Modiwl HAC-2005:
Lleoliad Gwaith - Semester 2
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Hefin Gwilym
Amcanion cyffredinol
Pwrpas y modiwl yw rhoi cyfle i ddysgu yn y gwaith, trwy leoliad gydag amrywiol asiantaethau. Nod y modiwl yw paratoi myfyrwyr ar gyfer cyd-destunau gwaith yn y dyfodol. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd myfyrwyr yn nodi a threfnu eu lleoliadau eu hunain. Os yw'r myfyriwr yn cael unrhyw anawsterau bydd staff yn cynorthwyo gyda'r broses hon. Mae'r modiwl hefyd yn cynnwys sesiynau cyflogadwyedd wythnosol. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd amrywiol yn y lleoliad gwaith, yn fwyaf arbennig: - Cyfathrebu - cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig, a gwrando, e.e. bod yn glir, yn gryno a chanolbwyntio; gallu addasu eich neges ar gyfer y gynulleidfa a gwrando ar farn pobl eraill. - Trefnu - dysgu blaenoriaethu, gweithio'n effeithlon a chynhyrchiol, a rheoli eich amser er mwyn cyflawni gwaith mewn pryd. - Datrys problemau - dadansoddi ffeithiau a sefyllfaoedd a dod o hyd i atebion priodol.
- Os oes gennych ddiddordeb yn y modiwl hwn, cysylltwch â chynullydd y modiwl cyn ei ddewis fel opsiwn. Mae dysgu trwy brofiadau a gyrfa fel hyn yn unol ag ymrwymiad y brifysgol i wella cyflogadwyedd. Mae'r modiwl yn cydymffurfio â Chod Ymarfer y Brifysgol ar Ddysgu ar Leoliad (https://www.bangor.ac.uk/regulations/codes/code07.php.en).
Cynnwys cwrs
Mae asiantaethau'r lleoliad gwaith yn cynnwys archifdai yng Ngogledd Cymru (i fyfyrwyr Hanes ac Archeoleg), ac asiantaethau'r sector gwirfoddol i fyfyrwyr Gwyddorau Cymdeithas, megis Cymorth i Ddioddefwyr, Gwasanaeth Prawf, Cyngor ar Bopeth. Mae lleoliadau gwaith yn cynnwys ymrwymiad o ryw 70 awr i gyd, er bod rhai myfyrwyr yn dechrau ac yn gorffen eu lleoliadau y tu allan i gyfnod y modiwl. Mae nifer o sesiynau ar gyflogadwyedd wedi'u cynnwys yn y cwricwlwm, a darperir rhai o'r rheiny gan dîm Gwobr Cyflogadwyedd Bangor. Felly bydd profiad pob myfyriwr o'r modiwl yn wahanol, gan ddibynnu ar natur a lle'r lleoliad, a'r swyddogaethau a bennir iddynt yn y cyd-destun gwaith dan sylw. Bydd yr holl fyfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gydag arweiniad unigol i'r lleoliad trwy gyfrwng tiwtorialau un-i-un a grwpiau bach. Byddant yn dechrau ar raglen ddarllen ac astudio dan arweiniad, a hwylusir gan gynullydd y modiwl a'r tîm addysgu. Bydd y sylfaen yn cynnwys darllen a thrafod gyda'r nod o ddeall y cysylltiadau sydd rhwng astudiaeth academaidd a dulliau gweithio'r asiantaeth. Yna cysylltir y rhain â gweithgareddau penodol yr asiantaeth leoli, er enghraifft hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth, neu roi sylw i anghenion grwpiau cymdeithasol bregus. Mae'r modiwl yn cynnwys strwythurau ar gyfer adfyfyrio ar y broses ddysgu o fewn cyd-destun gwaith. Ymhlith y deunyddiau darllen a argymhellir mae testunau ynghylch gwerth a swyddogaeth adfyfyrio o'r fath a bydd hynny'n rhan annatod o'r aseiniad cyntaf. Mae hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr adrodd ynghylch un neu fwy o agweddau ar ddysgu yn y gwaith yn yr asiantaeth o'u dewis (yr ail aseiniad). Bydd pynciau'r agwedd hon ar y modiwl yn amrywio yn ôl y lleoliad unigol, ac felly caiff y deunyddiau darllen a'r tiwtorialau eu haddasu i anghenion penodol y myfyrwyr.
