Mae bwrsariaethau cychwyn o £1,000 yr un ar gael i fyfyrwyr sy'n dod i'r Brifysgol o ofal, cyn breswylwyr Foyer neu unigolion oedd yn ddi-gartref yn union cyn dechrau eu hastudiaethau neu fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio o'u teuluoedd.
Bwriad y bwrsariaethau cychwyn yw talu am y llyfrau, y cyfarpar, y teithio a'r cymhorthion astudio sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Unwaith yn unig yn ystod y flwyddyn gyntaf y bydd y bwrsariaethau hyn yn cael eu talu. Nid oes rhaid eu talu'n ôl.
Am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr o Ofal yma ym Mhrifysgol Bangor a manylion cyswllt y Cynghorwr i fyfyrwyr o Ofal, ewch i'n gwefan Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr.