Oriau Agor Llinell Gymorth Clirio
Dydd Iau 14 Awst
08:00–19:00
Dydd Gwener 15 Awst
08:00–19:00
Dydd Sadwrn 16 Awst
10:00–15:00
Dydd Llun 18 – Dydd Gwener 22 Awst
09:00–17:00
Dydd Mawrth 26 – Dydd Gwener 29 Awst
09:00–17:00
Pam Astudio Troseddeg A Chyfiawnder Troseddol Ym Mhrifysgol Bangor?
Cymhwyso theori i senarios yn y byd go iawn
Ar ein graddau troseddeg, byddwch yn ennill dealltwriaeth ddamcaniaethol o drosedd a rheoli trosedd a byddwch yn dysgu am le'r damcaniaethau hynny yn y byd go iawn. Byddwch yn dysgu am faterion a dadleuon cyfoes ym maes rheoli trosedd ac yn datblygu'r gallu i gymhwyso eich gwybodaeth am droseddeg i'r system cyfiawnder troseddol. Byddwch yn cael cipolwg ar achosion trosedd ac yn dysgu beth ddylem ni, fel cymdeithas, ei wneud i ymateb i'r ymddygiad hwnnw. Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil academaidd a fydd yn eich galluogi i ymchwilio i faterion cyfoes ym maes trosedd a rheoli trosedd.
Byddwch yn barod ar gyfer gyrfa eich breuddwydion
Bydd gradd mewn troseddeg yn agor byd o opsiynau diddorol a gwerth chweil i chi o ran gyrfa. Mae ffocws ar reoli trosedd a deall achosion trosedd, ac mae’r llwybrau gyrfa nodweddiadol yn arwain at y system cyfiawnder troseddol e.e. yr heddlu, y gwasanaeth prawf, y gwasanaeth carchardai a’r asiantaeth ffiniau. Fel myfyriwr graddedig mewn troseddeg, ymhlith yr opsiynau eraill mae gweithio i lywodraeth leol ac asiantaethau’r llywodraeth genedlaethol fel y Swyddfa Gartref neu'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Astudio amrywiaeth o droseddeg a phynciau cysylltiedig
Mae troseddeg yn bwnc trawsddisgyblaethol, sy'n tynnu ar faterion megis cymdeithaseg, hanes, athroniaeth, seicoleg, a'r gyfraith. Er mwyn deall achosion trosedd a sut i adsefydlu troseddwyr, rhaid inni ystyried gwahanol bynciau megis rôl addysg, iechyd meddwl, a dosbarth cymdeithasol. Yn ystod eich gradd byddwch yn cael ffocws clir ar droseddeg ac yn dysgu damcaniaethau o sawl disgyblaeth academaidd.
Profiad gwaith i baratoi at eich gyrfa yn y dyfodol
Trwy fodiwlau ar leoliadau gwaith, byddwch yn cael profiad gwaith, gan ddewis o blith gwahanol ddiwydiannau a meysydd sy'n gysylltiedig â throseddeg a chyfiawnder troseddol. Bydd hwn yn ychwanegiad gwych at eich CV a bydd yn hwb i'ch cyflogadwyedd. Bydd gennych hefyd y dewis i gymryd Blwyddyn ar Leoliad Gwaith, a hynny rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn, yn gweithio mewn diwydiant.
Byw a dysgu mewn amgylchedd cyfeillgar
Rydym yn grŵp clos sy'n meithrin amgylchedd dysgu bywiog. Rydym wedi ein rhestru’n uchel am ein gofal bugeiliol a chefnogaeth i fyfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac mae gennym bolisi drws agored sy’n golygu y byddwn ar gael i chi drwy gydol eich astudiaethau. Mae yma grŵp cymysg o academyddion sy’n ymdrechu i ddod â'r profiad dysgu gorau posibl i chi.