Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Myfyrwyr yn creu gemwaith coeth

Elgan Jones ag esiampl o'i waith.Elgan Jones ag esiampl o'i waith.Mae dewis o emwaith coeth, sydd wedi ei ddylunio gan fyfyrwyr dylunio ym Mhrifysgol Bangor, bellach ar gael yn gyfyngedig i MOSTYN yn Llandudno.

Mae’r oriel celfyddyd gyfoes wedi gweithio gyda staff a myfyrwyr y cwrs gradd Dylunio Cynnyrch i greu eitemau o emwaith sydd yn gweddu i siop MOSTYN. 

Mae’r eitemau sydd ar werth wedi eu dewis o blith gwaith y myfyrwyr. Roedd nifer o’r darnau unigol wedi eu hysbrydoli gan y lleoliad a gan gefn gwlad, ac mae hyn i’w weld yn glir yn y darnau sydd ar werth.

Meddai Katie Roberts, darlithydd Dylunio Cynnyrch yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol:

“Mae profiad yn angenrheidiol ar gyfer unrhyw faes ac mae cyfleoedd i gydweithio gyda chwmnïau neu gyrff sydd yn angerddol dros ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr a rhai sydd yn meddwl yn greadigol, yn amhrisiadwy. Mae’r project yma wedi bod yn gaffaeliad gwirioneddol i’r myfyrwyr hyn.”

“Rydym yn gosod pwyslais mawr ar ddarparu heriau creadigol real i’n myfyrwyr. Yn ogystal â dewis eang o brojectau fel yr un yma, mae’r myfyrwyr yn treulio amser mewn tri lleoliad yn ystod eu cyfnod ar y cwrs. Mae treulio rhwng wyth a deg wythnos y flwyddyn ar leoliadau yn cynyddu profiadau proffesiynol ein myfyrwyr, sy’n gwneud ein cwrs Dylunio Cynnyrch ni yn unigryw o fewn y DU.”

"Roedd yn wych dilyn ymdriniaeth myfyrwyr unigol o’r brîff a sut yr oeddynt yn datblygu eu gemwaith i weddu gydag anghenion ein cwsmeriaid,” meddai Barry Morris o MOSTYN.

Steffan Jones a'r gwaith ganddo sydd ar werth.Steffan Jones a'r gwaith ganddo sydd ar werth.“Yn unôl a fy rôl i fel Rheolwr Manwerthiant, rwyf wastad yn cadw golwg am dalent newydd, ac rydym wastad yn awyddus i gefnogi gwneuthurwyr a rhoi gofod iddynt arddangos eu gwaith,  felly roedd y brîff yn ddelfrydol ar ein cyfer.”

“Mae’r darnau a ddewiswyd i’w harddangos yn siop MOSTYN wedi derbyn cryn sylw gan gwsmeriaid, ac mae nifer o eitemau eisoes wedi eu trosglwyddo i’w perchnogion newydd!  Rydym yn eiddgar i weld beth fydd camau nesaf y myfyrwyr ac yn dymuno’n dda iddynt ar gyfer eu gyrfaoedd i’r dyfodol."

Thomas Mott, o Darwen, Blackburn yw un o’r myfyrwyr sydd â gwaith ar ddangos yn y siop.

Meddai: "Mae’n wych gwybod bod fy ngwaith eisoes allan yna ac alla i ddim disgwyl i weld i ble arall y galla i fynd gyda fy ngwaith."

Mae’r cyn-ddisgybl o Clitheroe Royal Grammar Sixth yn edrych ymlaen at gwblhau ei gwrs gradd a chanfod gwaith mewn ymgynghoriaeth ddylunio.

Dywed Thomas fod ei gwrs yn darparu digon o gyswllt rhyngddo a darlithwyr a mentoriaid, sydd yn ei alluogi i dderbyn cymorth strategol i gyrraedd ei nodau gyrfaol ac sy’n rhoi naws deuluol i’r cwrs hefyd.

Mae Steffan Jones o Lanfairpwll wedi bod yn angerddol dros gelf a dylunio ers yn ifanc. Meddai:

“Y rhan orau o gael gemwaith i’w arddangos a’i werthu yw gwybod bod rhywun wedi hoffi’r hyn yr ydych wedi ei greu i’r fath raddau nes eu bod wedi penderfynu gwario’u harian arno. Mae’n deimlad arbennig.”

Tom Mott a'i gemwaith sydd ar werth.Tom Mott a'i gemwaith sydd ar werth.Ychwanegodd: “Mae profi cymaint o lwyddiant gyda’r project gemwaith wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod yn wir mwynhau dylunio a chreu eitemau unigryw, felly ar gyfer fy nhrydedd flwyddyn, rwyf wedi penderfynu archwilio’r posibilrwydd o ddechrau fy musnes dodrefn fy hun, gan mai fy nod yn y pen draw yw i ddilyn gyrfa ym maes dylunio dodrefn.”

Mae gwaith Elgan Jones o Lannefydd, Dinbych, hefyd wedi ei gynnwys. Dywedodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Glan Clwyd ei fod yn teimlo “balchder o gael fy ngwaith yn cael ei arddangos mewn Oriel mor enwog.”

Mae wedi gwerthfawrogi ei dri chyfnod o brofiad gwaith, ac yn teimlo eu bod wedi ei baratoi ar gyfer bod yn ddylunydd sy’n barod i gyfrannu i’r diwydiant. Cafodd ei fagu ar fferm ac wedi ei amgylchynu â pheiriannau gwahanol o oed cynnar – sefyllfa a ysgogodd awydd mawr ynddo i ddeall mecanwaith y peiriannau hyn. Yn hyn o beth, roedd dewis astudio gradd Dylunio Cynnyrch yn bodloni ei ddiddordeb mewn dylunio ac mewn peirianneg. Ar ôl iddo raddio, mae Elgan yn bwriadu dilyn cwrs Meistr Peirianneg Fecanyddol cyn dilyn gyrfa fel dylunydd peirianyddol.

Mae MOSTYN  yn elusen gofrestredig yn y DU ac felly mae pob incwm a gynhyrchir gan y siop a’r orielau arwerthiant yn cael eu buddsoddi yn ôl i raglen arddangos, dysgu ac ymwneud MOSTYN.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2018

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau Dynol
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ôl-raddedigion
    • Cyrsiau rhan-amser
    • Iechyd a Diogelwch
    • Polisïau
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Cysylltiadau’r Coleg
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor