Llwyddiant Efrydiaethau ESRC Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
Mae cydweithwyr o Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes wedi sicrhau tair efrydiaeth PhD o fri a chystadleuol iawn gan yr ESRC (Economic and Social Research Council), i ddechrau ym mis Hydref 2021.
Mae Ysgol Busnes Bangor yn falch o gyhoeddi bod Miss Yi Ou wedi derbyn Efrydiaeth ESRC ym maes Busnes a Rheolaeth. Yn unol â ffocws yr Ysgol Busnes ar gynaliadwyedd, bydd Miss Ou yn astudio ar gyfer MSc mewn Dulliau Ymchwil a ariennir yn llawn, gan ddechrau ym mis Hydref 2021, cyn cychwyn ar PhD o'r enw “A all cyfryngu ariannol liniaru newid yn yr hinsawdd?”. Bydd ei hastudiaeth yn ymchwilio a yw cwmnïau sy’n llygru yn talu digon am eu hôl troed carbon, a'r effaith gysylltiedig ar newid yn yr hinsawdd. Mae gan Miss Ou radd MSc mewn Cyllid Ynni o Brifysgol Dundee a’r China University of Petroleum- Beijing, ac mae'n dod i Fangor ar ôl cyhoeddi ymchwil mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw. Bydd Miss Ou yn cael ei goruchwylio gan yr Athro Yener Altunbas, Dr Rhys ap Gwilym a Dr Alessio Reghezza.
Mae'n bleser gan yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth a'r Cyfryngau groesawu dau ymgeisydd PhD a ariennir gan yr ESRC / Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru mewn Dwyieithrwydd, un o gryfderau ymchwil yr Ysgol hon. Bydd Jago Williams, myfyriwr israddedig cyfredol mewn Ieithyddiaeth, yn ymgymryd ag MA mewn Dwyieithrwydd gan symud ymlaen i broject PhD sy'n cynnig yr astudiaeth systematig gyntaf o iaith mewn plant dwyieithog Cymraeg-Saesneg â syndrom Down ac awtistiaeth. Dan oruchwyliaeth Dr Eirini Sanoudaki, mae'r project yn deillio o gydweithrediad ymchwil parhaus Eirini â Chymdeithas Syndrom Down. Bydd Bethan Collins, a raddiodd ym Mhrifysgol Bangor, yn ailymuno â'r Adran Ieithyddiaeth i archwilio datblygiad iaith plant dwyieithog Cymraeg-Saesneg mewn ysgolion cynradd. Mae project Dwyieithrwydd PhD Bethan yn adeiladu'n uniongyrchol ar ei phrojectau traethodau BA Ieithyddiaeth a’i gradd MSc mewn Caffael a Datblygu Iaith. Bydd Dr Sanoudaki ac Athanasia Papastergiou yn goruchwylio Bethan.
Meddai'r Athro Sue Niebrzydowski, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-radd y Coleg, "Mae lefel y llwyddiant wrth sicrhau'r efrydiaethau hyn yn dyst i'r amser a'r ymdrech y mae goruchwylwyr yn eu cymryd wrth fentora ceisiadau, i ansawdd ymgeiswyr, a'r broses adolygu ceisiadau’n gadarn a ddilynir yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Llongyfarchiadau i bawb dan sylw."
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2021