/sites/default/files/styles/16x9_1920w/public/2024-02/24-1%200-22%20Bangor%20Uni%20%201959.jpg?h=c14a4d56&itok=Fk3qrCrY

Y Gyfraith

Mae’r Gyfraith ym Mangor yn llwybr gwych i’r rhai sydd yn edrych ar yrfa yn y sector cyfreithiol fel Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr ac i’r rhai sy’n edrych am sgiliau trosglwyddadwy i weithio mewn diwydiannau eraill. Mae ein hacademyddion yn angerddol am y pynciau y maent yn eu haddysgu ac yn ysbrydoli myfyrwyr i wneud gwahaniaeth yn y byd.

Ar y dudalen hon:
Dechreuwch eich gyrfa yn y gyfraith

Beth yw gradd LLB?

Mae'n debyg mai gradd LLB yw'r math mwyaf cyffredin o radd israddedig yn y gyfraith. Mae'n cael ei hastudio gan israddedigion sy'n dymuno ymarfer yn y gyfraith yn ogystal â'r myfyrwyr hynny sy'n mynd i mewn i broffesiynau eraill nad ydynt yn ymwneud â'r gyfraith yn y pen draw. Mae graddau LLB yn cael eu hystyried yn raddau trwyadl sy'n hyfforddi graddedigion at amryw o  gyfleoedd o ran gyrfa.

Mae'r LLB yn radd gymhwysol dros dair blynedd yn y gyfraith sy'n eich arwain at y cam nesaf o hyfforddiant yn y proffesiwn cyfreithiol. Cewch ddilyn llwybr Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr (SQE) ar gyfer cyfreithwyr neu'r BPTC ar gyfer bargyfreithwyr.

Bydd rhaglen LLB yn edrych ar wahanol feysydd o’r Gyfraith, gan gynnwys Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Contractau, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Tir a’r Deyrnas Unedig, Cyfraith Undeb Ewrop a Brexit. Fel rhan o'ch gradd LLB cewch ddewis modiwlau dewisol mewn meysydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt ac y gallech fod am eu dilyn yn y dyfodol. Ym Mangor mae gan ein hacademyddion amrywiaeth o ddiddordebau o fewn y Gyfraith sy'n cynnwys pynciau megis Cyfraith Teulu a Lles, Cyfraith Chwaraeon, Cyfraith y Cyfryngau, Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith a Thechnoleg, Cyfraith Amgylcheddol a Bywyd Gwyllt Mewn Perygl a Chyfraith Ryngwladol.

Mae hyn yn golygu bod ein graddau’n cynnwys llwybr sy'n eich galluogi i astudio'r deunydd sydd ei angen arnoch i sefyll Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr (‘SQE’).

Yn ogystal â chynnig sylfaen gadarn yn y gyfraith, mae graddau LLB Bangor hefyd yn adlewyrchu amgylchedd cyfreithiol yr 21ain ganrif trwy ganolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau cyfreithiol sydd eu hangen yn y Deyrnas Unedig, yn Ewrop ac yng ngweddill y byd.

Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (2022), cafodd Ysgol y Gyfraith ym Mangor sgôr boddhad myfyrwyr ardderchog o 84% yn y Gyfraith, sy’n adlewyrchu’r gefnogaeth ardderchog a roddir i fyfyrwyr ym Mangor ynghyd â’r dosbarthiadau llai o faint o’u cymharu ag ysgolion y gyfraith mwy ym Mhrydain.

Os hoffech astudio pwnc arall yn ychwanegol at y Gyfraith, ond eich bod hefyd am sicrhau eich bod yn astudio Gradd Gymhwysol yn y Gyfraith, dylech ystyried un o’n cyrsiau gradd 'Y Gyfraith gyda phwnc arall'.

 Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yw’r asesiad canolog ar gyfer unrhyw un sydd am gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Mae’n rhan o lwybr pedwar cam i ddod yn gyfreithiwr.

Mae holl raddau LLB Bangor yn cynnwys paratoad at arholiadau cymhwyso cyfreithwyr. Mae hyn yn golygu bod ein graddau yn cynnwys llwybr sy'n eich galluogi i astudio'r deunydd sydd ei angen arnoch i sefyll arholiad cymhwyso cyfreithwyr (SQE). P’un a ydych yn dewis llwybr SQE ai peidio, mae ein holl raddau LLB yn mynd ymhellach, trwy gyfuno’r elfennau hyn i’ch paratoi at sefyll yr arholiad cymhwyso cyfreithwyr ag astudiaeth feirniadol ac academaidd o’r gyfraith i ddeall rhan y gyfraith mewn cymdeithas a mynd i’r afael â materion cyfreithiol cyfoes. Darperir hyn drwy'r modiwlau craidd a dewisol sydd ar gael ar gyrsiau gradd LLB Bangor.