Meini Prawf
ardderchog
A- i A am ddyddiadur adfyfyriol y lleoliad* - dangos gallu rhagorol i adfyfyrio ar y profiad dysgu yn y gwaith; ceir sylwebaeth dreiddgar a chrefftus ynghylch profiadau'r myfyriwr ei hun o'r lleoliad. Dangos ymwybyddiaeth ragorol o'r llenyddiaeth ynghylch dysgu trwy adfyfyrio a thrwy brofiad.
Ar gyfer y cyflwyniad ar waith y myfyriwr gyda'r asiantaeth - cyflwyniad rhagorol sy'n trafod y lleoliad mewn ffordd wybodus a chraff.
-
Disgrifiad gwych o'r lleoliad gwaith.
-
Gwerthusiad rhagorol o un agwedd ar y gwaith a wnaed yn ystod y lleoliad.
-
Dangos dealltwriaeth ragorol o ymchwil sy'n gysylltiedig â'r pwnc. •
-
Cyflwyniad brwdfrydig sy'n ennyn diddordeb ac sy'n gwneud i'r gynulleidfa fod eisiau gwrando.
-
Sleidiau rhagorol sy'n cyd-fynd â'r cyflwyniad llafar, e.e. dim mwy na 5 pwynt bwled a thestun, amrywiaeth o wahanol luniau, dim ond ffont Times neu Ariel, dyluniad clir.
-
Ymatebion craff a diddorol yn y drafodaeth.
da
C- i B+ am ddyddiadur adfyfyriol y lleoliad - dangos gallu da neu dda iawn i adfyfyrio ar y profiad dysgu yn y gwaith; ceir sylwebaeth drylwyr ynghylch profiadau'r myfyriwr ei hun o'r lleoliad. Dangos ymwybyddiaeth dda neu dda iawn o'r llenyddiaeth ynghylch dysgu trwy adfyfyrio a thrwy brofiad.
Ar gyfer y cyflwyniad ar waith y myfyriwr gyda'r asiantaeth - cyflwyniad da neu dda iawn ar waith y myfyriwr gyda'r asiantaeth.
-
Disgrifiad da/da iawn o'r lleoliad gwaith.
-
Gwerthusiad da/da iawn o un agwedd ar y gwaith a wnaed yn ystod y lleoliad.
-
Defnyddio peth ymchwil sy'n gysylltiedig â'r pwnc.
-
Cyflwyniad da/da iawn drwodd a thro, ond angen un neu ddau o welliannau yn ymwneud â chyflwyno, e.e. patrymau llefaru, cyswllt llygad, sleidiau'r cyflwyniad, mwy o ymchwil; paratoi ar gyfer y cwestiynau.
-
Sleidiau cyflwyniad da/da iawn ond angen un neu ddau o welliannau, e.e. dim mwy na 5 pwynt bwled a thestun, amrywiaeth o wahanol luniau, dim ond ffont Times neu Ariel, dyluniad clir.
-
Ymatebion da/da iawn mewn trafodaeth ond mae angen mwy o baratoi.
trothwy
Am ddyddiadur adfyfyriol y lleoliad - dangos gallu boddhaol i adfyfyrio ar y profiad dysgu yn y gwaith; ceir sylwebaeth foddhaol ar brofiadau'r myfyriwr ei hun o'r lleoliad. Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o'r llenyddiaeth ynghylch dysgu trwy adfyfyrio a thrwy brofiad.
Ar gyfer y cyflwyniad ar waith y myfyriwr gyda'r asiantaeth - cyflwyniad boddhaol ar waith y myfyriwr gyda'r asiantaeth.
