Dyma’r cynllun cyntaf o’r fath yng Ngogledd Cymru. Mae’r tîm dynodedig wedi adfer cynefin wystrys brodorol ym Mae Conwy, gan ddarparu cartref i 2,000 o wystrys cyffredin, a oedd unwaith yn rhan fawr o ddiwydiant pysgota Cymru i gefnogi cymunedau arfordirol. Mae’r gwaith wedi cael ei gefnogi gan weithgor o aelodau o'r gymuned leol.
Mae’r rhywogaethau sydd dan fygythiad wedi gostwng mewn niferoedd yn sgil colli cynefinoedd, hanes o or-gynaeafu, llygredd yn effeithio’n negyddol ar ansawdd dŵr, a chlefydau, ac mae’r prosiect yn dreial adfer hollbwysig sy’n ceisio helpu i wella iechyd a gwytnwch dyfroedd yr arfordir.
Dros ganrif ar ôl i riffiau’r wystrys ddiflannu o ddyfroedd Gogledd Cymru, mae Prifysgol Bangor a ZSL, drwy brosiect partneriaeth Dod ag Wystrys Gwyllt yn ôl i Fae Conwy, wedi bod yn gweithio i ddod â'r cynefin morol coll hwn yn ôl.
Mae’r gwaith wedi bod yn bosib diolch i’r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a ddarparwyd gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 2), ac a ddyfarnwyd fel rhan o’r Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.
Gan weithio gydag Awdurdod Harbwr Lleol Conwy, roedd y prosiect wedi gosod gwalfâu, sef deunydd cragen, ar wely’r môr ym Mae Conwy i ffurfio sylfaen ecosystem forol newydd o dan y dŵr. Cafodd cyfanswm o 2,000 o wystrys brodorol aeddfed eu lledaenu yn yr ardal 640 metr sgwâr sydd newydd gael ei hadfer gyda’r nod o greu rîff biogenig byw. Bydd y safle’n cael ei fonitro’n barhaus a defnyddir y canlyniadau i lywio camau nesaf posib y prosiect.
Ers 2021, mae’r prosiect wedi llwyddo i sefydlu meithrinfeydd wystrys yn hongian oddi ar bontynau ym Marina Conwy a Marina Deganwy i gefnogi eu hadferiad. Mae’r meithrinfeydd hyn, sy’n llawn wystrys brodorol, yn creu cynefin micro gwarchodedig sy’n caniatáu i wystrys atgynhyrchu a rhyddhau’r genhedlaeth nesaf i Aber Afon Conwy yn ehangach.
Mae gwirfoddolwyr a myfyrwyr ymroddedig wedi cefnogi tîm y prosiect i fonitro’r meithrinfeydd wystrys hyn, gyda chanlyniadau cadarnhaol: cyfraddau goroesi o tua 83% o’r wystrys, rhyddhau tua 240 miliwn o larfâu yn ystod tymhorau silio diweddar, gan hidlo amcangyfrif o 112 miliwn litr o ddŵr a chofnodi 79 o rywogaethau gwahanol rhwng 2023 a 2025.
Ledled y DU, mae poblogaethau wystrys brodorol wedi gostwng dros 95% dros y ganrif ddiwethaf. Mae wystrys brodorol yn aml yn cael eu disgrifio fel ‘arwyr y môr’, ac maen nhw’n gallu cynnig manteision mawr i ddyfroedd arfordirol drwy hidlo dŵr a chreu cynefin hanfodol i amrywiaeth eang o rywogaethau morol.
Dywedodd Celine Gamble, Uwch Reolwr y Prosiect Adfer yng Nghymdeithas Sŵolegol Llundain: “Mae riffiau wystrys brodorol wedi diflannu o arfordir Prydain, a gyda hynny rydyn ni wedi colli’r manteision lu a ddaw gyda nhw. Rydyn ni’n gweithio i ddod â’r rhywogaeth yn ôl cyn iddi ddiflannu’n llwyr, gan helpu i greu dyfroedd arfordirol iachach a mwy cydnerth.
Er bod wystrys yn bethau bach, mae eu heffaith yn fawr. Mae pob wystrys sy’n oedolyn yn gallu hidlo tua 200 litr o ddŵr bob dydd - tua llond bath - gan helpu i wella ansawdd dŵr a’i wneud yn fwy clir. Mae’r cynefin newydd yn ffurfio arwyneb tri dimensiwn cymhleth ar wely’r môr a allai ddarparu’r amodau delfrydol ar gyfer rîff wystrys hunangynhaliol yn y dyfodol.
Dywedodd Maria Hayden-Hughes, Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, “Dyma benllanw llawer iawn o waith - timau arbenigol o bob diwydiant yn dod at ei gilydd, arweiniad gan ein gweithgor lleol ac aelodau o’r grŵp technegol, gwirfoddolwyr yn neilltuo dros 1,460 awr i fonitro wystrys, ac ymchwil i gyfrannu at addasrwydd safleoedd - mae’n gam mawr at adfer y cynefin morol hanfodol hwn a gollwyd ac yn gyfle i’r boblogaeth wystrys brodorol ddychwelyd.
“Drwy adfer y rîff hwn, ein nod yw cefnogi’r genhedlaeth nesaf o wystrys brodorol, yn ogystal â gwella bioamrywiaeth ac ansawdd ein dyfroedd arfordirol, a byddwn yn parhau i’w monitro ac ymchwilio iddynt dros amser.
Dywedodd Rhianna Parry, Swyddog Ymgysylltu Prifysgol Bangor, “Mewn llawer o gymunedau arfordirol, mae’r atgofion byw am wystrys brodorol wedi pylu. Drwy ddod â wystrys yn ôl i Fae Conwy, rydyn ni’n helpu i ailgysylltu pobl â’u treftadaeth naturiol.
“Ar y cyd â’r gwaith o adfer cynefinoedd wystrys, rydyn ni wedi cyflwyno rhaglen ymgysylltu uchelgeisiol sy’n ceisio cysylltu’r gymuned leol â’r amgylchedd morol. Rhwng 2023 a 2025, fe wnaethom ymgysylltu â dros 11,280 o aelodau o’r cyhoedd, fe wnaethom gyrraedd 3,060 o fyfyrwyr drwy raglenni addysg, ac fe wnaethom hyfforddi 303 o wyddonwyr dinesig, gan helpu i adeiladu cenhedlaeth newydd o stiwardiaid morol.”
Drwy gyfuno gwaith adfer ecolegol ag ymgysylltu lleol, mae’r prosiect yn cefnogi adferiad tymor hir rhywogaeth a oedd unwaith yn ganolog i dreftadaeth arfordir Cymru, gan feithrin cysylltiadau cryfach rhwng pobl â’r amgylchedd morol.
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau sy’n cael sylw yn yr erthygl hon, yn ogystal ag allbynnau llawn y prosiect, ewch i’r dudalen we hon.
I ddysgu mwy am gam nesaf y gwaith o dan brosiect Cysylltu Conwy, ewch i’r dudalen we hon.