Modiwl XAC-3050:
Seicoleg Plentyndod a Throseddu
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Educational Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Nia Williams
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i bynciau allweddol o fewn seicoleg plentyndod a throseddu. Bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol ddamcaniaethau am yr hyn a all achosi plentyn i ddatblygu ymddygiad troseddol naill ai fel plentyn neu yn ddiweddarach mewn bywyd. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i bynciau allweddol o fewn troseddu sy'n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc er enghraifft, ymddygiad rhywiol niweidiol mewn plant a phobl ifanc, seicoleg arteithio plant, cipio plant, ymddygiad rhywiol niweidiol tuag at blant a phobl ifanc, seicopathi, lladdwyr cyfresol, y system cyfiawnder troseddol, ac ymateb y cyhoedd i droseddau. Byddwn yn canolbwyntio ar achosion blaenorol a ddatryswyd a rhai sydd heb eu datrys lle mae plant ac oedolion ifanc wedi bod yn droseddwyr ac achosion eraill lle buont yn ddioddefwyr.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar wahanol achosion o droseddu fel llofruddiaeth, cipio plant, trais rhywiol ac ati a bydd myfyrwyr yn trafod yn feirniadol y ffactorau, y strategaethau atal, a'r strategaethau ymyrryd ar gyfer plant fel troseddwyr a dioddefwyr. Bydd y modiwl hefyd yn ymchwilio i blant sydd dan amheuaeth, cyfrifoldeb troseddol, cyfaddefiad ffug ac awgrymiadedd.
Meini Prawf
da
Da -Dealltwriaeth dda o theorïau cyfredol o seicoleg fforensig. Dangos gallu i drafod yn yn dda iawn y canlyniadau, yn y tymor byr a’r tymor hir, ar blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn ran o ymddygiad troseddol. Ymwybyddiaeth dda iawn o effaith syniadau cymdeithas ynghylch ymddygiad treiddsgart. Gallu da iawn i adnabod y gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â hyn ac awgrymu amrywiaeth o strategaethau a ddefnyddir i helpu plant a phobl ifanc sy'n ymwneud a ymddygiad treiddsgar a dadansoddi'n gritigol effaith ymyriadau a thrafod eu heffeithiolrwydd.
ardderchog
Rhagorol: Dealltwriaeth gynhwysfawr o theorïau cyfredol o seicoleg fforensig. Dangos gallu i drafod yn dreiddgar ac yn fanwl y canlyniadau, yn y tymor byr a’r tymor hir, ar blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn ran o ymddygiad troseddol. Ymwybyddiaeth drwyadl o effaith syniadau cymdeithas ynghylch ymddygiad treiddsgart. Gallu ardderchog i adnabod y gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â hyn ac awgrymu amrywiaeth o strategaethau a ddefnyddir i helpu plant a phobl ifanc sy'n ymwneud a ymddygiad treiddsgar a dadansoddi'n gritigol effaith ymyriadau a thrafod eu heffeithiolrwydd.
trothwy
Trothwy Dealltwriaeth foddhaol theorïau cyfredol o seicoleg fforensig. Dangos gallu boddhaol i drafod yn y canlyniadau, yn y tymor byr a’r tymor hir, ar blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn ran o ymddygiad troseddol. Ymwybyddiaeth foddhaol o effaith syniadau cymdeithas ynghylch ymddygiad treiddsgart. Gallu boddhaol i adnabod y gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â hyn ac awgrymu amrywiaeth o strategaethau a ddefnyddir i helpu plant a phobl ifanc sy'n ymwneud a ymddygiad treiddsgar a dadansoddi'n gritigol effaith ymyriadau a thrafod eu heffeithiolrwydd.
Canlyniad dysgu
-
Cydweithio â thîm neu'n unigol i gynhyrchu rhaglen ddogfen yn seiliedig ar ffeil achos go iawn.
