Archif Newyddion: Ebrill 2017

Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi cyfleuster ymchwil cenedlaethol newydd ar gyfer uwch-gyfrifiadura

Bydd Uwch-gyfrifiadura Cymru yn galluogi ymchwil wyddonol o'r radd flaenaf ledled y wlad

Mae prifysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi rhaglen uwch-gyfrifiadura newydd gwerth £15m.

Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bydd 'Uwch-gyfrifiadura Cymru' yn galluogi'r wlad i gystadlu'n fyd-eang am waith ymchwil ac arloesedd sy'n gofyn am gyfleusterau cyfrifiadura o'r radd flaenaf er mwyn efelychu a datrys problemau gwyddonol cymhleth

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ebrill 2017

Project gwyddoniaeth Bangor ar restr fer am wobr UE am yr ail dro

Mae BREAD4PLA, project gwyddoniaeth a thechnoleg gwyrdd y chwaraeodd ymchwil Prifysgol Bangor ran allweddol ynddo, wedi ei roi ar restr fer y “Gwobrau Gwyrdd” fel un o’r projectau Amgylchedd LIFE gorau a gyflwynwyd yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ebrill 2017

Fact Check: Do six million people earn less than the living wage?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Tony Dobbins o’r Ysgol Funses sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2017

Rhinos should be conserved in Africa, not moved to Australia

Dyma erthygl yn Saesneg gan Matt Hayward o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2017

First investigation of eye-tracking in Electronic Gaming Machine play

Gan mai datganiad gan gorff allanol (GambleAware) yw hwn, nid yw ar gael yn Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2017

Prifysgol Bangor yn Nhablau Pynciau 10 Uchaf y DU

Yn ogystal â chael ei gosod yn drydedd yng Nghymru yn ôl tabl cynghrair TheCompleteUniversityGuide.co.uk ar gyfer 2018, mae'r Brifysgol hefyd yn ymddangos ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am bum pwnc a gaiff eu dysgu yn y Brifysgol.

Mae'r canllaw yn ategu’r wybodaeth sydd ar gael i ddarpar fyfyrwyr er mwyn eu helpu gyda'u penderfyniad, gan gynnwys y newyddion diweddaraf bod Prifysgol Bangor wedi ei gosod yn drydedd ym Mhrydain yn ôl y WhatUni Student Choice Awards (Ebrill 2017) ac hefyd wedi ennill gwobr y Clybiau a Chymdeithasau Gorau yn yr un digwyddiad.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2017

Gofalwyr ifanc yn cael blas ar Brifysgol

Gwahoddwyd gofalwyr ifanc sy’n byw ar draws Gogledd Cymru i gael blas ar fywyd prifysgol ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Daeth saith ar hugain o bobl ifanc, rhwng 15-20 oed, i fwynhau’r profiad blasu preswyl cyntaf yng ngogledd Cymru a gafodd ei gynllunio'n benodol ar eu cyfer. Roedd hyn yn bartneriaeth rhwng Canolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac Action for Children.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2017

Ymchwil arloesol i fuddion gemau cyfrifiadurol i drin Clefyd Parkinson

 

Mae niwrowyddonwyr yng ngogledd Cymru yn ymchwilio i fuddion posibl gemau cyfrifiadurol sy'n ysgogi'r ymennydd i drin Clefyd Parkinson.

Arweinir yr astudiaeth gan ymchwilwyr yn Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac arbenigwyr niwrolegol yng Nghanolfan Walton, Lerpwl.

Maen nhw'n astudio effeithiau sgrin gyffwrdd gyda gemau rhesymu gofodol ar ran o'r ymennydd a ddefnyddir i reoli symudiadau mewn cleifion Parkinson.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2017

Ymuno i gael ynni rhatach o lanw'r môr

Mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor yn lansio project mawr i astudio cynnwrf y llanw yn y Fenai. Sut gall y project hwn helpu i leihau costau datblygu, gan arwain at ynni rhatach o'r llanw?

Mae egni'r môr yn cynrychioli adnodd ynni helaeth a heb ei ddefnyddio gan fwyaf. Amcangyfrifwyd bod y farchnad fyd-eang am ynni morol werth tua £76 biliwn rhwng 2016 ac 2050, yn ôl y ffigurau a ryddhawyd gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.

Er mwyn cael mynediad i'r ffynhonnell hon o ynni, mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor wedi ennill dau grant mawr gwerth £230k i astudio'r cynnwrf yn y cefnfor. Yr amcan yw helpu i wella dyluniad a gweithrediad dyfeisiau i ddal ynni'r llanw.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2017

Myfyrwyr Mentrus yn llwyddo gyda’r Weiren Wib

Mae'r tîm Menter trwy Ddylunio yn falch iawn o gael y cwmni arloesol hwn fel y partner masnachol eleni i roi her ystyrlon i fyfyrwyr sydd eisiau cyfrannu at lwyddiant y cwmni yn y dyfodol.

