Modiwl XAC-3009:
Amlieithrwydd mewn Plentyndod
Amlieithrwydd mewn Plentyndod 2024-25
XAC-3009
2024-25
School of Education
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Margiad Williams
Overview
Er mwyn gwireddu nodau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn dysgu am y canlynol:
Materion yn ymwneud â gwahanol ddiffiniadau o fewn y maes
Damcaniaethau caffael iaith a dysgu ail iaith
Nodweddion seicolegol ac ieithyddol unigolion dwy- ac amlieithog
Manteision ac anfanteision dwy- ac amlieithrwydd
Ffactorau sydd yn dylanwadu cyraeddiadau ieithyddol unigolion
Asesu lefelau iaith plant a phobl ifanc dwy- ac amlieithog
Defnydd cymdeithasol o ieithoedd ymysg oedolion a phlant: problemau a’r datrysiadau posib.
Assessment Strategy
-threshold -(D ) Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o ymchwil academaidd yn y maes sydd yn trafod natur, nodweddion ac anghenion seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol unigolion dwy- ac amlieithog. Gallu adnabod y dystiolaeth sydd yn honni bod manteision ac anfanteision o feddu ar mwy nag un iaith. Gallu dangos dealltwriaeth o’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar batrymau defnydd iaith. Gallu amlygu’r berthynas rhwng damcaniaethau iaith, nodweddion y siaradwr a’i amgylchedd, a defnydd iaith, sgiliau iaith a dulliau asesu iaith.
-good -(B) Gwybodaeth eang a dealltwriaeth dda o ymchwil academaidd yn y maes sydd yn trafod natur, nodweddion ac anghenion seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol unigolion dwy- ac amlieithog. Gallu adnabod a thrafod tystiolaeth priodol i drafod y manteision ac anfanteision o feddu ar mwy nag un iaith. Dangos dealltwriaeth dda o’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar batrymau defnydd iaith. Gallu amlygu’r berthynas rhwng damcaniaethau iaith, nodweddion y siaradwr a’i amgylchedd, a defnydd iaith, sgiliau iaith a dulliau asesu iaith yn ystyrlon
-excellent -(A) Gallu i adnabod, ac i drin a thrafod sawl syniadaeth blaengar yn y maes yn effeithiol ac yn bwrpasol wrth drafod natur, nodweddion ac anghenion seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol unigolion dwy- ac amlieithog. Gallu adnabod a thrafod yn feirniadol y dystiolaeth sydd ar gael yn trafod manteision ac anfanteision o feddu ar mwy nag un iaith. Gallu trin a thrafod y dystiolaeth sydd yn amlygu’r ffactorau hynny sydd yn dylanwadu ar batrymau defnydd iaith yn ystyrlon. Gallu trafod y berthynas rhwng damcaniaethau iaith, nodweddion y siaradwr a’i amgylchedd, a defnydd iaith, sgiliau iaith a dulliau asesu iaith yn ystyrlon.
Learning Outcomes
- DAngos gwybodaeth a dealtwriaeth gadarn o natur, nodweddion ac anghenion seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol uniglion dwy- ac amlieithog
- Gallu adnabod a dadansoddi'n feirniadol y ffactorau sydd yn dylanwadu ar batrymau defnydd iaith
- Gallu adnabod a gerthuso gwahanol ddulliau addysgu dwyieithog sydd yn bodoli led-led y byd
- Gallu adnabod a gwerthuso'n feirniadol y dystiolaeth sydd yn honni bod manteision ac anfanteision o feddu ar mwy nag un iaith
- Gallu adnabod y ffactorau sydd yn dylanwadu cyrraeddiadau ieithyddol unigolyn ac yn gallu ystyried yn feirniadol pryd a sut mae diffinio rhuglder a hyfedredd iaith mewn siaradwyr dwy- ac amlieithog
- Gallu dadansoddi'n feirniadol y dystiolaeth ymchwil ym maes dwy- ac amlieithog mewn plentyndod
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Summative
Description
Gan ystyried natur, anghenion ac agweddau siaradwyr dwy- ac amlieithog, lluniwch ymyrraeth posib i geisio annog siaradwyr iaith gyntaf ac ail iaith Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Drwy gyfeirio at ymchwil academiadd yn y maes, trafodwch yn feirniadol yr hyn sydd yn nodweddiadol am siaradwyr dwy- ac amlieithog a sut mae profiadau'r siaradwyr hynny yn arwain at fanteision ac anfanteision posib o feddu ar mwy gan un iaith
Weighting
50%