Ar y ffordd
Bydd Cod Post LL57 2DG yn dod â chi i Brif Adeilad y Celfyddydau, man cychwyn y Diwrnod Agored. Bydd tywyswyr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i gyrraedd un o'r meysydd parcio ger Prif Adeilad y Brifysgol (sy'n rhad ac am ddim), a bydd myfyrwyr yn eich tywys i'r Diwrnod Agored.
Ar y tren neu fws
Ewch i wefan Trainline a Traveline Cymru am wybodaeth am drafnidiaeth cyhoeddus.
Mae parcio ym meysydd parcio'r Brifysgol yn rhad ac am ddim. Bydd parcio ar gyfer y Diwrnod Agored ger Prif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg.
Defnyddiwch y cod post LL57 2DG neu dilynwch yr arwyddion am Brif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg.
Bydd staff yn eich cyfeirio at y gofodau parcio ar hyd Ffordd y Coleg. Ar ôl parcio, bydd angen i chi fynd i gofrestru yn y babell tu allan i Brif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg.
Mae Canolfan Rheolaeth y Brifysgol yn cynnig llety 4*.
Mae ystafelloedd sengl hefyd ar gael yn ein llety en-suite ar y campws - archebwch ar ein gwefan.
I’r rheiny ohonoch sy’n dymuno gwneud eich trefniadau eich hunain, ewch i wefan Twristiaeth Gogledd Cymru.
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG