Mae'r astudiaeth, a gafodd ei chyd-awduro gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Cranfield, wedi cael ei chyhoeddi yn Nature Water. Gallwch ddarllen yr erthygl wrth glicio ar y ddolen.
Roedd yr ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Cranfield a phartneriaid eraill mewn tair anheddiad anffurfiol yn Kenya, Periw, a De Affrica, yn defnyddio arolygon rheolaidd ar ffonau clyfar i gasglu data ynglŷn â glanweithdra ac iechyd. Roedd y dull arloesol hwn yn caniatáu i ymchwilwyr olrhain yn agos beth oedd profiadau trigolion dros gyfnod o amser, gan olygu mai dyma’r cipolwg mwyaf manwl hyd yma o wasanaethau glanweithdra sy’n seiliedig ar gynwysyddion mewn slymiau trefol.
Mae systemau glanweithdra sy’n seiliedig ar gynwysyddion yn defnyddio cynwysyddion toiled cludadwy sydd wedi'u selio, ac sy'n cael eu casglu, eu gwagio a'u glanhau'n rheolaidd, a hynny fel rhan o wasanaeth tanysgrifio. Yn wahanol i atebion glanweithdra traddodiadol lle mae angen llawer o isadeiledd, mae glanweithdra sy’n seiliedig ar gynwysyddion yn cynnig dewis arall sy’n hyblyg ac yn ymarferol i ardaloedd trefol dwys eu poblogaeth.
Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar dri maes craidd, sef pa mor aml y ceid problemau gyda gwahanol fathau o doiledau, beth yw lefel boddhad defnyddwyr gyda gwasanaethu glanweithdra sy’n seiliedig ar gynwysyddion, a'r beth yw’r berthynas rhwng ansawdd gwasanaeth glanweithdra sy’n seiliedig ar gynwysyddion a lles trigolion.
Dyma rai o’r canfyddiadau allweddol:
- Roedd defnyddwyr systemau glanweithdra sy’n seiliedig ar gynwysyddion yn cael llawer llai o broblemau gyda'u toiledau o gymharu â defnyddwyr nad ydynt yn ddefnyddwyr systemau glanweithdra sy’n seiliedig ar gynwysyddion.
- Roedd boddhad â gwasanaethau glanweithdra sy’n seiliedig ar gynwysyddion yn uchel ar draws sawl gwahanol elfen, gan gynnwys casglu a glanhau.
- Roedd cysylltiad uniongyrchol rhwng y ffaith bod systemau glanweithdra sy’n seiliedig ar gynwysyddion yn cael eu gwasanaethu’n well ac ansawdd bywyd mwy glanwaith i drigolion.
Eglurodd y prif awdur Dr Ben Exton (Prifysgol Bangor): "O weithio gyda set ddata mor gyfoethog a oedd yn cynnwys cannoedd o gyfranogwyr mewn arolygon rheolaidd dros gyfnod o flwyddyn mewn tair gwlad, rydym yn dangos bod glanweithdra sy'n seiliedig ar gynwysyddion - yn enwedig pan fo’r systemau hynny’n cael eu gwasanaethu'n dda - yn gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw mewn aneddiadau anffurfiol a hynny mewn modd ystyrlon wrth drafod glanweithdra."
Dywedodd arweinydd y project, Dr Alison Parker (Prifysgol Cranfield): "Mae wedi bod yn fraint enfawr cael gweithio gydag ymchwilwyr mor ymroddedig o bob cwr o'r byd i ddatgelu'r potensial sydd gan systemau glanweithdra sy’n seiliedig ar gynwysyddion i ddarparu toiledau diogel i'r biliynau o bobl nad oes ganddyn nhw gyfleusterau o’r fath."
Dywedodd y cyd-awdur, yr Athro Simon Willcock (Prifysgol Bangor a Rothamsted Research): "Datgelodd yr astudiaeth hefyd wahaniaethau pwysig rhwng gwledydd. Yn Kenya a Pheriw, lle darperir toiledau glanwaith sy’n seiliedig ar gynwysyddion trwy fentrau cymdeithasol a gefnogir gan grantiau, nododd y defnyddwyr lai o broblemau a lefel uwch o foddhad o gymharu â De Affrica, lle darperir toiledau glanwaith sy’n seiliedig ar gynwysyddion am ddim gan awdurdodau lleol."
Meddai Rémi Kaupp, Cyfarwyddwr Gweithredol y Container Based Sanitation Alliance: “Mae’n arbennig iawn gweld canlyniadau’r astudiaeth drylwyr hon, a gynhaliwyd dros gyfnod hir mewn sawl gwlad. Rydym wedi gweld fod hyn yn ffordd ardderchog o ddeall beth yw canfyddiadau defnyddwyr o’u gwasanaethau glanweithdra mewn gwirionedd."
At ei gilydd, mae'r canfyddiadau'n amlygu, er nad yw glanweithdra sy'n seiliedig ar gynwysyddion yn cynnig ateb parhaol yn lle systemau carthffosiaeth, mae’n drawsnewidiol wrth roi ateb dros dro sy’n gwella iechyd, urddas ac ansawdd bywyd yn y cymunedau trefol hynny ledled y byd sydd fwyaf agored i niwed.
Gallwch ddarllen yr erthygl yn rhifyn Nature wrth glicio ar y ddolen.


