« Hydref 2023 »
Su | Ll | Ma | Me | I | G | Sa |
---|---|---|---|---|---|---|
1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 |
8 | 9 | 10 | 11 | 12 | 13 | 14 |
15 | 16 | 17 | 18 | 19 | 20 | 21 |
22 | 23 | 24 | 25 | 26 | 27 | 28 |
29 | 30 | 31 |
Diwrnod Cymunedol Prifysgol Bangor Sadwrn 14 Hydref 2023
Dewch draw i ddarganfod mwy am eich prifysgol leol, o'i hanes i'r gwaith ymchwil sydd ar y gweill, i gael blas ar gywyd myfyrwyr, a dysgu rhagor am yr holl ffyrdd yr ydym yn cysylltu gyda'r gymuned leol a gweddill y byd.
- Lleoliad:
- Prif Adeilad a Pontio
- Amser:
- Dydd Sadwrn 14 Hydref 2023, 11:00–15:00
- Cyswllt:
- cymuned@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal ei Diwrnod Cymunedol cyntaf yn yr hydref!
Dewch draw i ddarganfod mwy am eich prifysgol leol, o'i hanes i'r gwaith ymchwil sydd ar y gweill, i gael blas ar gywyd myfyrwyr, a dysgu rhagor am yr holl ffyrdd yr ydym yn cysylltu gyda'r gymuned leol a gweddill y byd.
Gobeithio y bydd ffrindiau o bob oed yn ymuno â ni i ddysgu a darganfod, gyda'r pwyslais ar weithgareddau hwyliog ao fewn y Prif Adeilad ar Ffordd y Coleg a lawr i Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi'r Brifysgol sydd yn ein cysylltu ni â chanol dinas Bangor.
Bydd adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol i gyd yn cymryd rhan, a bydd yn ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan yn cynnwys arddangosfeydd, teithiau, gweithdai a pherfformiadau, i gyd am ddim.
Bydd bwyd a diod hefyd ar gael ym mannau bwyd a diod amrywiol y Brifysgol, gan gynnwys caffi a bar Teras a Pontio.
Cadwch lygad ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â'r rhaglen:
https://www.bangor.ac.uk/cy/digwyddiadau/diwrnodcymunedol
Digwyddiad am ddim. Cofrestrwch ar Eventbrite er mwyn sicrhau eich tocyn a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf
Mwy o fanylion i ddilyn dros yr wythnosau nesaf!