Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Fy Mangor
  • Swyddi
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ymgeiswyr
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Dyddiau Agored

    Digwyddiad Ôl-raddedig

    Gwybodaeth i Ymgeiswyr

    Taith Rhithiwr

    Archebu Prosbectws Poced

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Academi Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Dyddiau Agored 2025/26
      • Diwrnod Agored Bach - Ionawr 2026
      • Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol
      • Newid / Canslo Ymweliad
    • Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
      • Rhaglen y Diwrnod Agored Bach
      • Sut i Gyrraedd y Diwrnod Agored
      • Parcio Diwrnod Agored
      • Opsiynau Llety
      • Astudio drwy'r Gymraeg
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Cwestiynau i'w Gofyn
      • Meysydd Pwnc Israddedig
      • Bwyd a Diod
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Darganfod Bangor a'r Ardal
    • Digwyddiad Ôl-raddedig
      • Mwy o Wybodaeth

    Cofrestru ar Ddiwrnod Agored Bach - Ionawr 2026

    Taith Rithwir

    Map o'r campws

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ymgeiswyr
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Dyddiau Agored

    Digwyddiad Ôl-raddedig

    Gwybodaeth i Ymgeiswyr

    Taith Rhithiwr

    Archebu Prosbectws Poced

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Academi Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Dyddiau Agored 2025/26
      • Diwrnod Agored Bach - Ionawr 2026
      • Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol
      • Newid / Canslo Ymweliad
    • Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
      • Rhaglen y Diwrnod Agored Bach
      • Sut i Gyrraedd y Diwrnod Agored
      • Parcio Diwrnod Agored
      • Opsiynau Llety
      • Astudio drwy'r Gymraeg
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Cwestiynau i'w Gofyn
      • Meysydd Pwnc Israddedig
      • Bwyd a Diod
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Darganfod Bangor a'r Ardal
    • Digwyddiad Ôl-raddedig
      • Mwy o Wybodaeth

    Cofrestru ar Ddiwrnod Agored Bach - Ionawr 2026

    Taith Rithwir

    Map o'r campws

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Fy Mangor
  • Swyddi
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Mae awyr artiffisial y nos yn fygythiad mawr i rywogaethau'r arfordir

 Mae'r chwannen draeth (Talitrus saltator) yn gyffredin i arfordir Ewrop.: Credyd John Spicer, Prifysgol Plymouth Mae'r chwannen draeth (Talitrus saltator) yn gyffredin i arfordir Ewrop.: Credyd John Spicer, Prifysgol PlymouthMae ymchwil newydd yn awgrymu o bosib bod goleuadau artiffisial arfordiroedd y byd yn effeithio'n ddirfawr ar y rhywogaethau sy'n dibynnu ar y lleuad a'r sêr i chwilota am fwyd.

Mae creaduriaid fel y chwannen draeth (Talitrus saltator) yn defnyddio safle'r lleuad a disgleirdeb awyr naturiol y nos i lywio eu symudiadau yn y nos.

Fodd bynnag, mae astudiaeth gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Plymouth yn dangos bod  golau artiffisial dinasoedd sydd sawl cilometr i ffwrdd (disgleirdeb artiffisial yr awyr) yn tarfu ar y creaduriaid bach sy'n defnyddio'r lleuad yn gwmpawd i deithio'n bell.

Mae hynny'n gallu peri iddynt fynd i gyfeiriad y môr ac i ffwrdd o'u bwyd, ac mae hyd yn oed yn gallu peri iddynt beidio â mentro allan i chwilota am fwyd o gwbl.

Mewn erthygl yn Current Biology, dywed ymchwilwyr y gallai hynny fod yn fygythiad amlwg nid yn unig i iechyd poblogaethau chwain y traeth ond hefyd i'r ecosystem ehangach, gan eu bod yn chwarae rhan bwysig yn chwalu ac yn ailgylchu algâu sy'n cael eu golchi i fin y traeth. 

Cynhaliwyd yr astudiaeth fel rhan o'r project Effeithiau Golau Artiffisial ar Ecosystemau'r Arfordir (ALICE), a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.

