THE MAPS OF MOLD: DEPICTIONS OF A FLINTSHIRE LANDSCAPE c.1600-1900
- Lleoliad:
- Zoom - ar-lein
- Amser:
- Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2021, 19:00–20:00
- Cyswllt:
- iswe@bangor.ac.uk
Darlith ar-lein
Bydd y ddarlith ar-lein hon gan Gymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint yn rhannu canfyddiadau project ‘Mapio Amlhaenog’ a gyllidir gan yr AHRC, sy'n ceisio dadansoddi parhad a newid mewn tirwedd mewn un ardal o ogledd ddwyrain Cymru rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Bydd y sgwrs, a draddodir gan Dr Shaun Evans o Brifysgol Bangor a Scott Lloyd o'r Comisiwn Brenhinol, yn arddangos y gwahanol fathau o fapiau hanesyddol sy'n ymwneud ag ardal y project, gan drafod yr hyn y maent yn ei ddatgelu am dirwedd a chymdeithas Sir y Fflint yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.
Project grant cydweithredol dan arweiniad Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) ym Mhrifysgol Bangor yw’r project ‘Mapio Amlhaenog’ a gyllidir gan yr AHRC. Mae’r project yn digwydd mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cliciwch yma i ymuno â'r digwyddiad
I gael rhagor o wybodaeth am y project ewch i iswe.bangor.ac.uk
7pm, nos Fawrth 9 Tachwedd 2021
Croeso i bawb