Canfu'r astudiaeth, dan arweiniad Prifysgol Bangor, fod camddealltwriaeth ynglŷn â natur y drosedd wedi arwain yr heddlu ac erlynwyr i ddibynnu’n ormodol ar anafiadau allanol gweladwy fel tystiolaeth, er gwaethaf canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron sy’n nodi nad yw'r rhain yn angenrheidiol i brofi niwed.
Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar achosion a adroddwyd rhwng mis Mehefin 2022 a mis Hydref 2023, y cyfnod yn syth ar ôl i'r drosedd ddod i rym dan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021.
Mae'r canfyddiadau i’w gweld mewn adroddiad newydd “Project Desdemona - Exploring factors impacting non-fatal strangulation case progression in England and Wales: A report for policy-makers and practitioners.” Ariannwyd yr ymchwil gan y Swyddfa Gartref a chwblhawyd y gwaith mewn partneriaeth â'r Institute for Addressing Strangulation (IFAS) a'r elusen cam-drin domestig SafeLives.
Yn aml, mae tagu nad yw’n angheuol yn rhan o gam-drin domestig neu ymosodiad rhywiol, lle mae camdriniwr yn rhwystro anadl neu lif y gwaed ei ddioddefwr trwy roi pwysau ar y gwddf. Mae'n drosedd sy'n seiliedig ar ryw, a gyflawnir gan amlaf gan ddynion yn erbyn merched maent mewn perthynas agos â hwy, a gall arwain at effeithiau iechyd a seicolegol hirdymor i ddioddefwyr. Mae'r rhain yn cynnwys anaf i'r ymennydd, strôc, ffitiau, camesgoriad ac anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD). Nid oes rhaid defnyddio llawer o nerth i dagu rhywun, ac mae anaf allanol yn weladwy mewn llai na 50% o achosion ac yn absennol mewn 40% o achosion o dagu angheuol, yn ôl astudiaethau blaenorol.
Mae ymchwil blaenorol yn dangos bod tua 10% o ferched yn dioddef hyn, gan godi i hyd at ddwy ran o dair o blith merched sy'n adrodd am gam-drin domestig parhaus. Mewn achosion o dreisio, nododd 19% o’r merched eu bod wedi dioddef tagu nad yw’n angheuol fel rhan o'r cam-drin yn flaenorol.
I ymchwilio i sut mae'r drosedd newydd o dagu nad yw’n angheuol yn cael ei rhoi ar waith, mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor wedi dadansoddi data ar 650 o achosion o dagu nad yw’n angheuol mewn un heddlu ac wedi cynnal 19 o gyfweliadau â staff o ddau heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. O'r holl achosion a archwiliwyd, cafodd 492 ganlyniad.
Cysylltodd yr ymchwilwyr â phedwar heddlu am ddata. Dim ond un oedd yn gallu cymryd rhan yn yr adolygiad data. Oherwydd systemau rheoli data Gwasanaeth Erlyn y Goron, nid oedd y gwasanaeth yn gallu darparu unrhyw ddata i'r ymchwilwyr ei ddadansoddi.
Er bod yr erlynwyr a'r staff a gyfwelwyd wedi dangos parodrwydd a brwdfrydedd i gefnogi dioddefwyr a gweithredu'r gyfraith, canfu'r adroddiad mai dim ond 20% o achosion gan yr heddlu a arweiniodd at gyhuddiad ffurfiol o dagu nad yw’n angheuol. Mewn 7% o achosion eraill, dygwyd cyhuddiadau eraill, a allai fod wedi bod yn fwy neu'n llai difrifol na thagu nad yw’n angheuol.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyfres o rwystrau systemig ar draws yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, a all arwain at golli cyfleoedd am gyfiawnder:
- Roedd dryswch cyffredinol ynglŷn â’r diffiniad o dagu nad yw’n angheuol: Nid yw'r ddeddfwriaeth ei hun yn diffinio'n glir beth a ystyrir yn "dagu", sy'n cyfyngu ar ba mor fanwl neu gywir y gall y canllawiau hynny fod i erlynwyr a barnwyr. Roedd gan y rhai a gyfwelwyd wahanol lefelau o ddealltwriaeth am y weithred o dagu a ph’un a yw'n cynnwys rhwystro'r llwybr anadlu a'r pibellau gwaed. Gwnaethant hefyd sôn am amwysedd ynglŷn â sut y byddai'r drosedd newydd yn cael ei chymhwyso.
- Defnyddiwyd y math anghywir o dystiolaeth mewn achosion: Arweiniodd camddealltwriaeth am natur tagu nad yw’n angheuol at orddibyniaeth ar anafiadau allanol gweladwy, er gwaethaf canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron nad ydynt yn angenrheidiol i brofi niwed. Arweiniodd hyn at lai o gyhuddiadau mewn achosion heb anafiadau gweladwy. Cafodd 52% o achosion a gyflwynwyd heb unrhyw anafiadau a 15% o achosion na chawsant eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron am benderfyniad cyhuddo anawsterau gyda thystiolaeth.
- Ni aeth 45% o achosion gyda chanlyniad yn eu blaenau oherwydd na allai neu na fyddai'r dioddefwr yn cefnogi erlyniad: Rhoddwyd pwyslais ar ddioddefwyr yn cefnogi hynt eu hachos yn weithredol, yn hytrach na datblygu prosesau i helpu dioddefwyr i barhau i ymgysylltu.
