Cynnal Ffug Lysoedd
Gweithgaredd yw cynnal ffug lysoedd barn lle mae myfyrwyr y gyfraith yn dadlau achosion cyfreithiol ffug mewn sefyllfaoedd sy'n ymdebygu i achosion llys go iawn. Mae dau bâr o ddadleuwyr - yr Apelwyr a'r Atebwyr - yn dadlau'r achos o flaen 'barnwr' (gan amlaf bydd yn ddarlithydd neu fyfyriwr ôl-radd). Nid y tîm sy'n ennill yr achos o anghenraid yw'r tîm buddugol, ond y tîm sy'n cyflwyno eu dadleuon cyfreithiol orau.
Pam cynnal ffug lysoedd?
Mae cynnal ffug lysoedd yn ychwanegiad defnyddiol at radd yn y gyfraith gan ei fod yn dangos i fyfyrwyr sut y gellir defnyddio gwybodaeth gyfreithiol mewn sefyllfaoedd go iawn. Mae'n rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau dadansoddi, dehongli a chyfreithiol, a gall hefyd gynorthwyo myfyrwyr i wella eu hyder wrth siarad yn gyhoeddus, ymchwilio, datrys problemau a rhoi cyflwyniadau. Mae'n mynd yn gynyddol anodd mynd i'r proffesiwn cyfreithiol ac yn aml mae ffurflenni cais am gyrsiau cyfreithiol proffesiynol ac i ymuno â chwmnïau cyfreithwyr a siambrau bargyfreithwyr yn nodi ei bod yn hanfodol bod ymgeiswyr yn gallu rhoi tystiolaeth o'u profiad o ddadlau achosion neu gymryd rhan mewn ffug lysoedd tra oeddent mewn prifysgol. Rydym ni wedi ymateb i'r alwad hon drwy roi digon o gyfleoedd i fyfyrwyr gael profiadau ymarferol o ddadlau mewn ffug lysoedd.
Ffug Lysoedd yn Ysgol y Gyfraith ym Mangor
Ers iddi gynnal cystadleuaeth ryngwladol bwysig, sef Cystadleuaeth Ewropeaidd Ffug Lys Barn yn 2009, mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi datblygu yn un o'r ysgolion mwyaf gweithgar a llwyddiannus yn y maes yma yng Nghymru.
Dros y blynyddoedd rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn ffug lysoedd barn a'n darpariaeth ohonynt. Erbyn hyn mae gennym ddeg o gystadlaethau ffug lysoedd barn mewnol, rydym yn cystadlu'n rheolaidd mewn wyth cystadleuaeth genedlaethol ac rydym yn gysylltiedig â thair cystadleuaeth ryngwladol. Rydym wedi meithrin cysylltiadau cryf â Chanolfan Cyfiawnder Troseddol Caernarfon, Llys y Goron Manceinion, Llys Ynadon Salford, Canolfan Cyfiawnder Sifil Manceinion a nifer fawr o farnwyr blaenllaw. Yn 2014 fe wnaethom agor replica o ystafell llys ar y campws ar gost o £25,000.
Tra bo dadlau mewn ffug achosion yn awr yn elfen graidd o'n modiwl 'Sgiliau Cyfreithiol', ac yn fodiwl dewisol i fyfyrwyr blwyddyn dau sy'n gwneud y cwrs 'Ffug Lysoedd a Moeseg Gyfreithiol Uwch', mae gweithgaredd gwirfoddol dan arweiniad myfyrwyr hefyd ar gael a drefnir gan ein Cymdeithas Adfocatiaeth Gyfreithiol Myfyrwyr.
Cystadlaethau
Erbyn hyn mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan yn rheolaidd yn y cystadlaethau a ganlyn:
Cystadlaethau mewnol |
Cystadlaethau cenedlaethol |
Cystadlaethau rhyngwladol |
|
|
|
Cydlynydd Ffug Lysoedd
Stephen Clear yw Cydlynydd Ffug Lysoedd yr Ysgol. Bu'n gyfrifol am sefydlu cystadlaethau mewnol cyntaf Ysgol y Gyfraith Bangor yn 2008-09, sef y McLaren Criminal Law Moot a Ffug Lys Cymreig Cwpan Griffiths. Ers hynny mae wedi arwain yr Ysgol i gymryd rhan mewn amryw o gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol pwysig. Fel arweinydd modiwl 'Sgiliau Cyfreithiol' a 'Ffug Lysoedd a Moeseg Gyfreithiol Uwch', mae'n gyfrifol ar hyn o bryd am ddysgu sgiliau dadlau mewn ffug lysoedd ym Mangor. Hefyd yn 2015 fe wnaeth Stephen, gyda Dr Yvonne McDermott Rees, hyfforddi tîm israddedigion Bangor i gymryd rhan yng nghystadleuaeth K.K. Luthra International Criminal Law Moot yn New Delhi, India.