Dynol a Thu Hwnt: Ysgrifennu gydag Adar
Sut gall ysgrifennu newid y ffordd rydym yn gweld byd natur? Pa straeon sydd gennych i'w hadrodd am fywyd gwyllt yn eich ardal? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng golwg aderyn a map?
Ymunwch ag arbenigwyr o’r celfyddydau a’r gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor mewn gweithdy ysgrifennu creadigol unigryw ar draeth Pen Morfa Llandudno, ac Amgueddfa Llandudno. Mae dyddiaduron natur y diweddar Dr Paul Whalley, a ddaeth i feddiant Archifau Prifysgol Bangor yn ddiweddar, yn gofnod hynod o oes o arsylwi adar a’r tywydd, gyda llawer ohono’n canolbwyntio ar ogledd Cymru, ac yn enwedig y Gogarth. Mae gwyddonwyr, artistiaid ac awduron o’r brifysgol wedi ymchwilio i’r dyddiaduron a’r gwahanol ffyrdd y gallent ein helpu i feddwl am dirweddau’r gorffennol a’r presennol.
Bydd y digwyddiad cyhoeddus rhad ac am ddim hwn yn cynnwys darlleniadau barddoniaeth, gweithdy ysgrifennu creadigol yng nghwmni rhywogaethau eraill, a chyfle i gyfrannu at fap realiti estynedig o'r ardal.
Cyfarfod ym Maes Parcio Pen Morfa a pharhau yn Amgueddfa Llandudno
Amgueddfa Llandudno, 17-19 Stryd Gloddaeth
Llandudno
LL30 2DD
Bydd y digwyddiad yn dechrau y tu allan gyda thaith gerdded o Faes Parcio Pen Morfa. Dewch â dillad ac esgidiau cadarn sy'n dal dŵr. Bydd rhan gyntaf y digwyddiad yn cynnwys cerdded ar dir anwastad am tua awr, ac nid yw’n addas i bobl â thrafferthion symud. Bydd yr ail ran, o 2.45 ymlaen, yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Llandudno, sy’n gwbl hygyrch. Os bydd angen addasu unrhyw gynlluniau oherwydd y tywydd, cysylltir â chyfranogwyr trwy Eventbrite, yn y cyfeiriad e-bost y gwnaethant gofrestru ag ef.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Hyb Gŵyl Prifysgol Bangor.