O fis Medi 2021, yr arholiad cymhwyso cyfreithiwr (SQE) yw’r asesiad newydd y mae’n rhaid i’r rhai sy’n dymuno cymhwyso fel cyfreithiwr lwyddo ynddo. Mae hyn yn disodli'r radd gymhwyso yn y gyfraith a'r cwrs ymarfer cyfreithiol. Mae'r broses o gymhwyso fel bargyfreithiwr yn aros yr un fath.

Mae dwy elfen i'r SQE, sef SQE1 ac SQE2. Rhaid cwblhau SQE1 cyn SQE2.

Mae dwy elfen i SQE1, sef FLK 1 ac FLK2. Mae'r ddwy elfen yn rhoi eich dealltwriaeth o 'wybodaeth gyfreithiol weithredol' ar brawf, trwy 180 o gwestiynau amlddewis wedi eu rhannu'n ddwy sesiwn.

Mae FLK 1 yn profi'r meysydd pwnc isod;

  • Cyfraith ac Ymarfer Busnes
  • Datrys Anghydfodau
  • Contract
  • Camwedd
  • System Gyfreithiol Cymru a Lloegr.
  • Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol a Chyfraith yr UE a Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae FLK 2 yn profi'r meysydd pwnc isod;

  • Ymarfer Eiddo
  • Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau
  • Cyfrifon Cyfreithwyr
  • Cyfraith Tir
  • Ymddiriedolaethau
  • Cyfraith ac Ymarfer Troseddol

Mae Moeseg ac Ymddygiad Proffesiynol yn cael eu cynnwys mewn modd 'treiddiol' ar draws FLK 1 ac FLK 2, sy'n golygu y gall godi mewn unrhyw gwestiwn.

Er mwyn llwyddo SQE1, rhaid cael marc llwyddo yn FLK1 a FLK2. Cynhelir yr asesiadau ym mis Ionawr a mis Gorffennaf bob blwyddyn.

Mae SQE2 yn asesiad seiliedig ar sgiliau sy'n cynnwys y sgiliau canlynol.

  • Cyfweliad cleient a nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol
  • Eiriolaeth
  • Dadansoddiad achos a mater
  • Ymchwil gyfreithiol
  • Ysgrifennu cyfreithiol
  • Drafftio cyfreithiol

Ym mhob un o raddau LLB Bangor, caiff myfyrwyr gyfle i brofi a dysgu'r sgiliau hyn ar draws y modiwlau craidd.

Ein hargymhelliad yw bod myfyrwyr, ar ôl cwblhau LLB Bangor, yn dilyn cwrs paratoi SQE byr, i baratoi at natur benodol arholiadau SQE1 ac SQE2.

I gael rhagor o wybodaeth am yr SQE, ewch i wefan y Solicitor Regulation Authority.

Beth yw ffug lys?

Os ydych am astudio'r Gyfraith efallai eich bod wedi clywed am ffug lys, ond a ydych yn gwybod beth yw ffug lys? Ffug lys yw llys barn ffug lle mae dwy ochr yn dadlau pwynt cyfreithiol o flaen rhywun sy’n gweithredu fel barnwr. Bydd y barnwr wedyn yn penderfynu pwy yw'r enillydd unwaith y bydd wedi clywed cyflwyniadau gan y ddwy ochr.

Os ydych yn ystyried bod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr mae sgiliau ffug lys yn rhai pwysig i'w cael. Mae astudio LLB yn y Gyfraith ym Mangor yn rhoi cyfle i chi ymarfer eich sgiliau ffug lys yn ein ffug lys ar y campws.

