Mae Robert Minhinnick yn fardd, nofelydd, awdur straeon byrion, traethawdwr, cyfieithydd a golygydd o dde Cymru sydd wedi ennill nifer o wobrau am ei waith. Yn ddiweddar, mae wedi cyhoeddi Alcatraz, cyfrol o gyfieithiadau Saesneg o farddoniaeth Gymraeg gyfoes.
Mae Laura Wainwright yn fardd, cerddor ac artist o Gasnewydd, a enillodd ei chasgliad barddoniaeth cyntaf, The Storm's Flora, Wobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2026.
Yn ystod y digwyddiad hwn, bydd Robert a Laura yn darllen o'u gwaith ac yn trafod eu hymarfer creadigol ar draws gwahanol ffurfiau celfyddydol. Byddant hefyd yn cyflwyno Thrall, cyfrol a gyd-awdurwyd ganddynt sy'n dwyn ynghyd farddoniaeth a phaentio.
Mae croeso i bawb i’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn, a gynhelir gyda chefnogaeth Cronfa Bangor fel rhan o ddathliadau 200 mlwyddiant Pont Grog Telford.