Barddoniaeth mewn Cyfieithiadau Trawsatlantig
Barddoniaeth mewn Cyfieithiadau Trawsatlantig
Mae cyfres golocwiwm rithwir newydd yn bwrw trem y tu hwnt i bethau’r 'berthynas arbennig'. Mae’n archwilio’r cysylltiadau amlieithog a grëir trwy farddoniaeth fel ymateb ôl-wladychol i Atlantigiaeth Saesneg ei hiaith ac i hanesion gwladychiaeth Ewropeaidd. Nodweddid y digwyddiad cyntaf ar 17 Mai gan sgyrsiau a oedd yn rhychwantu tri chyfandir a gyflwynwyd gan yr Athro Zoë Skoulding (Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth a’r Cyfryngau) a Dr Dan Eltringham (Prifysgol Sheffield). Gweler:https://youtu.be/Bw3rxtxbv9Q
Disgrifiodd Abigail Lang o Baris y cyfnewid lluosog a fu rhwng beirdd Ffrainc ac UDA er 1968, sy’n dangos sut y trodd beirdd Ffrainc at farddoniaeth yr Unol Daleithiau i ddianc rhag hierarchaethau llenyddiaeth Ffrangeg. Cododd gwestiwn ai dyna’r cam cyntaf at amlddiwylliannedd ynteu a fu'n rhwystr i berthynas â beirdd trefedigaethau Ffrainc gynt. Bu’r bardd a’r cyhoeddwr o Algeria, Habib Tengour, yn trafod rôl y bardd ble mae dau fôr yn cwrdd, Môr y Canoldir a Môr yr Iwerydd, gan esbonio pam ei fod yn ysgrifennu mewn Ffrangeg, a pham ei bod yn bwysig creu lle yn niwylliant Algeria i farddoniaeth ryngwladol mewn cyfieithiadau. Yn olaf, bu Pierre Joris, bardd o’r Unol Daleithiau, a anwyd yn Lwcsembwrg, yn siarad am y gwaith cyfieithu y bu’n ei wneud ar hyd ei oes fel ‘gwasanaeth fferi’ yn ôl ac ymlaen ar draws Môr yr Iwerydd, gan gynnwys ei gyfieithiad o Tengour a’i gydweithrediad â Tengour. Datgelodd y tri siaradwr fod y sgyrsiau sy'n ymwneud â chyfieithu barddoniaeth yn elfen hanfodol o gyfnewid diwylliannol. Mae sgyrsiau o'r fath yn ganolog i'r cyfarfodydd rhithwir a fydd yn mynd rhagddynt yr haf yma, ac yn y gynhadledd fyw ym Mangor fis Mehefin 2022. Mae manylion yr holl ddigwyddiadau yma:http://transatlantic-translation.bangor.ac.uk/
Fe’u cyflwynir ar y cyd â Chanolfan Barddoniaeth ContemPohttp://contempo.bangor.ac.uk/a Chanolfan Barddoniaeth a Barddoneg Sheffield gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2021