College Park View

Diweddariad Project Parc y Coleg

Diweddariad ar y Project

Mae Prifysgol Bangor a Gillespies wedi bod yn cydweithio ar greu gweledigaeth newydd i Barc y Coleg. Mae’r byrddau ymgynghori hyn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ers y digwyddiad ymgysylltu cymunedol diwethaf, maent yn tynnu sylw at y prif heriau a’r cyfleoedd i’r parc ac yn esbonio’r syniadau cychwynnol y bwriedir dechrau arnynt ar y safle yn 2024 (yn amodol ar ganiatâd cynllunio).

Mae Parc y Coleg yn fan gwyrdd pwysig wrth droed Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, sy’n cysylltu’r brifysgol â’r ddinas, ond mae wedi cael ei esgeuluso a heb gael digon o ddefnydd. Yn hanesyddol, mae’r parc wedi cael ei drin fel llecyn ar wahân gyda’i ddefnydd a’i ddiben yn aneglur. Y weledigaeth i Barc y Coleg yw ei wneud yn lle mwy croesawgar i bawb ei fwynhau. Rydym yn bwriadu agor yr ardal hon a chreu man gwyrdd croesawgar yn ninas Bangor. Gyda chyfleusterau newydd, gallai Parc y Coleg gael ei drawsnewid yn barc addysg ac adloniant llawn bywyd a chyffro.

Cynnydd Diweddar 

  • Cwblhawyd arolygon proffesiynol o goed ac ecoleg
  • Mae’r gwaith cychwynnol o deneuo a rheoli’r coed wedi dechrau, yn seiliedig ar gyngor gan arbenigwyr coedyddiaeth
  • Adeiladwyd grisiau i ddarparu cyswllt allanol rhwng lefel 4 Pontio â Ffordd Penrallt Isaf
  • Cynhaliwyd asesiadau strwythurol o waliau cynnal
  • Diweddarwyd cynigion cynllun mewn ymateb i adborth a gafwyd gan randdeiliaid
  • Addaswyd cynigion cynllun i adlewyrchu’r pwysau cyllidebol sydd wedi dod yn sgil chwyddiant costau

Lawrlwytho PDF o'r byrddau ymgynghori

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?