Gadewch Rodd yn eich Ewyllys
P'un a helpodd Prifysgol Bangor chi i lunio eich taith eich hun neu p’un a ydych wedi gweld y gwahaniaeth y mae wedi ei wneud i eraill, mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn cynnal yr etifeddiaeth honno - gan sicrhau bod y cyfleoedd, y darganfyddiadau a'r profiadau rydych chi'n eu gwerthfawrogi yma yn parhau i drawsnewid bywydau am genedlaethau i ddod.
Mae cael Ewyllys yn hynod bwysig. Mae rhoi un ar waith yn helpu i sicrhau bod eich dymuniadau'n cael eu parchu a bod penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud cyn i unrhyw heriau godi.
Mae cael Ewyllys yn hynod bwysig. Mae rhoi un ar waith yn helpu i sicrhau bod eich dymuniadau'n cael eu parchu a bod penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud cyn i unrhyw heriau godi.
Pam gadael rhodd i Brifysgol Bangor?
Mae pobl sy'n dewis cofio Prifysgol Bangor yn eu Hewyllys yn aml yn dweud wrthym eu bod eisiau:
- Creu cyfleoedd i fyfyrwyr talentog, gan sicrhau bod gan y rhai sydd â gallu ac uchelgais gyfle i ffynnu, beth bynnag fo'u cefndir.
- Cefnogi ymchwil sy'n adlewyrchu eu gwerthoedd a'u blaenoriaethau, boed hynny'n golygu mynd i'r afael â heriau iechyd mawr, amddiffyn yr amgylchedd, cryfhau cymunedau, neu hyrwyddo dealltwriaeth gymdeithasol a diwylliannol.
Trwy waith Prifysgol Bangor gyda Kennedy Burchill, gallwch gael mynediad at Wasanaeth Ewyllys Rheoledig sy'n cynnig arweiniad a chefnogaeth glir, gan eich helpu i gymryd y cam hanfodol hwn yn hyderus.
Darllenwch y llyfryn cymynrodd ar-lein
Sut mae Cymynroddion mewn Ewyllysiau yn gwneud gwahaniaeth
Darllenwch rai o'r straeon a wnaed yn bosibl gan Gymynroddion...
-
10 Gorffennaf 2026O Fangor i'r Smithsonian: Sut mae cymynrodd yn cefnogi darganfod cefnforoedd
-
30 Mehefin 2026Darlith gyntaf Cyfres Ddarlithoedd Seicoleg Celf John Shrigley
-
19 Ionawr 2026DATHLU LLWYDDIANT MYFYRWYR GYDA GRANT TEITHIO TRAMOR WARTSKI YN 2025
-
8 Ionawr 2026Gwaddol parhaol Dr Perrin
-
31 Mawrth 2025Cefnogi Llwyddiant Myfyrwyr Dramor: Grant Teithio Dramor Wartski yn 2024
-
3 Gorffennaf 2024Rhodd Cymynrodd Prifysgol Bangor i gefnogi Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Trwy eich cefnogaeth chi gallwn siapio'r dyfodol...
Cymyroddion blaenorol
- Gadawodd Mrs Juene Jones (1950, Lladin a Ffrangeg), £2,000 er cof am Juene a David Jones tuag at gronfa caledi ariannol myfyrwyr.
- Gadawodd Miss Nést Morris Jones (1926 Y Clasuron), dros £260,000 i gefnogi rhaglenni Cymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg, er cof am ei thad, Yr Athro Syr John Morris Jones, Athro cyntaf y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
- Gadawodd Mr Alan Marsh (1952, Swoleg ac Amaethyddiaeth), £1,000 i gefnogi Undeb Athletau Prifysgol Bangor.
- Gadawodd Mr Barry Paine (1961, Eigioneg), dros £52,000 i Ysgol Gwyddorau’r Eigion i gefnogi myfyrwyr ar y rhaglen lleoliadau haf.
