Virtual hand reaching for a shark

Gweithio gyda Meta ar fydoedd cefnforol realiti cymysg

Mae Dr Llŷr ap Cenydd o Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn gweithio gyda’r cwmni technoleg o fri, Meta, ar nodweddion newydd a fydd ar gael yn fuan fel rhan o’r parc saffari dyfrol rhithrealiti Ocean Rift.

Cyn hir bydd yr 'acwariwm realiti cymysg' newydd ar gyfer Ocean Rift a ddatblygwyd gan Llŷr ap Cenydd, arbenigwr graffeg cyfrifiadurol o Brifysgol Bangor, yn galluogi defnyddwyr i fynd un cam ymhellach a chael profiad realiti cymysg, sy'n debyg i realiti rhithwir ond lle gallwch chi weld y byd o'ch cwmpas o hyd trwy gamerâu a synwyryddion dyfnder. Ar gyfer Ocean Rift, golyga hyn y gall defnyddwyr greu golygfeydd acwariwm o fywyd y môr yn y mannau maen nhw’n byw eu bywydau beunyddiol trwy osod ffenestri rhithwir lle bynnag y dymunant.

 

Mae'n gyffrous iawn bod yn rhan o'r datblygiad nesaf hwn mewn technoleg drochi, sef realiti cymysg.

Rydym ni i gyd wedi dod i arfer ag apiau sy'n newid ein hamgylchedd neu sut rydym ni’n edrych, ac mae hyn yn parhau a’r cymylu parhaus hwnnw o fydoedd gwir a rhithwir trwy osod gwrthrychau digidol yn y byd go iawn.

Mae hyn yn creu profiadau trochi gwirioneddol, am hwyl, wrth gwrs, ond mae hefyd yn creu cyfleoedd ar gyfer addysgu a dysgu arloesol, a manteision iechyd a lles.

“Caiff Ocean Rift eisoes ei ddefnyddio ar gyfer llesiant mewn cartrefi gofal, ac i dynnu sylw oddi wrth boen a phryder yn ystod pethau fel esgor, cyflwyno hylif i’r gwaed, poen cronig a thynnu gwaed mewn plant. Felly, defnyddir y dechnoleg hon mewn sawl ffurf er daioni ledled y byd.”

Llŷr ap Cenydd

Dechreuodd Dr Llŷr ap Cenydd weithio gyda Meta (Facebook bryd hynny) yn 2014 wrth i dechnolegau trochi newydd ddechrau blaguro. Mae wedi parhau i gydweithio â’r cwmni blaenllaw wrth ddatblygu pob cenhedlaeth newydd o glustffonau rhith-realiti.

“Mae Ocean Rift wedi datblygu ochr yn ochr â’r diwydiant rhithrealiti, ac rydym ni wastad yn chwilio am ffyrdd o gyfuno nodweddion newydd wrth i dechnoleg ddatblygu. Un o brif nodau'r project hwn oedd arbrofi gyda thechnoleg realiti cymysg sydd ar y gorwel, ac â’r ffordd orau o gyfuno bydoedd gwir a rhithwir. Gwelsom fod arlliwio'r fideo o’r delweddau o’ch cwmpas i gyd-fynd â lliw y dŵr yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran pa mor gredadwy oedd pethau. Roedd effeithiau arbennig fel plygiant golau yn dawnsio, gwawl ffenestri a phelydrau golau yn ogystal â sain 3D gofodol hefyd yn ein helpu i greu'r teimlad o fod mewn byd tanddwr."

Nod fawr arall oedd archwilio rhyngweithio mewn ystafell greu.

Mae animeiddiad seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial yn gwneud creaduriaid y môr yn fwy credadwy a rhyngweithiol.

Maen nhw’n ymwybodol o siâp yr ystafell, gan gynnwys ble mae'r ffenestri, ac fe allan nhw deilwra eu hymddygiad gan gynnwys dangos chwilfrydedd tuag at y gwyliwr. Gall defnyddwyr hefyd ryngweithio â'r creaduriaid trwy ollwng bwyd i'r dŵr ar gyfer y siarc mawr gwyn, a thaflu cylchoedd i'r morfilod beluga nofio drwyddynt. Gellir gwneud hyn i gyd trwy ystumiau llaw a gorchmynion llais yn hytrach na theclynnau rheoli.”

Mae clustffonau’r dyfodol fel y Meta Quest 3 a'r Vision Pro gan Apple yn rhoi realiti cymysg wrth galon profiad y defnyddiwr. Mewn post fideo ar Instagram yn ddiweddar, dangosodd Prif Swyddog Gweithredol Meta, Mark Zuckerberg, nodweddion realiti cymysg y Quest 3, gan gynnwys apiau fel acwariwm realiti cymysg Ocean Rift. Bydd y nodwedd ar gael yn yr ap yn ddiweddarach eleni.

Mae Dr Llŷr ap Cenydd yn rhan o “Labordy Amgylcheddau Trochi” Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor, sy’n ymchwilio gyda thechnoleg rhithrealiti, realiti estynedig a realiti cymysg). Cyhoeddir Ocean Rift gan Picselica Ltd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?