Newyddion: Hydref 2019
Mae'n bosib bod helyntion priodasol Harri VIII wedi dylanwadu ar gyplau eraill, yn ôl dogfennau sydd newydd ddod i'r fei
Darganfuwyd dogfennau sy'n dangos o bosib bod helyntion priodasol enwog Harri VIII wedi peri i gyplau eraill ledled y wlad wahanu fel y gwnaeth yntau. Mae stori ryfeddol hogyn yn ei arddegau a fu'n ymbalfalu rhwng dwy wraig mewn ffordd debyg - ac ar yr un pryd - i ymdrechion y brenin i geisio newid ei gymar yn awgrymu bod cyplau eraill yn gwylio a bod dylanwad achos y brenin yntau ar y gyfraith wedi dylanwadu arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019
Pryd daeth pobl Cymru'n Gymry?
Mae Cwpan Rygbi'r Byd ymlaen, a gwelwn ddarlledu hunaniaeth Gymreig ar y sgrin fawr ledled y byd. Ond, yng nghanol miri canu’r anthem, y dreigiau a’r cennin Pedr, a ydych chi erioed wedi pendroni pryd y dechreuodd pobl eu hystyried eu hunain yn Gymry, ac mai Cymru oedd eu gwlad? Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno bod ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn bodoli erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond nid ydym yn gwybod eto pryd yn union y datblygodd hynny a pham. Mae'r hanesydd canoloesol Dr Rebecca Thomas o'r farn bod modd dirnad awgrymiadau o hunaniaeth Gymreig mor gynnar â'r nawfed ganrif.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019
EMPYRE: Project Gwaith Ieuenctid yn Ewrop
Mae'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas bellach yn un o bartneriaid project Erasmus EMPYRE sydd yn canolbwyntio ar waith ieuenctid yn Ewrop. Mae sefydliadau addysg uwch eraill o bob cwr o'r Undeb Ewropeaidd a sefydliadau elusennol mewn pedair gwlad yn bartneriaid yn y project, sy'n archwilio, yn casglu ac yn datblygu arferion gwaith ieuenctid llwyddiannus sy'n cael eu defnyddio i rymuso pobl ifanc yn Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019