Modiwl ACB-1600:
Marchnata
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan Bangor Business School
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Mr Carl Mather
Amcanion cyffredinol
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i amcanion a nodweddion marchnata fel swyddogaeth fusnes. Mae’n canolbwyntio ar y broses a ddefnyddir gan sefydliadau i adnabod anghenion a dyheadau cwsmeriaid, i bennu pa farchnadoedd targed y gellir eu gwasanaethu orau, ac i gynllunio rhaglenni priodol i wasanaethu’r marchnadoedd hyn. Mae marchnata yn swyddogaeth fusnes graidd ac yn athroniaeth ar draws y sefydliad. Mae'r cysyniad marchnata yn mynd at wraidd angen sefydliad i fynegi a dilyn amcanion, gan greu gwerth i'w wahanol randdeiliaid. Mae'r modiwl yn pwysleisio'r cysyniad o werth i gwsmeriaid, mae hefyd yn archwilio a phwyso a mesur y penderfyniadau a’r dulliau sydd ar gael i sefydliadau roi gwerth i gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys ystyried gwahanol elfennau o'r dulliau marchnata amrywiol, fel swyddogaeth cynnyrch, brand, pris, hyrwyddo, lle a phobl.
Cynnwys cwrs
Cysyniadau craidd, Yr amgylchedd marchnata, Ymchwil Marchnata, Gwahaniaethu [segmentu, targedu, lleoli], Ymddygiad prynu defnyddwyr a'r broses benderfynu, Strategaeth farchnata a'i gweithredu, Moeseg, y Farchnad Fyd-eang, Cysylltiadau cwsmeriaid a gwerth i gwsmeriaid, Marchnata gwasanaethau; Creu Mantais Gymharol
Meini Prawf
da
Da: B- i B +(60-69%): Perfformiad da iawn. Defnyddir y rhan fwyaf o'r wybodaeth berthnasol yn gywir. Dealltwriaeth dda o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio da o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
ardderchog
Rhagorol: A- i A + (70%+):Perfformiad rhagorol. Defnyddio'r wybodaeth berthnasol yn gywir. Dealltwriaeth ragorol o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio da o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Tystiolaeth gref o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
C- i C+
Lefel Arall: C- i C + (50-59%): Llawer o’r wybodaeth a’r sgiliau perthnasol wedi’u defnyddio'n gywir at ei gilydd. Dealltwriaeth ddigonol o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Integreiddio gweddol o theori/ymarfer/gwybodaeth wrth geisio cyflawni amcanion y gwaith a asesir. Peth tystiolaeth o ddefnyddio sgiliau creadigol ac adfyfyriol.
trothwy
Trothwy: D- to D+ (40-49%): Dim o bwys wedi ei hepgor neu'n anghywir o ran defnyddio gwybodaeth/sgiliau. Rhywfaint o ddealltwriaeth o elfennau damcaniaethol/cysyniadol/ymarferol. Cyfuno theori/ymarfer/gwybodaeth i'w weld yn ysbeidiol wrth gyflawni amcanion y gwaith a asesir.
Canlyniad dysgu
-
Deall cysyniadau allweddol marchnata, fel segmentu a thargedu.
-
Lleoli a dadansoddi gwybodaeth am sefydliadau a'u gweithgareddau marchnata.
-
Dangos dealltwriaeth o natur newidiol yr amgylchedd marchnata a’r modd y mae hyn yn effeithio ar weithgareddau marchnata.
-
Deall prif nodweddion ymddygiad prynu defnyddwyr a'u heffaith.
-
Gwerthuso prif elfennau strategaeth farchnata.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
GWAITH CWRS | Aseiniad Unigol | 30.00 | |
GWAITH CWRS | Gwaith Cwrs | 20.00 | |
ARHOLIAD | Arholiad | 25.00 | |
Aseiniad | 25.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 2 ddarlith 1 awr i'w cynnal bob wythnos drwy gydol Semester 1 a Semester 2. |
40 |
Private study | Bydd hyn yn cynnwys darllen cyfeiriedig o werslyfrau penodol yn ogystal â deunydd darllen arall a argymhellir o ffynonellau eraill, yn cynnwys cyfnodolion. Yn ogystal, ymchwil i gwblhau aseiniadau gwaith cwrs ac adolygu cyffredinol ar gyfer arholiad ar ddiwedd y modiwl. |
140 |
Tutorial | Tiwtorial 1 awr bob pythefnos i drafod yn fanylach agweddau penodol ar y gwaith ac i archwilio astudiaethau achos er mwyn cymhwyso cysyniadau. |
20 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Problem solving and critical analysis: analysing facts and circumstances to determine the cause of a problem and identifying and selecting appropriate solutions.
- Research: the ability to analyse and evaluate a range of business data, sources of information and appropriate methodologies, which includes the need for strong digital literacy, and to use that research for evidence-based decision-making.
- Numeracy: the use of quantitative skills to manipulate data, evaluate, estimate and model business problems, functions and phenomena.
- Networking: an awareness of the interpersonal skills of effective listening, negotiating, persuasion and presentation and their use in generating business contacts.
- Ability to work collaboratively both internally and with external customers and an awareness of mutual interdependence.
- Ability to work with people from a range of cultures.
- Articulating and effectively explaining information.
- Communication and listening including the ability to produce clear, structured business communications in a variety of media.
- Conceptual and critical thinking, analysis, synthesis and evaluation.
- Self-management: a readiness to accept responsibility and flexibility, to be resilient, self-starting and appropriately assertive, to plan, organise and manage time.
- Self reflection: self-analysis and an awareness/sensitivity to diversity in terms of people and cultures. This includes a continuing appetite for development.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/acb-1600.htmlRhestr ddarllen
Principles of Marketing [7th European edition ] Kotler, Armstrong, Harris & Piercy cyhoeddwyr; Pearson