Grant nodedig ar gyfer ymchwil i Hanes Ewrop i hanesydd o Fangor
Yn ddiweddar, bu i’r Dr Katharine Olson, darlithydd mewn hanes  canoloesol a modern cynnar ym Mangor, dderbyn Grant nodedig Bernadotte  E. Schmitt am Ymchwil i Hanes Ewrop gan yr ‘American Historical  Association’.  Sefydlwyd y grant hynod gystadleuol hwn yn 1960 drwy  gymynrodd gan Bernadotte E. Schmitt, llywydd yr ‘American Historical  Association’, a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo astudiaethau hanesyddol yn  1884. 
 
 Derbyniodd Olson ei B.A. (anrhydedd) mewn Hanes o  Brifysgol Chicago, a’i M.A. mewn Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd a  Ph.D. mewn Hanes ac Astudiaethau Celtaidd o Brifysgol Harvard. Mae ei  hymchwil bresennol yn canolbwyntio ar grefydd, diwylliant,  gwleidyddiaeth, a chymdeithas yn niwedd Oesoedd Canol a chychwyn cyfnod  modern Prydain, Iwerddon ac Ewrop, gan ganolbwyntio’n benodol ar Gymru  a’r Gororau.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2012