhaus i ehangu cylch gorchwyl amddiffyn i gwmpasu’r amrywiaeth sydd o ran treftadaeth y byd. Mae’n gwerthuso’n feirniadol y prosesau a ddefnyddir i arysgrifio safleoedd ar Restr Treftadaeth y Byd. Mae’n tynnu ar astudiaethau achos, mae’n rhoi dealltwriaeth fanwl o’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â chynnal a rheoli Safle Treftadaeth y Byd. Rhoddir sylw hefyd i dwristiaeth gynaliadwy trwy archwilio dulliau ymarferol a damcaniaethol, ac mae pwyslais neilltuol ar gefnogi economïau lleol.
Sgiliau Ymchwil - Modiwl sgiliau lefel uwch yw hwn sy'n darparu hyfforddiant ar gychwyn projectau ymchwil; mae’n dysgu myfyrwyr i feirniadu papurau seminar ymchwil; ac mae’n meithrin sgiliau i wella cyflogadwyedd yn y dyfodol. Mae’n cyflwyno myfyrwyr i sgiliau amrywiol sy’n gysylltiedig ag ymchwil a dewisiadau gyrfa, gan gynnwys ysgrifennu i’r cyfryngau a llunwyr polisi, rheoli archifau, datblygu llwybrau treftadaeth, cyfweld at ddibenion hanes llafar, sgiliau Technoleg Gwybodaeth a setiau data, sgiliau addysgu, a hanes cyhoeddus.
Traethawd hir - Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau a’r adnoddau angenrheidiol i fyfyrwyr gynnal ymchwil annibynnol gan arwain at lunio traethawd ymchwil sy’n seiliedig ar bwnc sy’n ymwneud â threftadaeth fyd-eang.
Gallai'r Modiwlau Dewisol gynnwys:
Ailddehongli'r Plasty - Ar y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn archwilio ac yn ystyried themâu a chwestiynau mawr sy’n ymwneud â hanes a dylanwad plastai ac ystadau Cymru, eu perchnogion, a’r cymunedau cysylltiedig. Yn y pen draw, mae'r modiwl yn gyfle i gymhwyso sgiliau ymchwil i arferion treftadaeth yn y byd go iawn, trwy ddylunio a datblygu cynnyrch hynod o ran dehongli treftadaeth sy'n cyfrannu'n weithredol at well gwybodaeth a dealltwriaeth.
Cymru Fyd-eang: Lleoedd, y Lleol a’r Gorffennol 2024-25 - Mae Cymru Fyd-eang yn edrych ar leoedd hollbwysig a siapiodd gysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a rhannau eraill o'r byd. Mae’n canolbwyntio ar fannau o bwys yng Nghymru ac astudiaethau achos o’r tu hwnt i’w ffiniau ac yn rhychwantu’r canoloesol a’r modern. Bob wythnos bydd y myfyrwyr yn archwilio astudiaeth achos o le gwahanol – fel Wcráin, America, Patagonia, India ac, yng Ngogledd Cymru, stadiwm pêl-droed y Cae Ras, Wrecsam. Trafodir y lleoedd hynny yng nghyd-destun themâu megis hunaniaeth, trefedigaethedd, hil, ymfudo, rhyw, treftadaeth a thrawswladoliaeth.
Lleoliad Gwaith yr MA - Mae'r modiwl yn cynnig profiad gwaith ar lefel MA a bydd yn rhoi amrywiol sgiliau a phrofiadau i’r myfyrwyr y gallant eu trosglwyddo i'r gweithle.
Damcaniaeth a Dehongli mewn Archaeoleg - Ar y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn archwilio fframweithiau damcaniaethol allweddol a dadleuon cyfoes ym maes archaeoleg. Bydd y myfyrwyr yn dysgu ymgysylltu â darlleniadau beirniadol, yn datblygu eu safbwyntiau damcaniaethol eu hunain, ac yn gwella eu sgiliau ymchwil trwy drafodaethau cydweithredol.
Cofiwch y gall y modiwlau newid o flwyddyn i flwyddyn, ac mai canllaw yn unig yw’r uchod.
Caiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfuniad o’r isod:
- Darlithoedd (ar-lein)
- Seminarau ar-lein:
- Gweithdai ar-lein:
- Podlediad
- Gweminarau
- Hunanastudio
- Goruchwyliaeth
Cafodd yr MA Treftadaeth Fyd-eang trwy Ddysgu o Bell ei ddatblygu i fod mor hyblyg â phosibl. Caiff y modiwlau eu dysgu'n gydamserol ac yn anghydamserol. Caiff y myfyrwyr gyfle i ymgysylltu mewn amser real gyda'u tiwtoriaid a’u cyd-fyfyrwyr. Bydd holl elfennau addysgu'r cwrs ar gael hefyd yn anghydamserol ar ffurf darlithoedd, gweminarau, podlediadau a fforymau grŵp ar-lein, a gaiff eu recordio. Mae'r dull cyflwyno’n galluogi’r myfyrwyr i astudio yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain.
Bydd yr asesu’n cynnwys cymysgedd o’r canlynol:
- Traethodau
- Astudiaethau achos
- Gwerthusiadau beirniadol o arferion rheoli
- Cyflwyniadau
- Cynnig ymchwil:
- Adolygiad beirniadol
- Traethawd hir
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig yw’r wybodaeth yma a gallai newid.
Gofynion Mynediad
O leiaf 2.ii fel gradd israddedig neu gyfwerth mewn maes pwnc perthnasol (e.e. Hanes, Treftadaeth, Archaeoleg, Astudiaethau Llenyddol, Astudiaethau Canoloesol/Llenyddiaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Gwyddorau Cymdeithas, Astudiaethau Americanaidd, Y Gyfraith).
Bydd yr ymgeiswyr sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol cyfwerth a/neu brofiad ymarferol perthnasol a cheisiadau oddi wrth weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried fesul achos. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Yn achos myfyrwyr nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 o leiaf (heb yr un elfen yn is na 5.5) neu gyfwerth.
Gwybodaeth Ychwanegol: Gofynion technegol ar gyfer astudio'r cwrs Dysgu o Bell
- Cyfrifiadur PC neu Mac, gwe gamera a chlustffonau. Bydd y rhan fwyaf o gyfrifiaduron o dan 5 oed yn ddigon da.
- Mynediad at y rhyngrwyd â chyflymder lleiaf o 2Mbit yr eiliad - cofiwch, os oes rhywun arall yn eich cartref yn defnyddio’r cysylltiad rhyngrwyd ar yr un pryd, bydd angen cyflymder cyflymach arnoch neu sicrhau na fydd neb arall yn defnyddio’r cysylltiad yn ystod y sesiynau.
- Mynediad at borwr gwe Chrome (am ddim i'w lawrlwytho i ddefnyddwyr Mac a Windows).
- Byddwch hefyd angen copi o Microsoft Office 365 – mae gan fyfyrwyr Bangor hawl i gopi am ddim i'w ddefnyddio yn ystod eu hastudiaethau. Ar ôl i’r myfyrwyr gofrestru ar eu cwrs a derbyn manylion Technoleg Gwybodaeth Bangor, gallant lawrlwytho hwnnw.
Cofiwch nad yw Chromebooks yn cael eu hystyried yn addas i'w defnyddio gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyrsiau o bell/gwasgaredig.
Gyrfaoedd
Mae’r MA Dysgu o Bell mewn Treftadaeth Fyd-eang yn rhoi dealltwriaeth fanwl i’r myfyrwyr o arferion treftadaeth gan gynnwys methodolegau proffesiynol a chymhwyso polisi.
Ar ô graddio bydd y myfyrwyr sy’n meddu ar MA Treftadaeth Fyd-eang yn gallu dilyn gyrfaoedd mewn twristiaeth, rheoli treftadaeth, curadu, cefnogaeth a gweinyddiaeth gymunedol, ac addysg allgymorth.
Mae’r MA Dysgu o Bell yn gyfle i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau sy’n addas i’r diwydiant treftadaeth ond sydd hefyd yn fuddiol mewn proffesiynau eraill.
Ymhlith y gyrfaoedd nodweddiadol mae:
- Ymchwilydd
- Archifydd
- Rheolwr Treftadaeth
- Rheoli Twristiaeth
- Curadur amgueddfa/oriel
- Rheolwr Arddangosfa
- Arbenigwr cadwraeth
- Swyddog Cymunedol
- Darlithydd
- Addysgu* / Allgymorth
*Efallai y bydd angen hyfforddiant ychwanegol ar ffurf TAR Addysg Uwchradd neu raglen meistr Addysg Gynradd arnoch. Mae rhaglenni o'r fath ar gael yn y Brifysgol yn rhan o’n dewisiadau Astudiaethau Ôl-radd.