Campws Wrecsam

Labordy Sgiliau

Mae gennym hefyd labordy sgiliau llawn offer ac mae dysgu yn cynnwys:

  • Mae swît pelydr-x digidol yn caniatáu i amrywiaeth o sgiliau clinigol gael eu haddysgu i fyfyrwyr mewn amgylchedd efelychiadol sy'n helpu i'ch paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol.
  • Mynediad i efelychiad bwrdd gwaith ar gyfer radiograffeg taflunio, CT, a ffiseg radiograffeg y byddwch yn gallu cael mynediad iddynt ar y campws a thrwy fynediad o bell i gyfrifiaduron y Brifysgol.
  • Offer rhith-realiti trochi – Bangor yw'r Brifysgol 1af yn y wlad i gael y feddalwedd hon ar gael i fyfyrwyr a fydd yn eich galluogi i archwilio rhith-gleifion yn ddiogel.

Lleoliadau

Mae lleoliadau ar gyfer myfyrwyr Radiograffeg yn digwydd yng Ngogledd Cymru ac yn yr Ymddiriedolaethau GIG cyfagos. Mae'r rhain yn agweddau hanfodol ar y profiad dysgu, gan adeiladu ar wybodaeth ddamcaniaethol a'i chymhwysiad mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Mae'r profiad hwn yn arfogi myfyrwyr i ddechrau yn y proffesiwn gyda sgiliau Radiograffeg priodol, ac yn barod i gyfrannu eu harbenigedd mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol.

Cyrsiau ar gael ar Gampws Wrecsam

  • Radiograffeg Ddiagnostig BSc (Anrh) (3 blynedd)

Derbynnir ceisiadau trwy gydol y flwyddyn. Mae lleoedd ar y cwrs BSc Radiograffeg yn llenwi'n gyflym ac fe'ch anogir i wneud cais cyn gynted â phosibl.

Wrecsam ac ardaloedd cyfagos

Gellwch gerdded i ganol tref Wrecsam o Gampws Wrecsam Bangor mewn deng munud, ac mae'n ddewis delfrydol i fyfyrwyr sy'n dymuno profi'r gorau o fywyd modern mewn tref groesawgar, gyda sawl parc, oriel ac amgueddfa. O fewn ugain munud o deithio gallwch golli'ch hun ym mryniau Cymru, cael eich swyno gan yr olion Rhufeinig yng Nghaer neu weld y gorffennol hanesyddol cyfoethog ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Gallwch ddarganfod mwy am Wrecsam, tref fwyaf Gogledd Ddwyrain Cymru ar y safleoedd defnyddiol hyn:

 

This is Wrexham

Croeso Cymru - Wrecsam

Croeso i Wrecsam

Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Parc Technoleg Wrecsam, Croesnewydd Road, Wrecsam, LL13 7YP

Campws Wrecsam

Mae Wrecsam yng ngogledd ddwyrain Cymru, 70 milltir o Fangor, ac felly mae o fewn cyrraedd rhwydd i arfordir gogledd Cymru a golygfeydd godidog Eryri. Dim ond 13 milltir sydd rhwng Wrecsam a dinas Caer, gyda Lerpwl a Manceinion o fewn cyrraedd rhwydd mewn car neu ar drên. Mae hyn yn ei roi o fewn pellter teithio hawdd i rannau helaeth o ogledd orllewin Lloegr a Chanolbarth Lloegr yn ogystal â gogledd ddwyrain Cymru. Mae campws Wrecsam wrth ochr Ysbyty Maelor ar Barc Technoleg Wrecsam.

Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Parc Technoleg Wrecsam, Croesnewydd Road, Wrecsam, LL13 7YP