Mae’r digwyddiad hwn yn arbennig ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, neu unrhyw un sydd â diddordeb yn yr iaith. Bydd yn gyfle i chi gyfarfod y darlithwyr sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac i ddarganfod mwy am y modiwlau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog sydd ar gael i chi. Bydd hefyd yn gyfle da i gwrdd â myfyrwyr newydd eraill sy’n siarad Cymraeg. Bydd cinio am ddim.
3 rheswn dros fynychu:
- Cyfle i gyfarfod myfyrwyr Cymraeg eraill.
- Cyfle i ddarganfod mwy am astudio drwy'r Gymraeg.
- Bydd cinio/lluniaeth am ddim.
Cliciwch yma i weld gwybodaeth am leoliad yr adeilad a’r ystafell ar fap y campws.