Roedd gan y gwyddonydd morol o Brifysgol Bangor, Dr Ronan Roche, ran allweddol yn yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Conservation Letters. Roedd yr astudiaeth yn dadansoddi ymddygiad mwy na 700 o blymwyr sgwba mewn mannau twristiaeth poblogaidd yn y Philipinau ac Indonesia, gan gynnwys Bali.
Gan ddefnyddio data o fwy na 300 awr o arsylwi tanddwr, cofnododd yr ymchwilwyr, dan arweiniad Dr Bing Lin o Brifysgol Sydney, 4981 o ddigwyddiadau ymhlith 411 o ddeifwyr lle daethpwyd i gyswllt â riffiau.
Achosodd tua 41% o'r cysylltiadau hyn ddifrod gweladwy i gwrel, gyda hynny’n amrywio o achosion uniongyrchol o dorri cwrel i greu cymylau gwaddod a all dagu bywyd y riff. Ar gyfartaledd, gwnaeth deifwyr 0.26 o gysylltiadau â'r riff bob munud – tua un bob pedair munud – a threuliasant bron i ddwy eiliad o bob munud mewn cysylltiad uniongyrchol â'r riff.
Adeiladodd yr astudiaeth ar bapur Dr Ronan Roche yn 2016, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Environmental Management, a oedd yn canolbwyntio ar asesu effeithiolrwydd Green Fins, sef y rhaglen fyd-eang fwyaf i leihau effeithiau sgwba-blymio ar riffiau cwrel.
Bu i Dr Ronan Roche, Darlithydd yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor, helpu i ddatblygu'r fethodoleg ar gyfer y gwaith maes yn Indonesia a'r Philipinau, a gweithiodd yn ddiweddarach ar ddehongli'r set ddata ac ysgrifennu'r papur. Dywedodd: “Mae’r set ddata hon yn caniatáu inni ddeall yn fwy hyderus nag erioed o’r blaen yr hyn sy’n achosi’r difrod i riffiau gan dwristiaid sgwba-blymio. Mae'n dangos bod plymwyr yn aml yn dod i gyswllt â riffiau mewn modd oedd yn creu difrod iddynt, ond yn anfwriadol gan fwyaf, ac yn canfod y gall y rhaglen Green Fins fod yn effeithiol wrth leihau'r cysylltiadau a wneir.
“Newid hinsawdd byd-eang yw’r pwysau mwyaf amlwg ar riffiau cwrel, ond mae lleihau pwysau lleol ar riffiau cwrel yn gynyddol bwysig. Ni all rheolwyr riffiau leihau tymheredd y môr, ond fe allan nhw reoli pwysau lleol fel sgwba-blymio. Mae hyn yn helpu cwrelau i wella ac atgenhedlu yn dilyn digwyddiadau cannu cwrel niweidiol. Yn y pen draw, nod yr ymchwil hon yw helpu i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i dwristiaeth riffiau sy'n fuddiol i riffiau cwrel a'r cymunedau sy'n dibynnu arnynt.”
Dywedodd Dr Lin, a ddechreuodd yr ymchwil yn ystod ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Princeton, gan ei chwblhau yn rhan o'i swydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Sydney, “Mae’r gwaith hwn yn dogfennu ôl troed tanddwr anghynaliadwy twristiaeth sgwba-blymio ar riffiau cwrel,”
Un o ganfyddiadau canolog yr astudiaeth yw nad yw'r rhan fwyaf o ddifrod yn fwriadol. Roedd mwy nag 80% o'r cysylltiadau niweidiol yn anfwriadol neu heb i'r plymiwr sylwi arnynt, gan ddatgelu sut y gall gweithgarwch twristiaeth arferol ddiraddio systemau riff yn dawel dros amser. Mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf o blymwyr yn yr astudiaeth yn hynod bleidiol i’r amgylchedd, sy'n awgrymu eu bod nhw ar y cyfan yn poeni am gadwraeth riffiau.
Datgelodd yr astudiaeth hefyd nifer o batrymau seicolegol trawiadol. Gan gynnwys gorhyder a rhagfarnau seicolegol ymysg plymwyr.
Yn gyntaf, roedd tua thri chwarter o blymwyr yn graddio eu hunain fel rhai “uwchlaw’r cyfartaledd” yn eu gallu i osgoi cyswllt â riffiau o’i gymharu â’u cyfoedion – enghraifft o’r effaith ragoriaeth rithwir, lle mae pobl yn goramcangyfrif eu galluoedd o’u gymharu ag eraill.
Yn ogystal, dogfennodd yr astudiaeth hefyd effaith adnabyddus Dunning-Kruger mewn plymwyr, lle roedd pobl lai medrus yn goramcangyfrif eu cymhwysedd yn anghymesur.
Canlyniad y gorhyder hwn oedd bwlch mawr rhwng canfyddiad a realiti. Mewn arsylwadau cyfatebol, roedd plymwyr yn dod i gyswllt â’r riff bron i bum gwaith yn fwy na’u rhagamcan.
“Mae llawer o blymwyr yn credu eu bod yn ofalus ac yn tarfu fawr ddim, ond mae ein data yn dangos anghydweddiad cyson rhwng canfyddiad ac ymddygiad,” Dywedodd Dr Lin.
Nododd yr ymchwil sawl ffactor a oedd yn gysylltiedig â chynnydd mewn difrod i riffiau.
Roedd gan ddeifwyr a oedd yn defnyddio camerâu tanddwr, menig neu ffyn pwyntio gyfraddau cyswllt uwch, tra bod ymddygiad cyfoedion hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol – pan gyffyrddodd un plymiwr â’r riff, roedd eraill yn llawer mwy tebygol o wneud yr un peth.
Canfuwyd bod cyswllt â bywyd gwyllt – uchafbwynt twristiaeth blymio yn aml – yn cynyddu'r difrod yn sylweddol. Cynyddodd presenoldeb anifeiliaid morol gysylltiadau bwriadol â riffiau 220%, cysylltiadau anfwriadol 85%, a chysylltiadau niweidiol 106%, yn aml wrth i ddeifwyr agosáu neu newid lleoliad i arsylwi'r bywyd gwyllt.
Canfu'r astudiaeth hefyd fod lleiafrif bach o ddeifwyr yn cyfrif am gyfran anghymesur o gyfanswm y difrod i'r riff, gan awgrymu y gallai ymyriadau penodol gael manteision sylweddol.
“Mae’n anodd mesur gwir raddfa’r broblem o gyswllt â riffiau,” Dywedodd Dr Lin. “Ond yr hyn sy’n amlwg yw bod twristiaeth danddwr heb ei rheoleiddio yn ffactor lleol sy’n achosi difrod ac sy’n ychwanegu at, ac yn ymhelaethu ar, ffactorau straen acíwt a chronig eraill ar riffiau.”