Ymgysylltu — darlithoedd ym meysydd peirianneg, cyfrifiadura a dylunio
Croeso i bawb!
Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 15 Tachwedd am 12pm ym mhrif ddarlithfa Stryd y Deon pan gynhelir darlith arbennig gan Michael Rushton ar y testun ""FabLAB, Y Paham, Y Sut a'r Beth".
Fel cyfrifiadura o'r blaen, mae gwneuthuriad digidol ar daith o fod yn hynod arbenigol i hollbresennol. Mae'r fabLAB yn adnodd sy'n gadael i bobl wneud 'bron' unrhyw beth mewn un lle. Yn ystod y sgwrs hon byddwn yn edrych ar hanes Rhwydwaith fabLAB, y cymhellion y tu ôl iddo, y cyflwr presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol sy'n dod allan gan y sylfaenwyr yn MIT.
Mae offer ar gyfer gwneud yn un peth, peth arall yw cael y bobl i'w ddefnyddio. Byddwn yn edrych yn sydyn ar Fab Academy, y cymhwyster a gyflwynir yn fyd-eang dan arweiniad yr Prof. Gershenfeld o MIT. Wedi'i ddilyn gan y dylanwad a allai ei gael wrth i ni wreiddio'r cwrs hwnnw o fewn yr ysgol.
Yn olaf, byddwn yn edrych ar rai astudiaethau achos. Cyn gofyn: Beth fyddech chi'n ei wneud?
Mae John Story yn un o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol, gan raddio amser maith yn ôl o’r cwrs MEng. Gyda phrofiad diwydiannol yn amrywio o waith yn Nortel Networks RF Lab ar gampws Harlow, i flynyddoedd o ysgrifennu meddalwedd ar gyfer cwmnïau lleol, ailymunodd John â’r Brifysgol i gefnogi menter leol trwy brosiect TESLA a ariannwyd gan INTEREG. Yn arwain ymlaen o hynny, bod yn rhan o’r tîm a sefydlodd y fabLAB yn Pontio, sydd wedi cefnogi dwsinau o gwmnïau lleol a channoedd o unigolion i gwblhau amrywiaeth anhygoel o brosiectau. Mae hefyd yn dysgu ein modiwl Prototeipio a Ffabrigo.