- Disgrifiad boddhaol o'r lleoliad gwaith
- Gwerthusiad boddhaol o un agwedd ar y gwaith a wnaed yn ystod y lleoliad.
- Defnyddio ychydig neu ddim ymchwil sy'n gysylltiedig â'r pwnc.
- Cyflwyniad boddhaol, ond angen un neu ddau o welliannau yn ymwneud â chyflwyno, e.e. patrymau llefaru, cyswllt llygad, sleidiau'r cyflwyniad, mwy o ymchwil; paratoi ar gyfer y cwestiynau.
- Sleidiau cyflwyniad boddhaol ond angen un neu ddau o welliannau, e.e. dim mwy na 5 pwynt bwled a thestun, amrywiaeth o wahanol luniau, dim ond ffont Times neu Ariel, dyluniad clir.
- Ymatebion boddhaol mewn trafodaeth, ond roedd angen llawer mwy o ddealltwriaeth o'r maes pwnc.
Canlyniad dysgu
-
Nodi ystod o sgiliau proffesiynol ac academaidd sy'n berthnasol i'r gweithle.
-
Sefydlu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda staff a grwpiau cleientiaid yn yr asiantaeth.
-
Datblygu a myfyrio ar gaffael ystod o sgiliau yn y gwaith.
-
Ymgysylltu'n adeiladol mewn amgylchedd dysgu.
-
Adrodd ar a gwerthuso un neu fwy o agweddau ar waith y myfyriwr ei hun yn yr asiantaeth.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Gwaith cwrs - Dyddiadur adfyfyriol y lleoliad - | 50.00 | ||
Cyflwyniad unigol ar waith myfyriwr gyda'r asiantaeth - | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | • Tiwtorial - Cynhelir sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach ac un i un i baratoi myfyrwyr ar gyfer y lleoliad; fe'u cynhelir hefyd yn ystod y lleoliad i gefnogi'r broses; ac ar ddiwedd y lleoliad i adfyfyrio ar y broses ddysgu. (5 awr). |
5 |
Workshop | Gweithdy - Seminarau neu weithdai lle mae'r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymarfer dysgu adfyfyriol, ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno. (5 awr). |
5 |
Lecture | Darlith - Darlithoedd ar werth dysgu yn y gwaith; manteision dysgu o'r fath o ran cyflogadwyedd myfyrwyr. (5 awr). |
5 |
Work-based learning | Dysgu yn y gwaith - Lleoliad gwaith - dysgu yn y gwaith dan gyd-oruchwyliaeth yr asiantaeth a'r ysgol. Bydd cytundeb dysgu (rhwng y myfyriwr, y brifysgol a'r asiantaeth) yn cynnwys pob agwedd ar y dysgu yn y gwaith. (70 awr). |
70 |
Private study | Astudio preifat - Astudio'n annibynnol: darllen sy'n gysylltiedig â'r pwnc a'r asiantaeth a ddewiswyd; paratoi a chwblhau'r ddau aseiniad. (115 awr). |
115 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Articulacy in identifying underlying issues in a wide variety of debates.
- Competence to carry out a piece of sociological research using either primary or secondary data, or both.
- Be able to recognize how social data and sociological knowledge apply to questions of public policy.
- problem solving to develop solutions to understand the past
- understanding the complexity of change over time; in specific contexts and chronologies
- being sensitive to the differences, or the "otherness" of the past, and the difficulty to using it as a guide to present or future action
- the ability to formulate and investigate sociologically informed questions
- the capacity to analyse, assess and communicate empirical sociological information
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/hac-2005.htmlRhestr ddarllen
Rhestr ddarllen Talis http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/hps-2001.html
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 2 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 2 (BA/APIPC)
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 2 (BA/CCCJ)
- LM4X: BA Polisi Cymdeithasol & Criminology and Criminal Justice year 2 (BA/PCCCJ)
- LVK1: BA Polisi Cymdeithasol/Hanes year 2 (BA/SPWH)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LVL1: BA Pol Cymd/Han Cymru year 2 (BA/SPWWH)