Dyddiau Agored ar y Campws 2026
- Dydd Sadwrn, Gorffennaf 04
- Dydd Sul, Awst 16
- Dydd Sul, Hydref 11
- Dydd Sadwrn, Hydref 24
- Dydd Sadwrn, Tachwedd 28
Wedi gwneud cais ar gyfer Medi 2026? Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno eich cais ar gyfer cwrs sy'n dechrau ym Medi 2026, cadwch lygad am eich gwahoddiad i Ddiwrnod i Ymgeiswyr, a fydd yn cael ei anfon trwy e-bost neu'r post.
Beth i'w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored
- cewch fwy o fanylion am eich pwnc
- gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
- cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
- gweld y llety i fyfyrwyr
- cewch flas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
- mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
- ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.uk os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Os nad ydych yn gallu dod i un o'r Dyddiau Agored, ebostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk i drefnu ymweliad unigol i'r Brifysgol ar ddyddiad arall.
Pam Dewis Prifysgol Bangor?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig
[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!
[0:07] Welcome to Bangor University Open Day!
[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.
[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.
[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?