- Gadawodd Mrs Rene Williams (1939, Lladin), £300,000 i “Gronfa Goffa Edwin Williams” er cof am ei gŵr, Mr Edwin Williams, i ddarparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr Drama/Drama Gymraeg.
- Gadawodd yr Athro Tim Miles, cyn aelod o staff Prifysgol Bangor, dros £54,000 i gefnogi ymchwil i anhwylderau datblygiadol sy'n cyd-ddigwydd, yn cynnwys dyslecsia. Cyllidodd hyn PhD 2 flynedd mewn Seicoleg.
- Gadawodd Mrs Gwladys (Gail) Rees, cyn aelod o staff Coleg Normal Bangor, £10,000 er cof am ei gwr, Mr Edward Rees, cyn Brifathro’r Coleg Normal ac Is-lywydd y Brifysgol.
- Gadawodd Hannah Mary Michael, cyfaill i Brifysgol Bangor, £140,000 i astudiaethau canser yn Sefydliad Cronfa North West Cancer Research Bangor.
- Gadawodd Syr Kyffin Williams RA, cyfaill i’r Brifysgol, rodd sylweddol yn cynnwys gweithiau celf pwysig, llyfrau a dodrefn.
- Gadawodd Mrs Rosamund P Bourke, cyfaill i Brifysgol Bangor, £10,000 tuag at weithgareddau ymchwil ac allgymorth parhaus y rhwydwaith/canolfan Astudiaethau Crefyddol
- Gadawodd Ms Gwladys Richardson, cyfaill i Brifysgol Bangor, £38,000 i “Wobr Goffa Mr a Mrs David Edward” er cof am ei rhieni, i helpu unrhyw fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud ymchwil ôl-radd.
Eich Gwaddol, Eu Dyfodol!
Trwy gofio Prifysgol Bangor yn eich Ewyllys, gall y gwerthoedd a'r haelioni a luniodd eich bywyd barhau i drawsnewid bywydau eraill. Bydd eich cymynrodd yn dod yn rhan o draddodiad hir o roi sydd wedi cefnogi Prifysgol Bangor ers 1884, gan ddechrau gyda'r chwarelwyr lleol a gyfrannodd o'u cyflogau wythnosol i sefydlu prifysgol i'w cymuned.
Heddiw, mae Prifysgol Bangor yn ffynnu fel prifysgol o'r radd flaenaf, dan arweiniad ymchwil, gyda dros 10,000 o fyfyrwyr a bron i 2,000 o staff, sy'n cael ei chydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ragoriaeth ar draws addysgu, ymchwil ac arloesedd. Trwy adael rhodd yn eich Ewyllys, rydych yn helpu i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn parhau i elwa o gyfleoedd eithriadol, darganfyddiadau arloesol, ac addysg sy'n cyfoethogi Cymru a'r byd ehangach.
Diolch am ein gwneud ni'n rhan o'ch stori. Rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiolch i chi'n iawn, a sicrhau ein bod yn anrhydeddu eich dymuniadau.
Edrychwch ar rai o'n canllawiau defnyddiol ar gyfer cynllunio eich cymynrodd:
Awgrymiadau ar gyfer geirio cymynroddion
I gael rhagor o wybodaeth am adael cymynrodd, cysylltwch â, Persida Chung, Swyddog Datblygu cymynroddion@bangor.ac.uk.
Rhannwch eich stori hefo ni
Mae gan lawer o'n cymynroddwyr gysylltiad unigryw â’r brifysgol. Efallai eich bod wedi ffurfio cyfeillgarwch parhaol neu wedi cwrdd â’ch partner yma. Efallai bod eich gradd wedi bod yn gatalydd i yrfa lwyddiannus.
Neu efallai bod gennych atgofion melys yr hoffech eu rhannu. Beth bynnag fo'ch rheswm, byddem wrth ein bodd yn clywed y stori y tu ôl i'ch rhodd.