Cyrchfannau Graddedigion
Mae ein graddau wedi’u cynllunio’n ofalus i ddatblygu law yn llaw â’r amgylchedd cyfreithiol sy’n newid yn barhaus, ac i roi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r medrau cyfreithiol sy’n ofynnol gan ddiwydiant sy’n dod yn fwyfwy byd-eang. Mae hyn yn golygu bod ein graddedigion yn mynd ymlaen i nifer o gyrchfannau, yn cynnwys cyflogaeth, astudiaeth bellach, hyfforddiant cyfreithiol a’r byd academaidd.
Graddau Cymhwysol yn y Gyfraith
Mae ein holl gynlluniau gradd LLB yn Raddau Cymhwysol yn y Gyfraith, sy’n golygu eu bod wedi’u cymeradwyo gan Gymdeithas y Gyfraith dros Gymry a Lloegr ac wedi’u cydnabod ar gyfer mynediad at yr hyfforddiant galwedigaethol proffesiynol sydd ei angen i ddod yn Gyfreithiwr neu’n Fargyfreithiwr. Mae ein rhaglenni Ôl-radd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd gyda chwmnïau cyfreithiol, sefydliadau rhyngwladol, llywodraeth leol, addysgu ac ymchwil.
Mae’r profiad academaidd a gynigir gan yr Ysgol wedi’i gyfoethogi gan raglen o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i annog myfyrwyr i gyflymu eu datblygiad personol ac i feithrin medrau a fydd yn rhoi mantais iddynt yn y farchnad swyddi sy’n dod yn fwyfwy cystadleuol.
Cyrchfannau diweddar graddedigion
Yn ddiweddar, mae graddedigion o Fangor wedi cael gwaith neu gyfleoedd ar gyfer astudiaeth bellach yn rhai o’r sefydliadau isod:
- Lincoln’s Inn (Bar)
- Y Deml Ganol (Bar)
- Coleg y Gyfraith (Hyfforddiant ar gyfer Cyfreithwyr)
- Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi, Cyfreithiwr Trysorlys
- Bar Efrog Newydd
- Prifysgol Arizona
- Banc Shanghai
- Y Cenhedloedd Unedig
- Llywodraeth Prydain
- Gweinyddiaeth Datblygiad Cyfalaf Ffederal yn Nigeria
- Rheolaeth ar Fewnfudo
- Banc Cronfa Malawi
- Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi
- Swyddfa’r Cabinet, Llundain
- Sefydliad Rhydychen dros Ymarfer Cyfreithiol (Cwrs Ymarfer Cyfreithiol)
- Cyfreithwyr Wilson Browne
- Coleg y Gyfraith, Caer
- Cyfreithwyr Stephenson LLP
- Cyngor Gwynedd
- Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste (Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol yn y Bar)
- Comisiwn Henoed Cymru
- Marsden a Rawthorn
- Cyfreithwyr Edward Hughes
- Y Llu Awyr Brenhinol
- Cyngor Ar Bopeth
- Cyfreithwyr Cordner Lewis
- Tudur Owen Roberts Glynne a’r Cwmni
- Howell Davies a’r Cwmni
- Prifysgol Caer-wysg
- Ernst a Young (adran Cyfalaf Dynol)
- Monbus (adran gyfreithiol)
- FoxMandal Little
- Prifysgol Portsmouth
- Banc Canolog Llywodraeth Sindh