Mae cymryd rhan mewn ffug lys yn ffordd wych o ennill y sgiliau rydych eu hangen i fod yn gyfreithiwr. Mae'n helpu i ddatblygu sgiliau cyfreithiol, sgiliau dadansoddi a sgiliau dehongli. Bydd ymarfer mewn ffug lys yn eich helpu i ddod yn fwy hyderus ac adeiladu eich sgiliau personol o siarad cyhoeddus. Mae ymryson yn galluogi myfyrwyr i;

  • archwilio, dadlau a beirniadu meysydd a dadleuon cymhleth yn y gyfraith
  • gwella eu sgiliau eiriolaeth, ymchwil cyfreithiol ac ysgrifennu
  • gweithio’n agos gyda chyfoedion • ymarfer ymgysylltu â'r fainc a dod yn fwy hyderus wrth ddadlau eu hachos.
Fel ysgol lai, gallwn gynnig mwy o gyfleoedd ffug lys i fyfyrwyr na sefydliadau eraill. Bydd myfyrwyr y gyfraith ym Mangor yn dadlau achosion cyfreithiol ffug mewn sefyllfaoedd sy'n ymdebygu i achosion llys go iawn. Mae dau bâr o ddadleuwyr - yr Apelwyr a'r Atebwyr - yn dadlau'r achos o flaen 'barnwr', gan amlaf bydd yn ddarlithydd neu fyfyriwr ôl-radd. Nid y tîm sy'n ennill yr achos o anghenraid yw'r tîm buddugol, ond y tîm sy'n cyflwyno eu dadleuon cyfreithiol orau.
Cyn Fyfyriwr - Adam Steven Gulliver

Adam Gulliver

Ni ellir gorbwysleisio’r dylanwad a gafodd Bangor ar fy ngyrfa a fy mywyd. Roedd y ffordd y cyflwynwyd yr addysgu ym Mangor, ynghyd â'r gefnogaeth academaidd a bugeiliol ragorol a gefais, wedi caniatáu i mi ffynnu yn academaidd, ac arwain at ennill gradd Dosbarth Cyntaf. Rwy'n priodoli'r llwyddiant mawr hwnnw i raddau helaeth, nid yn unig i'm gwaith, ond hefyd i ymrwymiad ac ymroddiad y darlithwyr ac ansawdd cyffredinol Ysgol y Gyfraith ei hun.

Gyrfaoedd y Gyfraith

Gall astudio'r Gyfraith arwain at yrfa yn y proffesiwn cyfreithiol neu mewn diwydiannau eraill. Mae'r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu meithrin wrth astudio'r gyfraith yn golygu bod graddedigion yn gyflogadwy iawn mewn meysydd y tu allan i'r proffesiwn cyfreithiol.

Mae dewis y Gyfraith ym Mangor yn rhoi cyfleoedd i chi wella eich sgiliau, mae ein cyrsiau'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd a byddwch hefyd yn gallu cael cymorth cyflogadwyedd trwy ein Tîm Cyflogadwyedd.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich gradd LLB gallwch ddewis cwblhau'r Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr a dod yn Gyfreithiwr. Bydd angen i chi gwblhau eich profiad gwaith cyfreithiol cymhwysol, sef fel arfer contract hyfforddi cyn cymhwyso'n llawn.

Mae cyfreithiwr yn ymgynghorydd hyderus, bydd yn meddu ar sgiliau pobl rhagorol a bydd yn rhoi arweiniad a chymorth cyfreithiol i gleientiaid. Unwaith y byddwch wedi cymhwyso gallwch weithio mewn practis preifat, i sefydliad, yn y llywodraeth neu yng ngwasanaethau’r llys.

Mae cyfreithwyr yn ymarfer mewn ystod o feysydd o fewn y gyfraith, gall y rhain gynnwys y canlynol;

  • Eiddo
  • Ymgyfreitha Sifil
  • Cyfiawnder Troseddol
  • Cyflogaeth
  • Teulu
  • Hawliau Dynol
  • Lles Cymdeithasol a Thai
  • Treth
  • Mewnfudo
  • Preifat.

Mae cyfreithwyr yn aml hefyd yn rhoi o'u hamser i helpu cleientiaid nad ydynt yn gallu talu am wasanaethau cyfreithiol, gelwir hyn yn waith pro bono.

Mae astudio'r Gyfraith yn rhoi llwybr i chi ddod yn Fargyfreithiwr. I fynd yn fargyfreithiwr, mae'n rhaid i raddedigion wneud y cwrs blwyddyn, Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar (BPTC), a ddilynir gan gyfnod o hyfforddiant a elwir yn dymor prawf. Cewch ragor o wybodaeth am gymhwyso fel bargyfreithiwr ar wefan Bwrdd Safonau'r Bar.

