‘From Dragoun to Dragon: The role of the Dragon in Medieval and Early Modern English Literature’.
Cyfres Seminarau Ymchwil IDC
- Lleoliad:
- Teams ar-lein
- Amser:
- Dydd Mercher 23 Chwefror 2022, 14:10–15:10
Stevie Fox - Prifysgol Bangor
Mae’r traethawd ymchwil hwn yn archwilio disgrifiadau llenyddol o’r ddraig a’r newid a fu yn ei harwyddocâd diwylliannol a’i dehongliad.
Mae’r traethawd ymchwil yn dechrau gyda’i gwreiddiau yn niwylliant Swmeria Mesopotamia gynnar, ac mae’n olrhain ei hailddehongli yn y cyfnod clasurol. Yna mae’n defnyddio’r deunyddiau cynnar hynny i egluro cynrychioliad a dehongliad dreigiau yn y genres llenyddol canoloesol allweddol y maent yn ymddangos ynddynt.
Ar ôl archwilio arwyddocâd dreigiau mewn llenyddiaeth ganoloesol, mae’r traethawd ymchwil yn mynd rhagddo i ddisgrifio hynt a helynt y ddraig yn y cyfnod modern cynnar, ac mae rhan olaf y traethawd ymchwil yn archwilio’r modd yr etifeddodd Edmund Spenser chwaeth lenyddol y canoloesoedd yn ei ramant epig alegorïaidd, The Faerie Queene.
Yn ystod y Dadeni, a gwrthdaro crefyddol cyfnewidiol y cyfnod, collodd y ddraig ei phoblogrwydd, a hynny oherwydd ei bod yn gysylltiedig â'r seintiau Catholig. Y gwaith mawr cyntaf i atgyfodi'r ddraig oedd gwaith Edmund Spenser The Faerie Queen ac yn hwnnw caiff y ddraig ei thrawsnewid i gynrychioli’r ffydd Babyddol, yr hwn y mae’n rhaid ei orchfygu yn anad popeth. Mae’r FQ yn ddatganiad gwleidyddol a chymdeithasol, ac mae’n gerdd bolemaidd epig. Mae’n parhau i fod yr un mor enigmatig a difyr heddiw â’r dydd y cafodd ei hysgrifennu.
I gloi, dyma gipolwg gryno ar anfarwoldeb y ddraig yn y diwylliant modern.