Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion Diweddaraf

Gwybodaeth newydd am ymwrthedd i gyffuriau canser

Cyhoeddwyd ymchwil o labordy Dr Edgar Hartsuiker yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Bangor, yn rhifyn diweddaraf (29 Mai) y cyfnodolyn uchel ei barch Science Advances.

Mae llawer o gyffuriau canser yn lladd celloedd canser trwy rwystro dyblygiad eu deunydd genetig, sef y DNA. Un o'r cyffuriau hyn yw Gemcitabine, a ddefnyddir i drin canser y pancreas, y bledren a'r ysgyfaint, ymhlith eraill. Mae Gemcitabine yn dynwared un o flociau adeiladu DNA, diocsisytidin niwcleosid, ac yn cystadlu ag ef i integreiddio i DNA celloedd canser. Ar ôl iddo integreiddio, mae'n rhwystro'r DNA rhag dyblygu ac mae hynny'n rhwystro'r gell ganser rhag rhannu.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2020