Mae bargyfreithwyr yn ymroddedig, yn gweithio'n galed ac yn angerddol. Mae bargyfreithwyr yn cynrychioli eu cleientiaid yn y llys, gan ddadlau'r achos ar ran eu cleient. Gall hyn gynnwys holi tystion a dadlau pwyntiau cyfreithiol cymhleth, gan esbonio pam y dylai'r llys ddyfarnu o blaid eu cleient. Y tu allan i'r llysoedd, gall bargyfreithwyr ddarparu cyngor, a elwir hefyd yn 'farn', ar anghydfod neu fater cyfreithiol a gyfeiriwyd atynt gan gyfreithiwr. Gall y farn hon roi syniad o’r tebygolrwydd o ennill pe bai'r achos yn mynd i dreial, a allai annog y cleient i negodi setliad heb i'r mater fynd i'r llys.

Mae rhai graddedigion y Gyfraith yn dewis aros mewn addysg a defnyddio eu gradd yn y gyfraith i addysgu eraill. I ddod yn ddarlithydd yn y gyfraith mae myfyrwyr fel arfer yn aros ac yn cwblhau gradd meistr yn y gyfraith cyn mynd ymlaen i gwblhau PhD. Os byddai’n well gennych fynd i addysgu ar lefel ysgol uwchradd, fel arfer bydd angen i chi gwblhau cwrs hyfforddiant athrawon mewn pwnc perthnasol.

Os ydych yn bwriadu ymarfer y Gyfraith mewn gwlad arall (e.e. os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy’n bwriadu ymarfer y Gyfraith yn eich mamwlad), sicrhewch eich bod yn ymchwilio i’r gofynion ar gyfer ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol yn y wlad benodol honno, a all fod yn wahanol i’r gofynion yng Nghymru a Lloegr.

Gyrfaoedd eraill o fewn y proffesiwn cyfreithiol y gallech fod am eu hystyried;

  • Ysgrifennydd Cwmni
  • Crwner
  • Barnwr
  • Ysgrifennydd Cyfreithiol
  • Cyfryngwr
  • Paragyfreithiwr
  • Twrnai

Mae nifer fawr o opsiynau ar gael i raddedigion yn y Gyfraith sydd yn dymuno dilyn gyrfa y tu allan i’r proffesiwn cyfreithiol. Trwy astudio’r Gyfraith mae myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth dda iawn o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys cyfathrebu, datrys problemau, cynnal trafodaethau a gwaith tîm.

Mae'r un faint o alw am sgiliau felly mewn meysydd megis gwaith ymgynghorol. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor ar les a thai; gweithio mewn awdurdod lleol e.e. swyddogion safonau masnach, cyfrifeg yn arbennig archwilio, sy’n gofyn am fedrusrwydd ariannol a chyfreithiol; rheoli adnoddau dynol, Cyllid y Wlad, y Gwasanaeth Sifil, yr Heddlu, Newyddiaduraeth, a Rheoli Gwybodaeth. Meysydd eraill y gallai myfyrwyr ddymuno mynd iddynt yw bancio buddsoddi, gwleidyddiaeth, yr heddlu, neu reoli.

Mae graddau LLB ‘ Y Gyfraith gyda phwnc arall’ ym Mhrifysgol Bangor hefyd yn galluogi myfyrwyr i feithrin gwybodaeth a sgiliau mewn meysydd pwnc eraill. Mae'r rhaglenni gradd hyn yn arbennig o addas i ymgeiswyr sy’n ystyried gyrfaoedd mewn meysydd gwaith y tu allan i’r proffesiwn cyfreithiol.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gyfraith . 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gyfraith llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudioGyfraith ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gyfraith ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Y Gyfraith

Mae ein darlithwyr yn ymchwil-gynhyrchiol. Mae sawl aelod staff wedi gweithio'n flaenorol fel gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith mewn swyddi fel barnwyr, cyfreithwyr ac ynadon. Mae hyn yn golygu bod eich holl ddarlithwyr yn meddu ar wybodaeth arloesol yn eu meysydd pwnc. Pam fod hyn yn bwysig? Mae'n ein galluogi i fywiogi dysgu a rhoi'r syniadau diweddaraf i chi yn y dosbarth.

Ynghyd â'r cyfuniad cyfoethog hwn o gefndiroedd, mae ymchwil aelodau staff yn adlewyrchu diddordebau ac arbenigedd amrywiol mewn meysydd fel Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Cyllid Corfforaethol, Cyfraith Forwrol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Cwmnïau, Cyfraith Weinyddol, Cyfraith Plant a Theuluoedd a Chyfraith Eiddo Deallusol. 

 

Gweithio gyda'r gymuned

Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o weithio gyda'r gymuned, a chredwn yn gryf yn y cysylltiad arbennig rhwng y sefydliad a'r ardal yr ydym wedi'n lleoli ynddi. Dyma rai enghreifftiau o brojectau yn ymwneud â Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas:

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?