Newyddion: Medi 2019

Bangor yn ennill Cymrodoriaeth Arweinydd y Dyfodol

Mae academydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor wedi ennill Cymrodoriaeth bwysig Arweinydd y Dyfodol gan Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI), un o brif gyrff cyllido'r Deyrnas Unedig.

Mae Dr Chris Staples yn ymuno â phrif ymchwilwyr ac arloeswyr  o bob rhan o'r wlad i dderbyn cyfran o'r £78 miliwn a ddyfernir fel Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol. Bwriad y buddsoddiad yw rhoi hwb i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwyddonol, i gynnal eu gwaith ymchwil arloesol ac i ddatblygu annibyniaeth eu hymchwil.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019

Are the Amazon fires a crime against humanity?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Tara Smith o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019

A yw rhaglenni natur yn ein twyllo i feddwl bod cyflwr ein planed yn iawn?

Mae ymchwil i raglenni byd natur diweddar y BBC a Netflix yn awgrymu, er bod y rhaglenni yn sôn fwyfwy am fygythiadau sy'n wynebu byd natur, nid ydynt yn aml yn dangos maint llawn y dinistr amgylcheddol a achosir gan bobl

Mae consensws gwyddonol cryf bod natur yn cael ei heffeithio'n ddifrifol gan bobl, bod cyfradd difodiant rhywogaethau yn cyflymu, a bod hyn yn cael effeithiau difrifol. Mae rhaglenni byd natur wedi cael eu beirniadu o bryd i’w gilydd am beidio â dangos i ba raddau y mae'r amgylchedd yn dioddef. Mae astudiaeth newydd wedi canfod, er bod rhaglenni byd natur poblogaidd diweddar yn trafod mwy o'r bygythiadau sy'n wynebu'r rhyfeddodau natur a bortreadir, mae byd natur yn dal i gael ei ddangos yn bennaf fel rhywbeth dilychwyn heb ei gyffwrdd, a gall hyn arwain at ddifaterwch ymysg gwylwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019

Efo secwinau cynaliadwy ar gael, does dim rhaid i chwyldro gwyrdd fod yn ddi-liw!

Gyda secwinau'n dal yn hynod boblogaidd ym myd 'ffasiwn cyflym', mae un cwmni bychan yn gobeithio ychwanegu tipyn o liw a chynaliadwyedd yr un pryd drwy ddatblygu secwin bioddiraddadwy.

Mae ffasiwn cyflym yn aml yn cael ei feirniadu am gynyddu maint y defnyddiau sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Ac mae'r bri mawr ar secwinau ond yn ychwanegu haen o blastig na ellir ei ailgylchu i'r gymysgedd honno.

Mae un cwmni'n gobeithio newid hynny i gyd fodd bynnag. Sefydlodd Rachel Clowes The Sustainable Sequin Company flwyddyn yn ôl i ddarparu secwinau cynaliadwy i'r diwydiant ffasiwn.

Ar hyn o bryd mae Rachel yn defnyddio plastig wedi'i ailgylchu i ddarparu secwinau parod a rhai wedi'u gwneud yn arbennig o wahanol siapiau a meintiau. Secwinau Rachel wedi'u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu yw'r cam cyntaf tuag at ei nod o ddatblygu secwin y gellir ei gompostio. Wrth ddefnyddio'r rhain ar ddefnydd bioddiraddadwy, gallai'r dilledyn cyfan bydru'n naturiol ar ôl ei anfon i safle tirlenwi.

Mae Rachel wedi troi at arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor ac wedi gofyn iddynt ddefnyddio eu profiad sylweddol i wireddu ei nod.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2019

Preventable trauma in childhood costs North America and Europe $1.3 trillion a year

Datganiad rhyngwladol uniaith Saesneg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid oes cyfieithiad ar gael.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2019

Sut mae dysgu peirianyddol yn gwella cricedwyr Lloegr

Mae'n debyg na fyddai unrhyw un yn meddwl am gysylltu dysgu peirianyddol arloesol gyda chriced o'r safon uchaf. Fodd bynnag, datblygiad dysgu peirianyddol a alluogodd arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatgelu i Fwrdd Criced Lloegr a Chymru (ECB) y ffactorau hynny a all arwain at ddatblygu cricedwyr o'r radd flaenaf i chwarae ar lefel siroedd neu'n rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2019