- Nid oedd systemau rheoli data cyfiawnder troseddol yn gweithio gyda'i gilydd: Nid oedd systemau Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r heddlu yn ‘siarad â’i gilydd’, felly ni ellid dilyn a gwerthuso achosion o’r adroddiad cyntaf hyd at y canlyniad yn y llys.
Mae'r ymchwilwyr yn argymell integreiddio systemau data cyfiawnder troseddol yn well er mwyn caniatáu ymchwilio i achosion o dagu nad yw’n angheuol, eu holrhain a'u gwella, gydag arferion effeithiol yn cael eu rhannu ar draws heddluoedd. Maent hefyd yn annog mwy o eglurder ynglŷn â sut mae tagu nad yw’n angheuol wedi ei ddiffinio yng nghanllawiau'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ogystal â Chrynodeb Llys y Goron, ac yn tynnu sylw at yr angen am hyfforddiant priodol i'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r farnwriaeth ar y dystiolaeth ofynnol a'r arwyddion a'r symptomau posib.
Dywedodd y prif awdur, Dr Shreyasi Desai, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, “Er bod y gyfraith ar dagu nad yw’n angheuol yn gam i’r cyfeiriad cywir, nid yw’n cael ei defnyddio’n gyson. Mewn llawer o achosion, mae p’un a yw achos yn symud ymlaen yn dibynnu ar ewyllys da swyddogion unigol yn hytrach na hyfforddiant priodol neu weithdrefnau clir. Mae casglu data mewn modd aneffeithlon yn ystod achosion yn ei gwneud hi'n anodd gwybod pa mor dda mae'r ddeddfwriaeth yn gweithio, gan awgrymu nad oes llawer o fonitro mewnol o’i gweithrediad mewn gwirionedd. Disgwylir i ddioddefwyr barhau i ymwneud â'u hachos ac ymddangos yn gredadwy, hyd yn oed wrth ymdrin â sefyllfaoedd domestig cymhleth sy'n eu gadael yn agored i gam-drin pellach. Rhaid i ni ddeall yn well pam eu bod yn tynnu'n ôl.
“Roedd newid y gyfraith yn gam pwysig i ddioddefwyr. Ond mae'n amlwg bellach bod angen canllawiau, systemau cydgysylltiedig a hyfforddiant priodol ar frys fel y gall yr heddlu ac erlynwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron gydweithio â phartneriaid eraill i gefnogi dioddefwyr tagu nad yw’n angheuol a sicrhau bod y gyfraith yn darparu cyfiawnder yn ymarferol.”
Mae canfyddiadau'r adroddiad dan arweiniad Prifysgol Bangor yn adleisio canfyddiadau Operation Soteria, adolygiad y Swyddfa Gartref i ymchwiliadau i drais rhywiol, a nododd hefyd sawl rhwystr systemig i gyfiawnder i ddioddefwyr.
Cyn hynny, arweiniodd cydawdur yr adroddiad, Dr Helen Bichard, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor a Phrif Seicolegydd Clinigol yng Ngwasanaeth Anafiadau Ymennydd Gogledd Cymru, ymchwil gan Brifysgol Bangor a ddatgelodd effaith tagu nad yw’n angheuol ar yr ymennydd, a helpodd llunio'r gyfraith i gyflwyno’r drosedd.
Meddai, "Mae’n galonogol bod yr heddlu yn cymryd tagu nad yw’n angheuol o ddifrif ac yn cefnogi dioddefwyr. Maen nhw’n defnyddio'r drosedd ac mae pobl yn cael eu cyhuddo, ond mae staff y siaradon ni â nhw yn gweithredu mewn system sy'n ceisio dal i fyny â'r gyfraith. At ei gilydd, mae diffyg dealltwriaeth yn parhau ynglŷn â pha mor ddifrifol a chymhleth yw'r math hwn o gam-drin i ddioddefwyr, a'r potensial ar gyfer anaf i'r ymennydd a allai newid bywydau yn ogystal â pheri niwed seicolegol dwys. Mae hyn yn golygu ei fod yn dal i gael ei drin fel ymosodiad cyffredin, gyda diffyg arbenigedd meddygol a'r heddlu, yn ôl pob golwg, yn chwilio am anafiadau gweladwy.”
Meddai Bernie Ryan, Prif Swyddog Gweithredol IFAS, am ganfyddiadau’r adroddiad, “Rydym yn croesawu’r ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bangor ar orfodi’r drosedd tagu nad yw’n angheuol. Mae'r canfyddiadau'n tanlinellu cymhlethdod gweithredu deddfwriaeth newydd a'r angen am ganllawiau clir, systemau data cadarn a hyfforddiant arbenigol.
“Ers cyflwyno’r drosedd yn Neddf Cam-drin Domestig 2021, mae’r Institute for Addressing Strangulation (IFAS) wedi gweithio gyda’r heddlu, erlynwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol i ddatblygu hyfforddiant, rhannu arfer gorau a gwella dealltwriaeth o effeithiau corfforol a seicolegol difrifol tagu. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi partneriaid i gryfhau prosesau, gwella ymgysylltiad dioddefwyr a sicrhau bod y gyfraith hon yn darparu cyfiawnder i ddioddefwyr.”
Mae ffigurau diweddaraf Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dangos bod 8,545 o bobl wedi cael eu cyhuddo o dagu nad yw’n angheuol yn 2024-25, o gymharu â 1,483 yn 2022–23. Mae canllawiau newydd ar dagu nad yw’n angheuol bellach ar waith ac mae strategaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ar drais yn erbyn merched a genethod yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i'r afael â thagu nad yw’n angheuol.