Modiwl CXD-3019:
Sgriptio
Sgriptio 2024-25
CXD-3019
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Manon Williams
Overview
Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript tua 40 munud o hyd ar gyfer y llwyfan. Bydd pedwar cam i’r gweithgaredd: yn gyntaf, trafodir gofynion dramatig y cyfrwng; yn ail, gofynnir iddynt lunio braslun o blot y ddrama; yn drydydd gofynnir iddynt greu cymeriadau a dadansoddiad manwl o’u natur; yn bedwerydd, eir ymlaen i rannu’r plot yn olygfeydd. Y cam olaf yw llunio’r ddeialog a cheir cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny. Dysgir hefyd sut i gyflwyno sgript orffenedig sy’n dilyn confensiynau arferedig.
Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a 3, ond bydd disgwyl i fyfyrwyr lefel 3 gyflwyno gwaith aeddfetach ei thema a mwy dychmygus o safbwynt ei ffurf a bydd amrywiad o ran y canlyniadau dysgu.
Assessment Strategy
Trothwy: (D) Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema sy'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu i lunio plot. Dylai'r cymeriadau ddangos peth dyfnder seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
Da: (B) Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema gyffrous sy'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu i lunio plot cadarn. Dylai'r cymeriadau ddangos dyfnder seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol ond dylai hefyd ddangos peth ymwybyddiaeth o bwysigrwydd is-destun mewn rhai sefyllfaoedd dramatig. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
Rhagorol:(A) Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema wreiddiol a chyffrous a honno'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu anghyffredin i lunio plot cadarn a gafaelgar. Dylai'r cymeriadau ddangos gwir ddyfnder a chymhlethdod seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol a hefyd ddangos ymwybyddiaeth o bwysigrwydd is- destun mewn sefyllfaoedd dramatig. Dylai'r gwaith yn ei gyfanrwydd ddangos elfen o arbrofi o safbwynt adeiladedd y plot a natur y ddeialog. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
Learning Outcomes
- Adnabod a dadansoddi gwendidau a rhagoriaethau ddramâu llwyfan mewn modd aeddfed
- Adnabod a thrafod nodweddion y ddrama lwyfan.
- Creu cymeriadau ac iddynt ddyfnder seicolegol.
- Cyfansoddi deialog addas ar gyfer y llwyfan.
- Cyflwyno sgript orffenedig aeddfed ei strwythur a’i themâu sy’n dilyn confensiynau arferedig cyfrwng dramatig arbennig.
- Hunanwerthuso eu gwaith gan edrych yn feirniadol a gwrthrychol ar eu sgriptiau gorffenedig.
- Llunio sgript ag iddi adeiladedd dramatig cryf a soffistigedig
- Trafod eu gwaith ar lafar ac ymateb i gwestiynau’n ymwneud â’u gwaith.
- Ymateb i adborth mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Sgript tua 30 munud o hyd ar gyfer y llwyfan
Weighting
70%
Due date
16/12/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad llafar: Adolygiad (ar lafar) o gynhyrchiad theatrig (7 munud o hyd) (25%). Dylid defnyddio sleidiau PP.
Weighting
30%
Due date
09/12/2024