-
Dangos hyfedredd mewn o leiaf dau faes fel rhan o dîm gwneud ffilmiau, yn cynnwys: cynhyrchu, rheoli, ysgrifennu i'r sgrin, cyfarwyddo, golygu, sain, effeithiau arbennig ac ymchwil.
-
Dangos dealltwriaeth drylwyr o'r system gyfiawnder bresennol, y broses dreial a thystiolaeth llygad dystion.
-
Yn seiliedig ar ddamcaniaethau ac achosion blaenorol, datblygu dealltwriaeth drylwyr o gyd-destun cymdeithasol ehangach troseddu yn ystod plentyndod a llencyndod ac ystyried effaith agweddau cymdeithasol ar droseddau plant.
-
Deall gwahanol ffactorau seicolegol a damcaniaethau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad troseddol a gwerthuso'n feirniadol ymyriadau ar sail tystiolaeth a ddefnyddir ar hyn o bryd i leihau ymddygiad troseddol.
-
Dangos dealltwriaeth drylwyr am achos gwahanol ymddygiadau troseddol a dadansoddi gwahanol achosion yn feirniadol yn seiliedig ar ddamcaniaethau a gwybodaeth ar sail tystiolaeth.
-
Datblygu dealltwriaeth drylwyr a beirniadol o effaith troseddu ar ddatblygiad plant a phobl ifanc.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Prawf yn y ddarlith | 50.00 | ||
Ffilm newyddiadurol i achos troseddau penodol | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- reflect upon a range of psychological sociological health historical and philosophical perspectives and consider how these underpin different understandings of babies and young children and childhood
- apply multiple perspectives to early childhood issues recognising that early childhood studies involves a range of research methods theories evidence and applications
- integrate ideas and findings across the multiple perspectives in early childhood studies and recognise distinctive early childhood studies approaches to relevant issues
- evaluate competing positions in relation to the construction of babies and young children and childhood by different subjects societal agents and time place and culture
- constructively critique theories practice and research in the area of child development
- demonstrate knowledge and awareness of the skills needed for different pedagogical approaches including: - the necessary depth and strength of relationships with individual children and children in groups and the facilitation of the building of relationships with and between children - the formation and promotion of mutually respectful relationships with families colleagues other professionals and communities
- critically explore examine and evaluate the significance of the cultural historical and contemporary features of various policies institutions and agencies in regard to babies young children and childhood
- lead support and work collaboratively with others and demonstrate an understanding of working effectively in teams with parents carers and other professionals 11
- demonstrate an understanding of how to plan for and where appropriate implement meeting and promoting children's health well-being protection and safety and the conditions that enable them to flourish
- produce critical arguments for improvements to multi-agency and multiprofessional practices for babies and young children
- use skills of observation and analysis in relation to aspects of the lives of babies and young children
Adnoddau
Rhestr ddarllen
Handbook of Juvenile Forensic Psychology and Psychiatry Editors: Grigorenko, Elena (Ed.)
Handbook of Evidence-Based Interventions for Children and Adolescents
Adolescents, Crime, and the Media A Critical Analysis Authors: Ferguson, Christopher J (2013)
The psychopath, theory, research and practice (2012)
Handbook of Violence Risk Assessment and Treatment New Approaches for Mental Health Professionals Author: Joel T. Andrade Ph.D., LICSW
The Filmmaker’s Handbook, 3rd Edition by Steven Ascher & Edward Pincus
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 3 (BA/API)
- X313: BA Childhood and Youth Studies year 3 (BA/CYS)
- C813: BSc Psychology with Forensic Psychology year 3 (BSC/PSYFP)
- C84B: BSc Psychology with Forensic Psych (4 yr with Incorp Foundn) year 3 (BSC/PSYFP1)
- C81P: BSc Psychology with Forensic Psychology with Placement Year year 4 (BSC/PSYFPP)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 3 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 3 (BA/APIPC)
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 3 (BA/APIS)
- X317: BA Childhood and Youth Studies and Social Policy year 3 (BA/CYSP)
- X315: BA Childhood and Youth Studies and Sociology year 3 (BA/CYSS)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)