Canfuwyd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Journal of the Operational Research Society, ac sydd dan arweiniad Dr Chrysovalantis Vasilakis o Brifysgol Bangor, bod y dull newydd wedi “gwella cywirdeb yn sylweddol, yn enwedig yn ystod cyfnodau cythryblus”.
Cyhoeddir y papur yng nghanol cyfnod o godiadau sylweddol ym mhrisiau olew, anwadalrwydd a chynnwrf economaidd byd-eang a achosir gan wrthdaro geowleidyddol a tharfu ar y cyflenwad.
Er bod prisiau olew crai yn chwarae rhan ganolog mewn sefydlogrwydd economaidd, diogeledd ynni a chynllunio busnes, gallant fod yn arbennig o anodd eu rhagweld, yn enwedig yn ystod cyfnodau o straen ariannol byd-eang. Mae'r astudiaeth yn dangos y gellir gwella rhagolygon prisiau olew yn sylweddol drwy fonitro mesur syml o integreiddio ariannol byd-eang, sy'n dal pa mor agos y mae marchnadoedd stoc rhyngwladol yn symud gyda’i gilydd.
Gwnaeth yr ymchwilwyr, gan gynnwys Dr Cindy Wang, Athro Cysylltiol Economeg ym Mhrifysgol Peking yn Tsieina, hyn drwy gyflwyno dangosydd “risg byd-eang” newydd sy’n adlewyrchu cydamseriad cynyddol ar draws marchnadoedd stoc mawr, patrwm sydd fel arfer yn dod i’r amlwg yn ystod cyfnodau o sioc fyd-eang megis argyfyngau ariannol, gwrthdaro geowleidyddol neu bandemigau. Pan ychwanegwyd y mesur “risg byd-eang” hwn at fodelau rhagweld safonol, mae rhagfynegiadau o symudiadau misol mewn prisiau olew yn dod yn fwy cywir ac yn fwy sefydlog, yn enwedig yn ystod cyfnodau anwadal.
Dywedodd Dr Chrysovalantis Vasilakis, Athro Cysylltiol mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor, “Mae rhagweld prisiau olew yn anodd iawn, ond daeth yr ymchwil hwn o hyd i ffordd syml iawn o wneud hynny’n well. Yn lle defnyddio modelau cymhleth, gwyliwch pa mor agos y mae marchnadoedd stoc ledled y byd yn symud gyda’i gilydd. Pan fyddan nhw’n cydamseru'n sydyn, fel yn ystod argyfyngau ariannol, rhyfeloedd neu bandemigau, mae prisiau olew yn tueddu i ddilyn. Felly, fe wnaeth ychwanegu'r mesur ‘risg byd-eang’ hwn at offeryn rhagweld sylfaenol wella cywirdeb yn sylweddol, yn enwedig yn ystod cyfnodau cythryblus. Roedd y dull gorau yn rhagweld cyfeiriad y newidiadau misol ym mhris olew yn gywir 62% o'r amser – yn sylweddol well na'r cyfartaledd hanesyddol o tua 50%.
“I unrhyw un sy’n dilyn marchnadoedd ynni, fel buddsoddwyr, perchnogion busnesau, neu hyd yn oed aelwydydd sy’n poeni am gostau tanwydd, mae hyn yn golygu cliwiau mwy dibynadwy ynghylch pa ffordd mae prisiau’n mynd. Mae'r data angenrheidiol ar gael o ffynonellau cyhoeddus (FRED, gwefannau academaidd) a llwyfannau data ariannol safonol fel Bloomberg. Y brif wers yw mewn economi fyd-eang gysylltiedig, mae gwylio cyflenwad a galw yn unig yn methu’r darlun ehangach. Gall cadw llygad ar anesmwythder ariannol byd-eang roi mantais wirioneddol i chi wrth ragweld newidiadau ym mhrisiau olew.”
Ychwanegodd Dr Chrysovalantis, “Yn hollbwysig, mae’r astudiaeth yn dangos bod modelau sy’n cynnwys y ffactor risg byd-eang yn well am ragweld cyfeiriad y newidiadau ym mhrisiau olew, sydd yn aml yn bwysicach na rhagweld union lefel y pris. I lunwyr polisi, mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at y ffaith nad yw dynameg prisiau olew yn cael eu hysgogi gan hanfodion cyflenwad a galw yn unig. Mae amodau ariannol byd-eang yn trosglwyddo'n gyflym i farchnadoedd cynwyddau, gan awgrymu y gall straen ariannol dramor effeithio ar brisiau ynni domestig. Felly gall monitro integreiddio marchnadoedd byd-eang gefnogi’r gwaith o ddylunio polisïau ynni, paratoi ar gyfer argyfyngau, a rhagolygon macro-economaidd gwell.”
Ar y cyfan, mae'r astudiaeth yn dadlau y gall un mesur risg byd-eang tryloyw, sy’n seiliedig ar ddata sydd ar gael i'r cyhoedd, arwain at welliannau ystyrlon wrth wneud penderfyniadau yn y farchnad olew mewn byd sy'n gynyddol gydgysylltiedig.