Fy ngwlad:

Pwyllgor Moeseg Academaidd Gwyddorau Meddygol ac Iechyd

Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gyflwyno eich cynnig i'r Pwyllgor Moeseg Academaidd Gwyddorau Gofal Iechyd a Meddygol.

Llywodraethu Ymchwil

Hyd yn oed os na fyddwch yn cyflwyno eich project am gymeradwyaeth foesegol mae’n ofynnol i chi hysbysu'r Ysgol Gwyddorau Iechyd a Meddygol bod yr ymchwil yn cael ei wneud a defnyddio un o'r dulliau a amlinellir isod.

Cofrestru/Adolygu Project Dadansoddi Data Eilaidd

Efallai y bydd rhaid cael cymeradwyaeth foesegol hefyd i brojectau sy'n cynnwys dadansoddi data eilaidd.   Lawrlwythwch y ffurflen gofrestru/adolygu project yma, a'i chyflwyno i gadeirydd y Pwyllgor Moeseg i'w hystyried, ynghyd â chopi o'ch cynnig ymchwil.   Ceir arweiniad pellach ar ddadansoddi data eilaidd  yn y Polisi Ymchwil.  Gallwch gysylltu â chadeirydd y Pwyllgor Moeseg, trwy e-bost: d.seddon@bangor.ac.uk.

Gwaith gwerthuso gwasanaeth

Bydd angen i chi e-bostio'r dogfennau canlynol at Gadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil Academaidd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru/Ysgol Gwyddorau Iechyd cyn i'r gwaith ddechrau:

  • Copi o'ch protocol gwerthuso gwasanaeth
  • Copi o'r teclyn penderfynu Awdurdod Ymchwil Iechyd wedi'i gwblhau, sy'n ein helpu i wahaniaethu rhwng gwaith ymchwil (fel y'i diffinnir gan Fframwaith Polisi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Deyrnas Unedig) a gwaith gwerthuso gwasanaeth: https://www.hra-decisiontools.org.uk/research/ 

Cofrestru Projectau a'r Gofrestr Ymbelydredd ar gyfer Arbrofion sydd wedi eu lleoli yn yr Ystafell Belydr-x

Gallwch lawrlwytho'r ffurflen gofrestru projectau a'r gofrestr ymbelydredd yma.  Llenwch y ffurflen a'i chyflwyno i'r Goruchwyliwr Diogelu Ymbelydredd i'w chymeradwyo. Yna dylid cyflwyno'r copi wedi ei lofnodi i gadeirydd Pwyllgor Moeseg y brifysgol.  Gallwch gysylltu â chadeirydd y Pwyllgor Moeseg, trwy e-bost: d.seddon@bangor.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llywodraethu – Diane Seddon (d.seddon@bangor.ac.uk)

Cynrychiolydd noddwyr ar gyfer treialon – Huw Roberts (huw.roberts@bangor.ac.uk)