Bu deuddeg o dimau amlddisgyblaethol yn cystadlu am y wobr ariannol o £5,000 ar ôl gweithio ochr yn ochr â hwyluswyr ôl-raddedig ac arbenigwyr academaidd am ddeg wythnos mewn proses oedd â phwyslais ar gynllunio i ddatrys y briff dylunio hwn yn y byd go iawn.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017

Ydych chi eisiau aros yn iach yn feddyliol pan fyddwch yn hŷn? Ysgogwch eich ymennydd pan fyddwch yn fengach

Yn ôl ymchwil newydd mae ysgogi'r ymennydd drwy gyflawni swyddogaethau arwain yn y gwaith, neu aros ymlaen mewn addysg, yn helpu pobl i aros yn iach yn feddyliol yn ddiweddarach mewn bywyd. 

Arweiniwyd yr ymchwiliad sylweddol gan Yr Athro Linda Clare o Brifysgol Exeter, ac a fu'n aelod o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor hyd yn ddiweddar, a chyhoeddwyd y canlyniadau yn y cyfnodolyn PLOS Medicine. Defnyddiwyd data a gasglwyd o dros 2,000 o bobl dros 65 oed a oedd yn ffit yn feddyliol, gan archwilio'r ddamcaniaeth bod profiadau sy'n rhoi her i'r ymennydd mewn ieuenctid a chanol oed yn gwneud pobl yn fwy gwydn i ddelio â newidiadau'n deillio o henaint neu salwch - mae ganddynt 'gryfder gwybyddol' uwch.   

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017

Gradd ddwbl yn derbyn gwobr bwysig gan y Gymdeithas Cyfreithwyr Ffrengig-Brydeinig

Mae'r Prifysgol Bangor a Université Toulouse-Capitole wedi derbyn Gwobr Robertson-Horsington 2017 gan y Franco-British Lawyers Society (FBLS) am eu rhaglen gradd ddwbl: y Drwydded/Meistr 1 mewn Cyfraith Ryngwladol / LLB Cyfraith Lloegr a Chyfraith Ffrainc.  

Mae'r cwrs arloesol, rhyngwladol hwn sy'n rhoi gradd ddwbl yn y gyfraith yn cael ei gynnig mewn partneriaeth gan Toulouse-Capitole, Ffrainc a Phrifysgol Bangor. Caiff myfyrwyr gyfle i dreulio dwy flynedd yn astudio'r gyfraith yn y ddwy wlad, gan arwain at dderbyn gradd LLB Brydeinig a gradd Meistr I Ffrengig ar ôl pedair blynedd. 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2017

All aboard for a train ticket to bring Europe together again

Dyma erthygl yn Saesneg gan , Ysgol Hanes ac Archaeoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2017

Heat from the Atlantic Ocean is melting Arctic sea ice further eastwards than ever before

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Tom Rippeth, Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2017

Rhannu arbenigedd mewn cynllunio a hyrwyddo’r Gymraeg efo ymwelwyr o Rwsia

Croesawodd Canolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau, technoleg ac ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor, ymchwilwyr academaidd o Rwsia yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2017

RoboLlywydd a Lleisiau Cymraeg eraill

Mae Prifysgol Bangor wedi creu offer newydd ar gyfer cynhyrchu lleisiau synthetig Cymraeg sy’n swnio’n naturiol iawn. Bydd y lleisiau hyn yn gallu darllen yn uchel unrhyw destun o gyfrifiadur neu ddyfais symudol.

Fel rhan o broject Macsen, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, datblygwyd dull cyflym a hawdd o baratoi promptiau, recordio llais unigolyn yn eu darllen, a defnyddio gwybodaeth am seiniau’r Gymraeg i adeiladu lleisiau synthetig sy’n swnio’n debyg iawn i lais yr unigolyn a recordiwyd.   

Yn nigwyddiad SeneddLab2017 yng Nghaerdydd yn ddiweddar, cafodd tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr gyfle i roi hyn ar brawf, gan adeiladu llais newydd mewn un awr i roi gwybodaeth lafar am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i alw yn ‘RoboLlywydd’. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2017

Bloomageddon: seven clever ways bluebells win the woodland turf war

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr vera Thoss  o’r Ysgol Gemeg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2017

Dyfarnu Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie yn y Brifysgol

Dr Alexander Sedlmaier, a reader in Modern History at Bangor University has been awarded a prestigious Marie Skłodowska-Curie Fellowship. These highly competitive fellowships are aimed at fostering interdisciplinary research, innovative academic training and international collaborations.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2017

Celebrated 'English' poet Edward Thomas was one of Wales' finest writers

Shortly after 7am on April 9 1917, 39-year-old writer Edward Thomas was killed by a shell during the Battle of Arras in northern France. He left a body of mostly unpublished work that has since cemented his place as one of Britain’s greatest poets.

This article by Andrew Webb, Senior Lecturer in English Literature, was originally published on The Conversation. Read the original article.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2017

Prifysgol Bangor yn ennill gwobr Brydeinig

Prifysgol Bangor  yw’r orau ym Mhrydain am ei darpariaeth o Glybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr a’r drydedd Brifysgol orau ym Mhrydain yn ôl gwobrau Student Choice Awards 2017, gyda’r enwebiadau’n seiliedig ar adolygiadau gwych gan ei myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2017

There are no two ways about it, grey squirrels are bad for the British countryside

Dyma erthygl yn Saesneg gan Craig Shuttleworth Cymrawd Ymchwil Arhydeddus o’r Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2017

Disgyblion yn derbyn gwobrau Ieithoedd Modern

Bu tua 150 o ddisgyblion 13-14 oed yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i dderbyn gwobrau ar ôl cymryd rhan yn y Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern, sy'n dangos i ddisgyblion ysgol pa mor fuddiol yw astudio ieithoedd tramor, cyn iddynt wneud eu dewisiadau TGAU.

Mae’r Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru (Gwe), Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Bangor, Sefydliad Confucius Bangor, y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru a Chymdeithas y Byddar Gogledd Cymru wedi cyflwyno cyfres o areithiau ysgogol a sesiynau blasu Mandarin, Galisieg ac Iaith Arwyddion.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2017

Gwaith ymchwil Prifysgol Bangor o gymorth wrth warchod rhywogaeth newydd i’r rhestr gwarchod

Rydym yn ymwybodol bod masnachu a chludo ifori yn cael ei reoli’n dyn er mwyn gwarchod eliffantod, a bod cynnyrch a ddaw o anifeiliaid eraill fel corn y rhinoseros hefyd yn cael ei reoli’n llym mewn ymgais i roi stop ar y fasnach anghyfreithlon a potsio neu herwhela, sydd yn fygythiad i oroesiad rhai rhywogaethau.

Mae’r rhestr y rhai a geir eu gwarchod yn ymestyn y tu hwnt i’r anifeiliaid mwyaf adnabyddus yr ydym mor hoff ohonynt.

Y corff sy’n gyfrifol am reoleiddio a monitro’r fasnach mewn cynnyrch bywyd gwyllt yw CITES (neu Convention on the International Trade in Endangered Species), ac mae 183  gwlad yn ardystion iddo.

Mae grŵp rhywogaeth arall bellach wedi ymuno â’r rhestr yn dilyn cyfarfod CITES diweddar, sef cath fôr y diafol, ac o heddiw ( 4 Ebrill) ymlaen, bydd y rheoliadau newydd yn cael eu gweithredu.

Mae un fyfyrwraig o Brifysgol Bangor yn chwarae rhan mewn gwarchod cath fôr y diafol (devil ray) a’r gath fôr manta, sydd eisoes yn cael ei gwarchod.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2017

Darlith Gyhoeddus Dr Rowan Williams: Worshipping God, Growing the Church, Loving the World.

Mae'n bleser mawr gan Dîm y Gaplaniaeth ym Mhrifysgol Bangor gyhoeddi y traddodir eu darlith gyhoeddus eleni gan Dr Rowan Williams. 

Mae’r ddarlith hon yn agored i bawb ac yn cael ei chynnal ar ddydd Llun 24 Ebrill am 7pm yn Narlithfa Lefel 5 Pontio. Saesneg fydd iaith y ddarlith.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2017

Datblygiadau diweddaraf ynni solar yn cael eu hamlygu ym Mhrifysgol Bangor

Y mis hwn bydd Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn cynnal Cynhadledd PVSAT 13 (Gwyddoniaeth, Cymhwysiad a Thechnoleg Ffotofoltaidd, 5-7 Ebrill), gan ddwyn ynghyd wyddonwyr gorau a mwyaf disglair y maes solar ar gyfer y gynhadledd bwysicaf ar ymchwil ynni solar yn y Deyrnas Unedig.

Caiff tua 5% o'n trydan ei gynhyrchu ag ynni solar yn y Deyrnas Unedig, ac oherwydd cynnydd o 25% mewn cynhyrchu ynni solar yn y blynyddoedd diwethaf a chostau cynhyrchu sy'n gostwng yn gynyddol, solar yw un o'r dulliau rhataf o gynhyrchu ynni ac mae'r dyfodol yn edrych yn llewyrchus i ynni solar. Mae'n parhau'n faes ymchwil poblogaidd yn sectorau gwyddoniaeth a pheirianneg prifysgolion y Deyrnas Unedig.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2017