/sites/default/files/styles/16x9_1920w/public/2023-09/Screenshot%20%2852%29.png?h=d1cb525d&itok=TmR0CLMd

Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Bangor

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs israddedig, cewch flas go iawn ar fywyd prifysgol trwy ddod i Ddiwrnod Agored. Rydym yn gobeithio byddwch yn gallu ymweld â ni - edrychwn ymlaen at eich gweld.

Dyddiadau'r Dyddiau Agored nesaf:

  • Dydd Sadwrn, 29 Mehefin 2024
  • Dydd Sadwrn, 17 Awst 2024

Cofrestru Nawr

 Dyddiau Agored ar y Campws 2024

  •    Dydd Sadwrn, 29 Mehefin
  •    Dydd Sadwrn, 17 Awst 
  •    Dydd Sul, 13 Hydref
  •    Dydd Sul, 27 Hydref
  •    Dydd Sadwrn, 23 Tachwedd

 Dyddiau Agored Rhithiol 2024

  •    Dydd Mercher, 2 Hydref 
  •    Dydd Mercher, 4 Rhagfyr

Wedi gwneud cais am gwrs sy’n cychwyn ym Medi 2024? Dewch i un o'n Diwrnodau Deiliaid Cynnig.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am gwrs sy’n cychwyn ym Medi 2024, yna edrychwch ar y wybodaeth am ein Diwrnodau Deiliaid Cynnig.

Archebwch eich lle ar Ddiwrnod Agored

Ar Ddiwrnod Agored, byddwch yn:

  •  cael mwy o fanylion am eich pwnc
  •  gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
  •  cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
  •  gweld y llety i fyfyrwyr
  •  cael blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
  •  mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
  •  ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.

Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.uk os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol. 

Os nad ydych yn gallu dod i un o'r Dyddiau Agored, ebostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk i drefnu ymweliad unigol i'r Brifysgol ar ddyddiad arall. 

Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored

Bydd y Diwrnod Agored yn ddiwrnod prysur felly dylech ddarllen y rhaglen a nodi popeth rydych yn gobeithio ei weld a’i wneud cyn dod i’r Diwrnod Agored.

Mae’n syniad ystyried yr holl gwestiynau posib cyn i chi ddod - efallai bod gennych gwestiynau i staff am y gofynion mynediad neu fodiwlau’r cwrs neu gwestiynau i fyfyrwyr presennol am fywyd myfyriwr ym Mangor e.e., y clybiau a’r cymdeithasau sydd yma. 

Er bod rhan fwyaf o adeiladau’r Brifysgol o fewn pellter cerdded i’r prif adeilad lle byddwch yn cofrestru ar ôl cyrraedd, byddwch yn synnu faint o waith cerdded byddwch yn ei wneud yn ystod diwrnod agored felly gwisgwch esgidiau cyffyrddus y byddwch yn hapus i gerdded ynddynt trwy’r dydd. Ni allwn addo tywydd braf chwaith - felly dewch â chôt neu siaced gyda chi.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?