Yn ogystal ag o'n trefi, gall goleudau artiffisial ddeillio o fyrdd, pontydd a strwythurau eraill.Yn ogystal ag o'n trefi, gall y goleudau artiffisial hyn deillio o ffyrdd, pontydd a strwythurau eraill.Dr Thomas Davies, Darlithydd Cadwraeth Môr ym Mhrifysgol Plymouth (Y Deyrnas Unedig), yw uwch awdur a phrif ymchwilydd y papur ar broject ALICE. Dywedodd:

“Disgleirdeb yr awyr yw'r llygredd golau mwyaf eang yn ddaearyddol. Mae arolygon yn dangos y gellir ei ganfod ar hyn o bryd uwchlaw 23% o arfordiroedd y byd bob nos, ac o ystyried bod poblogaethau dynol yr arfordiroedd am ddyblu man lleiaf erbyn 2060 mae'r effaith yn siŵr o gynyddu. Mae ein canlyniadau ninnau'n dangos ei fod eisoes yn effeithio ar brosesau biolegol sy'n dibynnu ar oleuni'r awyr.

“Trwy broject ALICE, rydym yn gweld tystiolaeth gynyddol y gall llygredd golau o ddinasoedd arfordirol ddylanwadu ar rywogaethau morol sy'n byw ar draethau cyfagos, ar y glannau creigiog a hyd yn oed gwaelod y môr. Mae'r canlyniadau hynny'n dangos dylanwad goleuadau'r ddinas ar ecoleg yr arfordir yn bell i ffwrdd o'r canolfannau trefol agosaf. Maent hefyd yn dangos sut mae disgleirdeb artiffisial yr awyr yn effeithio ar rywogaethau eraill sy'n defnyddio'r lleuad yn gwmpawd i'w siwrneiau.

“Er bod ein dealltwriaeth o effeithiau goleuadau stryd ar natur wedi gwella’n aruthrol, anwybyddwyd disgleirdeb artiffisial yr awyr i raddau helaeth. Mae angen gwneud mwy o waith ar fyrder i lawn ddeall yr effaith ar yr amgylchedd naturiol."

Ychwanegodd Stuart Jenkins, Athro Ecoleg y Môr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ac un o gyd-awduron yr astudiaeth:

“Mae’n hawdd anghofio pa mor ddylanwadol yw'r lleuad wrth arwain symudiadau llawer o organebau. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli fwyfwy ein bod o bosibl yn lleihau gallu anifeiliaid i lywio trwy darfu ar batrymau goleuadau'r nos. Mae’r ymchwil newydd hwn ar lannau'r gogledd  yn dangos yn glir y gall lefelau isel iawn o olau artiffisial effeithio'n ddirfawr ar rywogaethau morol yr arfordir.”

Mae'r chwain traeth yn gyffredin ar arfordiroedd Ewrop ac mae'n treulio'r dydd o dan y tywod ar ddyfnder o 10-30cm, ac mae'n dod allan yn  y nos i fwyta gwymon sy'n pydru a malurion eraill.

Ar gyfer yr astudiaeth hon, bu ymchwilwyr yn monitro poblogaeth chwain traeth Porth Trecastell yn y gogledd (Cymru), man naturiol dywyll, dros 19 o nosweithiau rhwng Mehefin a Medi 2019.

Buont yn arsylwi ymddygiad bron i 1,000 o unigolion o dan amryw o gyfnodau'r lleuad a thywydd amrywiol, cyn cyflwyno golau artiffisial a oedd yn efelychu dwyster a lliw disgleirdeb yr awyr mewn trefi a dinasoedd o amgylch arfordir y Deyrnas Unedig.

Dangosodd y canlyniadau fod disgleirdeb artiffisial yr awyr yn ei gwneud hi'n llai tebygol y byddai'r creaduriaid yn mudo o dan y lleuad lawn ac awyr glir, ac yn ystod y lleuad newydd waeth faint o gymylau sydd.

Heb y disgleirdeb artiffisial yn yr awyr, a'r lleuad yn llawn a'r awyr yn glir, byddent yn symud tua'r lan yn ôl y disgwyl i chwilota am fwyd. Fodd bynnag, a'r disgleirdeb artiffisial yn yr awyr yn ystod yr un cyfnod lleuad a'r un amodau o ran y cymylau, roedd eu symudiadau'n llawer mwy dryslyd.

Nod project ALICE yw ymhelaethu ar yr astudiaeth hon trwy fonitro nifer cynyddol o rywogaethau yn ogystal â gweithio gyda sefydliadau cadwraeth, y diwydiant goleuadau, y diwydiant acwariwm a dyframaeth, a'r cyhoedd i gynyddu ymwybyddiaeth o'r mater.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2020

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ôl-raddedigion
    • Diwrnodau agored
    • Fideos
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Polisïau'r Coleg
    • Iechyd a Diogelwch
    • Cysylltiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor