Nod project gwlyptir Caer yw creu amrywiaeth o gynefinoedd gwlyptir mewn parc gwledig sydd ynghlwm wrth ysbyty'r ddinas a thir cyfagos.
Mae'r Athro Christian Dunn yn un o gyd-sylfaenwyr y project ac mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan o ddatblygu'r cynlluniau ac wedi casglu sawl blwyddyn o ddata sylfaenol ar y safle.
“Mae’n bleser o’r mwyaf gweld gwlyptir Caer yn cyrraedd y cam cynllunio,” meddai’r Athro Dunn.
“Gwlyptiroedd yw uwch-arwyr natur o ran cynyddu bioamrywiaeth, rheoli dŵr, lleihau llygredd a storio carbon. Ond maen nhw'n cael eu hanwybyddu’n aml ac nid yw pobl yn meddwl am grwydro ynddynt.
“Bydd gwlyptir Caer yn dod ag amrywiaeth o gynefinoedd gwlyptir gwahanol i mewn i hoff barc Caer, fel y gall pawb eu mwynhau.”
“Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn ganolog i’r project hwn - gan gynnal arolygon ecolegol, monitro ansawdd dŵr a modelu hydrolegol sy’n sail i’r cynllun,” meddai’r Athro Dunn.
Mae Sw Caer yn cefnogi gwlyptir Caer fel rhan o'i raglen ‘Networks for Nature’, ac yn ddiweddar cyflwynodd yr Athro Dunn y cynlluniau yn nigwyddiad “Nature Fest” y sw.
Mae partneriaid eraill sy'n cefnogi'r cynllun yn cynnwys Cheshire West and Chester Council, The Land Trust, Friends of Countess of Chester Country Park, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r cwmni ymgynghori amgylcheddol, Binnies UK.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig graddau amrywiol i fyfyrwyr sydd eisiau dysgu am greu a rheoli ecosystemau naturiol – ewch i bangor.ac.uk/sens am ragor o wybodaeth.
