Newyddion Diweddaraf

CAHB Graduate Research Induction Event (MRes, MPhil, PhD)

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2019

Gwenan Gibbard i Hela'r Hen Ganeuon

Gwenan Gibbard yw enillydd Ysgoloriaeth Ddoethurol i astudio cyfraniad Dr. Meredydd Evans a Phyllis Kinney i faes cerddoriaeth werin yng Nghymru.

Mae Gwenan Gibbard, sydd yn hanu o Bwllheli yn adnabyddus ym maes cerddoriaeth werin Cymru fel telynores a chantores, yn berfformwraig, cyfansoddwraig, ac fel beirniad a chyfeilydd ar lefel genedlaethol. Mae hi wedi teithio yn helaeth yn perfformio yn unigol ac fel rhan o brosiectau cerddorol ac wedi cyhoeddi tri albwm unigol gyda chwmni Sain : Y Gwenith Gwynnaf (2006), Sidan Glas (2010), Cerdd Dannau (2013) ac un EP: Y Gorwel Porffor (2015). Mae’n ffigwr amlwg yng Nghymdeithas Alawon Gwerin Cymru, a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac yn arweinydd a hyfforddwraig Côr yr Heli sy’n arbenigo ar gerdd dant a chanu gwerin.

Cynllun ar y cyd rhwng Yr Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Aberystwyth), Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw hwn. Nod a bwriad yr Ysgoloriaeth PhD (a noddir gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru) fydd canolbwyntio ar agweddau penodol o fyd casglu alawon gwerin yn ail hanner yr 20fed a’r 21ain ganrif yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2019

Sefydliad Confucius yn ymuno â Choleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes

Yr haf hwn bydd sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn dod yn rhan o Goleg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes y brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019

Eisteddfod brysur arall i Brifysgol Bangor yn Eisteddfod Llanrwst 2019

Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cymryd rhan flaenllaw eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm y Maes, bydd rhaglen lawn o weithgareddau hefyd ar stondin y brifysgol ar y Maes eto eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019

Grym llesol y gân yn gyrru llwyddiannau Alistair

I Alistair O’Mahoney, 21 oed ac o Gastell Nedd, roedd dewis astudio Cerddoriaeth yn y brifysgol yn gam cwbl naturiol iddo. Yn perthyn i deulu cerddorol, bu’n derbyn gwersi piano o oed cynnar a bu hefyd yn aelod o fand pres ei sir, gan chwarae ger un o gofgolofnau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf, y Menin Gate, ar safle brwydro Ypres yn ystod un taith dramor â’r band.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2019