Slipiau Cyflog Electronig
O fis Mai 2020 ymlaen bydd Cyngor Cyflog misol (slipiau cyflog) a eich P60 blynyddol yn cael eu cynhyrchu a'u dosbarthu'n electronig a'u hanfon trwy e-bost i'ch cyfeiriad e-bost prifysgol. Yn ogystal â moderneiddio ein prosesau, bydd hyn yn gwella ein cynaliadwyedd amgylcheddol. Mae'r trefniant hwn yn cynnwys gweithwyr is-gwmnïau Bangor ond nid yw'n cynnwys aelodau o Gynllun Pensiwn Prifysgol Bangor a fydd yn parhau i dderbyn copïau papur.
Ychwanegir at y gwasaneth e-bost gan borth hunanwasanaeth maes o law. Bydd y porth hunanwasanaeth yn cadw'r holl slipiau cyflog sydd wedi'u cynhyrchu rhag ofn y byddwch chi'n dileu'ch copi ar e-bost. Bydd manylion ar sut i gael mynediad i'r porth yn ymddangos yma maes o law.Dangosir rhai cwestiynau cyffredin isod.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â cyflogres@bangor.ac.uk
Cwestiynau ac Atebion
- Nid oes gen i gyfrif cyfrifiadurol Prifysgol Bangor, beth ddylwn i ei wneud?
Bydd gan bob aelod o staff gyfrif. Os ydych chi'n ansicr beth yw'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair, cysylltwch â desg gymorth y Gwasanaethau TG neu drwy e-bost helpdesk@bangor.ac.uk neu 8111. - Ni dderbyniais fy slipiau cyflog Mawrth ac Ebrill 2020?
Oherwydd rheoliadau COVID-19 amharwyd ar ddosbarthiad slipiau cyflog. Bydd copïau electronig o'r slipiau cyflog hyn yn cael eu hanfon ddiwedd mis Mai ynghyd â slip cyflog mis Mai. - Rwy'n gweithio gartref / ar furlough ac yn methu â chyrchu'r rhyngrwyd ar yr adeg hon, beth ddylwn i ei wneud?
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur neu ddyfais symudol ar hyn o bryd, bydd eich slipiau cyflog yn aros ar ein systemau a gallwch ddefnyddio un o'r nifer o gyfrifiaduron mynediad agored o amgylch y Brifysgol pan ddychwelwch i'r safle. - Ni allaf ddefnyddio cyfrifiadur ac mae angen i mi gael copi papur
Oherwydd sefyllfa barhaus COVID, ni allwn ddod i mewn i'n swyddfeydd i gynhyrchu a dosbarthu copïau papur. Byddwn yn ailedrych ar y broblem hon pan ddychwelwn.