Diwrnodau Agored Sefydliad Confucius: Paentio Tsieineaidd
Ymunwch â ni i ddysgu mwy am dechnegau paentio Tsieineaidd traddodiadol a rhowch gynnig ar baentio tirluniau Tsieineaidd, sydd yn draddodiadol yn un lliw, gan ddefnyddio inc du ar bapur gwyn. Nid yw'r paentiadau hyn fel arfer yn seiliedig ar gefn gwlad go iawn ond yn hytrach yn adlewyrchu dychymyg yr artist, syniad haniaethol ac ysbrydoliaeth wedi'i gyfleu mewn ffordd unigryw.
Does dim angen cofrestru; galwch heibio a rhowch gynnig arni!